Mae rhieni a gwarcheidwaid yn cael eu hatgoffa o bwysigrwydd rhoi dau ddos o’r brechlyn MMR i’w plant.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi datgan achosion o'r frech goch yn ardal Gwent ac mae'n annog rhieni a gwarcheidwaid i wirio statws MMR eu plentyn.
Mae'r frech goch fel arfer yn dechrau gyda symptomau tebyg i annwyd gan gynnwys llygaid yn rhedeg a thymheredd uchel. Mae'r frech fel arfer yn datblygu ar ôl 3-4 diwrnod, gan ddechrau gan amlaf o amgylch llinell y gwallt.
Dyma rai o’r rhesymau pwysig y dylai plant gael y ddau ddos o’u brechlyn MMR:
Os oes gennych chi neu eich plentyn symptomau'r frech goch dylech wneud y canlynol -
Gofyn am gyngor meddygol drwy ffonio GIG 111 Cymru neu fynd i 111.wales.nhs.uk
Gwneud yn siŵr eich bod yn rhoi gwybod i leoliadau gofal iechyd am symptomau fel brech neu dwymyn cyn mynd i apwyntiad.
Ni ddylai unigolion sy’n meddwl bod ganddynt y frech goch fynd i’r gwaith, ysgol, meithrinfa neu leoliadau gofal plant eraill tan 4 diwrnod llawn ar ôl i’r frech ddechrau a dim ond ar ôl gwella’n llwyr.
I gael rhagor o wybodaeth am y brechlyn MMR, gan gynnwys sut i wirio eich statws brechu yn eich ardal leol ewch i: Y Frech Goch, Clwy'r Pennau a Rwbela (MMR) - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru)
16/04/2024