Neidio i'r prif gynnwy

Mwy o wobrau ar gyfer Tîm Gweithlu a Datblygu CTM!

Yn gynharach y mis hwn, yng Ngwobrau Rhagoriaeth mewn Pobl y Gymdeithas Rheoli Pobl Gofal Iechyd (HPMA), roedd BIP CTM yn gyffrous i gael ei chynnwys ar y rhestr fer am ddwy wobr arwyddocaol. Mae gwobrau HPMA yn cydnabod ac yn dathlu gwaith gweithwyr proffesiynol Adnoddau Dynol, OD a gweithlu ledled y DU.

Ar y noson, cafodd y Tîm Datblygu Sefydliadol (Becky Dyer, Matthew Bidgood a Fahmin Khanum) ganmoliaeth uchel ac fe'u cydnabuwyd gan y beirniaid am eu gwaith yn newid diwylliant gwaith ac ymgorffori ein gwerthoedd ledled y sefydliad. 

Rhian Lewis, sy'n gweithio yn y Tîm Dysgu a Datblygu oedd enillydd cenedlaethol Gwobr ‘Rising Star’, gan gydnabod ei llwyddiannau ym maes datblygu staff CTM drwy gyfleoedd prentisiaeth a chreu Academi Brentisiaethau CTM newydd, gan helpu ymhellach i greu llwybrau newydd i gyflogaeth a helpu i fynd i'r afael â rhai o'r bylchau sgiliau yn y dyfodol.

Dywedodd Nick Carter, Pennaeth Datblygu Pobl; "Mae'r Tîm mor falch. Mae'r ddwy wobr yn cydnabod sut mae ein timau yn ceisio mynd y tu hwnt i'n holl ddisgwyliadau yn gyson a chael effaith a gwahaniaeth go iawn i'n staff a'n bywydau gwaith."

Llongyfarchiadau pawb!

 

14/12/2022