Neidio i'r prif gynnwy

Newidiadau i ymweliadau ar gyfer Gwasanaethau Mamolaeth

 

Newidiadau o ran ymweld â’r Gwasanaethau Mamolaeth

Mae’n braf gyda ni lacio’r cyfyngiadau ar ymweld â’r Gwasanaethau Mamolaeth.

O ddydd Llun 11 Ebrill, bydd un person hefyd yn gallu ymweld â’n wardiau cyn-geni ac ôl-enedigol am sesiynau pedair awr bob dydd.

Bydd partneriaid geni’n gallu dod yn ystod asesiadau geni ac yn ystod pob archwiliad a thriniaeth sy’n cael eu cynnal mewn ystafell sengl. Pan fydd menyw’n barod i roi genedigaeth, bydd partner geni’n gallu aros gyda hi drwy’r holl broses a nes bod y fam newydd a’r babi’n cael eu trosglwyddo i’r ward.

Bydd modd ymweld â wardiau cyn-geni ac ôl-enedigol am fwy o amser, fel bod modd i fenywod gael mwy o gymorth gan eu partner geni ar adeg mor bwysig.

Rhaid i bob ymwelydd gadw pellter cymdeithasol o 1 metr a bydd angen gwisgo masg drwy gydol yr ymweliad.

 

Dilynwch y ddolen isod ar gyfer ein Cwestiynau Cyffredin am hyn.