Neidio i'r prif gynnwy

Menywod CTM tu ôl i'r iwnifform: O Arbenigwr Gofal y Fron i'r Dywysoges Belle

Stori Zoe: Llawfeddyg, Mam, Deiliad Record

Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod eleni, rydym yn dathlu’r menywod anhygoel sy’n gweithio ar draws ein Bwrdd Iechyd, fel Zoe Barber, Llawfeddyg Oncoplastig y Fron Ymgynghorol a Chyfarwyddwr Arbenigedd Gwasanaethau Clinigol ar gyfer Gwasanaethau’r Fron yn BIP CTM. Nid yn unig y mae Zoe yn llawfeddyg ymroddedig ac yn fam i efeilliaid, ond mae hi hefyd yn ddeiliad Record Byd Guinness.

Nid tasg fach yw cydbwyso gofynion gyrfa feddygol ddwys iawn â bod yn fam. Ond, mae Zoe yn ymgymryd â phob her yn benderfynol. Fel llawfeddyg y fron, mae'n cysegru ei bywyd i wella gofal cleifion, arwain gwasanaethau'r fron, a gwneud gwahaniaeth ym mywydau'r rhai y mae canser y fron yn effeithio arnyn nhw. Ond ym mis Hydref 2024, ymgymerodd â her hollol wahanol - un a gyfunodd ei chariad at redeg, ei hangerdd am ei gwaith, a'i hegni i ysbrydoli ei merched.

Dechreuodd taith Zoe i dorri’r record gyda sgwrs syml gyda’i merched ar ôl ymchwilio i Hanner Marathon Caerdydd 2024: 

“Roeddwn i'n siarad â'r plant amdano, sydd ag obsesiwn â thywysogesau a gwisgo i fyny, a dywedais wrthyn nhw 'Mae Mam yn mynd i fod yn rhedeg ras, a ddylwn i fod yn dywysoges?' Ond ges i sioc pan ddywedon nhw wrtha i 'Na mami, dyw tywysogesau ddim yn rhedeg'. Gwnaeth fi'n drist iawn mai dim ond pedair oed oedden nhw ac yn meddwl hynny'n barod.

“Ro’n i’n gwybod bod rhaid i fi wneud e iddyn nhw, a merched bach eraill fel nhw. I ddangos iddyn nhw y gallwch chi fod yn dywysoges a'ch bod chi'n gallu rhedeg, a bod tywysogesau'n gallu gwneud unrhyw beth.”

Yng Nghaerdydd, aeth Zoe ati i dorri Record Byd Guinness fel y fenyw gyflymaf i redeg hanner marathon wedi’i gwisgo fel cymeriad cartŵn. Gan ddewis rhedeg fel y dywysoges Belle o Beauty and the Beast, nid yn unig y cwblhaodd Zoe y ras mewn 1 awr, 41 munud, a 57 eiliad syfrdanol (gan chwalu'r record flaenorol o dros 10 munud), ond anfonodd neges bwerus hefyd: gall tywysogesau fod yn gyflym, yn benderfynol ac yn ddiderfyn.

Rhedeg am Achos
Doedd rhediad Zoe ddim yn ymwneud â nodau personol yn unig. Defnyddiodd ei ras fel cyfle i godi arian i'r Canolfan Bronnau’r Lili Wen Fach trwy Elusen GIG Cwm Taf Morgannwg. Mae'r ganolfan ddiagnostig a thriniaeth o'r radd flaenaf yn darparu cymorth a gofal hanfodol i gleifion canser y fron, gan sicrhau eu bod yn cael triniaeth mewn amgylchedd croesawgar a chyfforddus.

Yn ogystal, cododd Zoe hefyd arian ar gyfer METUPUK, elusen sy'n eiriol dros y rhai sy'n byw gyda chanser y fron eilaidd anwelladwy. Bydd yr arian a gododd - dros £2,500 - yn cefnogi ymchwil ac ymdrechion i wella ansawdd gofal i’r rhai y mae’r clefyd yn effeithio arnyn nhw.

Pŵer Menywod yn Cefnogi Menywod
Cafodd taith Zoe ei gwneud hyd yn oed yn fwy arbennig gyda chefnogaeth ei chydweithwyr. Cafodd ei gwisg Belle ei gwneud â llaw gan Asmaa Al-Allak, enillydd The Great British Sewing Bee 2023 - sydd, fel Zoe, hefyd yn llawfeddyg y fron ymgynghorol yn BIP CTM. Amlygodd y cydweithio unigryw hwn bŵer menywod yn gweithio gyda’i gilydd y tu mewn a’r tu allan i’r gweithle.

Gyda record byd i’w henw a chefnogaeth gynyddol, mae Zoe yn parhau i ysbrydoli'r rhai o'i chwmpas. Boed yn yr ystafell lawdriniaeth, ar y trac rhedeg, neu gartref gyda’i merched, mae’n dangos yr ymroddiad, y tosturi a’r grymuso sy’n ymgorffori ysbryd Diwrnod Rhyngwladol y Menywod. 

Mae stori Zoe yn destament i’r menywod anhygoel o fewn Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg - menywod sydd nid yn unig yn rhagori yn eu rolau proffesiynol ond sydd hefyd yn cofleidio eu hangerdd, yn gwthio eu terfynau, ac yn paratoi’r ffordd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod eleni, rydym yn eich annog i feddwl y tu hwnt i'ch iwnifform a meddwl am eich angerdd, diddordebau ac uchelgeisiau.

Beth yw eich ‘ochr arall’? Oes gennych chi unrhyw gydweithwyr sy'n eich ysbrydoli?

Beth am gymryd rhan gyda mewn Menywod CTM y tu ôl i'r iwnifform - helpwch ni i glywed, gwerthfawrogi, a dathlu lleisiau'r miloedd o fenywod sy'n gweithio yn CTM.

Beth yw eich 'ochr arall'? Oes gennych unrhyw gydweithwyr sy'n eich ysbrydoli?

Beth am gymryd rhan mewn menywod CTM y tu ôl i'r iwnifform - helpwch ni i glywed, gwerthfawrogi, a dathlu lleisiau'r miloedd o fenywod sy'n gweithio yn CTM.

Sut i roi canmoliaeth:

  • Seren CTM: Ydy rhywun rydych chi'n gweithio gydag ef yn haeddu Gwobr CTM Seren? Cliciwch yma i anfon Seren nawr!
  • Cymerwch eiliad i gerdded i fyny at gydweithiwr a gadewch iddyn nhw wybod sut maen nhw’n eich ysbrydoli - mae cefnogaeth a charedigrwydd yn gwneud gwahaniaeth enfawr!
  • Dilynwch ein hymgyrch cyfryngau cymdeithasol - 'menywod CTM tu ôl i'r iwnifform' ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol staff a chyhoeddus, a chofiwch gymryd rhan.

05/03/2025