Nyrsys CTM yn ennill gwobr genedlaethol am wasanaeth gofal iechyd arloesol i bobl ddigartref

Roedd dau nyrsys o Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn llwyddiannus yng Ngwobr Nyrs y Flwyddyn RCN Cymru eleni, am eu model gofal arloesol sy’n gwella mynediad at ofal iechyd i bobl sy’n profi digartrefedd.

Cafodd Tracy Evans, Arweinydd Nyrs Glinigol Arbenigol ar gyfer Oedolion Digartref ac Oedolion Agored i Niwed, a Rebecca Morgan, Arweinydd Tîm y Gwasanaeth Clinig Clwyfau, Wobr Gwella Iechyd Unigolion a'r Boblogaeth 2026 yn seremoni wobrwyo eleni.

Mae’r wobr, sy’n cydnabod y rhai sydd wedi cyfrannu at wella iechyd unigolion a/neu’r boblogaeth, yn cydnabod dull arloesol Tracy a Rebecca o ddarparu gofal clwyfau a gwasanaethau hyrwyddo iechyd i bobl sy’n wynebu rhwystrau sylweddol wrth geisio cael mynediad at leoliadau gofal iechyd traddodiadol.

Gan gydnabod bod apwyntiadau sy’n cael eu fethu’n aml yn gysylltiedig â heriau fel anawsterau trafnidiaeth, stigma, amgylchiadau byw ansefydlog ac anghenion iechyd cymhleth, datblygodd Tracy a Rebecca fodel clinig iechyd symudol sy'n mynd â gofal yn syth i'r cymunedau.

Gan weithio'n agos gyda The Wallich a phartneriaid eraill, maen nhw wedi creu gwasanaeth lle gall unigolion gael triniaeth ar gyfer clwyfau mewn amgylchedd croesawgar sydd heb farnu, tra hefyd yn cael mynediad at gymorth ar gyfer anghenion ehangach yn ymwneud ag iechyd a lles.

Mae eu dull wedi arwain at welliannau y gellir eu mesur. Yn ystod cyfnodau cymaradwy o ddau fis, gostyngodd nifer yr apwyntiadau sy’n cael eu fethu o 21 i ddim ond tri – gostyngiad o 85.7%. Mae'r gwasanaeth hefyd wedi helpu i feithrin ymddiriedaeth gyda phobl sydd wedi cael trafferth ymgysylltu â gwasanaethau gofal iechyd yn y gorffennol, gan eu hannog i ddychwelyd am ofal a chefnogaeth barhaus.

Wrth sôn am lwyddiant Tracy a Rebecca, dywedodd y Nyrs Arweiniol, Lisa King: “Rydym yn hynod falch o Tracy a Rebecca am dderbyn y gydnabyddiaeth genedlaethol hon, sydd wedi'i haeddu'n fawr. Mae eu hymroddiad, eu tosturi a’u hymrwymiad i ddarparu gofal i bobl sy’n profi digartrefedd yn wirioneddol ysbrydoledig.

“Trwy eu dull arloesol o hyrwyddo iechyd a gofalu am glwyfau, maen nhw’n parhau i wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau rhai o'r bobl fwyaf agored i niwed ar draws ein cymunedau. Mae'r wobr hon yn dyst i'w gwaith caled a'u hymrwymiad diwyro i ofal sy'n canolbwyntio ar y claf.”

Disgrifiodd RCN Cymru Tracy a Rebecca fel “partneriaeth nyrsio eithriadol”, gan ganmol eu tosturi, eu creadigrwydd a’u hymrwymiad i leihau anghydraddoldebau iechyd, tra’n trawsnewid y ffordd y mae pobl sy’n profi digartrefedd yn cael mynediad at ofal clwyfau.