Neidio i'r prif gynnwy

Medal yr Ymerodraeth Brydeinig i nyrs Diabetes gymunedol yn Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd

Mae prif nyrs Diabetes arbenigol gymunedol BIP Cwm Taf Morgannwg wedi ennill Medal yr Ymerodraeth Brydeinig yn Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd ar gyfer 2022.

Mae Ceri Jones yn frwdfrydig dros hyrwyddo cleifion, ac mae hi'n grymuso pobl gyda Diabetes i gael bywyd iach heb gymhlethdodau yn y dyfodol.

Ar ôl cymhwyso’n gyntaf fel nyrs gyffredinol gofrestredig ym 1986, daeth Ceri yn nyrs ardal bedair blynedd yn ddiweddarach, lle dechreuodd ddatblygu diddordeb mewn Diabetes. Aeth hi ati i ddod nyrs Diabetes arbenigol, a’r ail nyrs o’r fath yn Rhondda.

Trwy ei gwaith a'i hamser yn gwirfoddoli gyda grwpiau Diabetes lleol, mae Ceri yn helpu'r rheiny gydag anghenion cymhleth yn sgil Diabetes i gadw’n ddiogel yn y gymuned ac i’w hatal rhag gorfod cael eu derbyn i'r ysbyty pan fydd hynny’n bosib.

I’w helpu i gyrraedd y nod hwn, sefydlodd Ceri wasanaeth gofal sylfaenol ar gyfer Diabetes, sydd wedi cael adborth rhagorol gan gleifion. Yn sgil hynny hefyd, gofynnwyd i Ceri ddatblygu gwasanaethau tebyg mewn ardaloedd eraill yn y Bwrdd Iechyd.

Roedd yr enwebiad a'r anrhydedd ddilynol yn dipyn o syndod i Ceri, sydd bob amser yn blaenoriaethu ei chleifion.

“Roedd hi’n sioc – i mi, dim ond gwneud fy swydd rydw i,” meddai Ceri.

“Rydw i wedi bod fel hyn erioed. Mae fy rheolwr bob amser wedi dweud y dylwn i gyhoeddi hwn neu hwnna, ond dyma fy swydd. Dyna beth rydw i yma i'w wneud, dydw i ddim yn meddwl amdano mewn unrhyw ffordd arall.

“Roeddwn i’n credu bod llawer o bobl eraill yn y byd yn gwneud mwy na fi.

“Pan ges i’r llythyr, doeddwn i ddim yn hollol siŵr beth oedd e. Gadawais i’r llythyr nes i rywun fy ffonio o'r Tîm Anrhydeddau, yna sylweddolais i fod hyn yn real!

“Mae'n braf cael fy nghydnabod, ond mae fy nhîm yno’n gwneud y gwaith hefyd. Maen nhw'n anhygoel.”

Mae Ceri hefyd yn gweithio'n galed i wneud yn siŵr fod ei chydweithwyr a gweithwyr Diabetes proffesiynol yn y dyfodol yn ffynnu. Yn ogystal â gofal i gleifion, mae hi wedi hyfforddi a chynorthwyo meddygfeydd yng Nghwm Cynon, ac mae hi’n cynnal cwrs ôl-raddedig gofal sylfaenol ar gyfer Diabetes ym Mhrifysgol De Cymru (sydd wedi ei ohirio am y tro). 

Mae hi'n ymroddedig i gynorthwyo ac annog ei thîm ei hun i gyflawni hefyd, ac mae hi wedi sefydlu rhaglen cymhwysedd i nyrsys arbenigol Diabetes.

Meddai Cyfarwyddwr Nyrsio, Bydwreigiaeth a Gofal Cleifion, Greg Dix: “Mae Ceri wedi gwneud cyfraniad rhagorol i gymorth Diabetes yn ardal ein Bwrdd Iechyd. Mae hi'n cyfuno ei gwybodaeth arbenigol â'i hangerdd dros wella bywyd cleifion er mwyn darparu lefel eithriadol o ofal.

“Fel dywed ei chydweithwyr, mae Ceri yn hollol unigryw, ac rydyn ni’n falch iawn ei bod hi’n aelod o’r staff ac yn ffrind yma yng Nghwm Taf Morgannwg."