Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Gwasanaeth Llywwyr Cymunedol yn profi i fod yn achubiaeth cloi ar gyfer menyw Pen-y-bont ar Ogwr

Mae menyw yn ei saithdegau o Ben-y-bont ar Ogwr, oedd wedi ystyried rhoi diwedd ar ei bywyd sawl gwaith yn ystod y cyfnod clo, wedi canmol Cynllun Llywyddion Cymunedol Gwasanaethau Cymdeithas Sefydliadau Gwirfoddol Pen-y-bont ar Ogwr (BAVO). Dywedodd fod ei chysylltiad hi yno fel “angel heb adenydd”.

Yn debyg i lawer o aelodau hŷn o’r gymuned, mae Pauline* wedi ei chael hi’n anodd iawn yn ystod pandemig COVID-19, gan ei bod hi’n byw ar ei phen ei hun heb unrhyw deulu na ffrindiau agos gerllaw. 

Cysylltodd hi â gwasanaeth cymorth cymunedol BAVO am y tro cyntaf ym mis Ebrill y llynedd i ofyn am gymorth i siopa ac i gasglu ei phresgripsiynau, ond yn fuan daeth i’r amlwg i’r Llywyddion Cymunedol fod angen mwy o gymorth ar Pauline*.

Meddai Kay Harries, Rheolwr Gweithrediadau a Phartneriaethau Gwasanaeth Llywyddion Cymunedol BAVO: “Rôl ein tîm fel Llywyddion Cymunedol yw cyfeirio unrhyw un sy’n byw ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr y mae angen cymorth arnyn nhw gyda’u hiechyd a’u lles, at y cymorth priodol yn y gymuned. 

“Yn wreiddiol, helpom ni Pauline* gyda gwasanaeth sylfaenol roeddem ni’n ei gynnig i unrhyw un roedd ei angen arnyn nhw pan ddechreuodd y cyfnod clo cyntaf. Cyfeiriom ni hi at gyfleuster cymunedol lleol oedd yn mynd i’r siop i brynu nwyddau hanfodol, yn ogystal â chasglu presgripsiynau a darparu prydau poeth. Yn ogystal â hynny, cyfeiriom ni hi at wirfoddolwr lleol fyddai’n prynu rhagor o fwyd o’r siop ac yn ei roi iddi bob wythnos.

“Roeddem ni’n cadw mewn cysylltiad â Pauline yn ystod y cyfnod clo ac er roedd hi’n cael cymorth gyda’u hanghenion sylfaenol, roedd hi’n dal i deimlo hynod o unig ac yn ynysig rhag y byd, felly cysylltom ni ag Age Cymru yn ogystal â’n gwasanaeth cyfeillio dros y ffôn, Cyfeillion Cymunedol, ar ei chyfer hi. 

“Roeddem ni’n ei galw hi’n rheolaidd i sicrhau ei bod hi’n iawn, ond aeth un o’n llywyddion yn bryderus iawn un diwrnod pan ddechreuodd Pauline* ddweud ei bod hi’n meddwl am hunan-ladd. Dywedodd ei bod hi wedi ystyried y ffordd orau o roi diwedd ar bopeth. Roedd hi’n teimlo mai’r unig beth oedd yn ei chadw hi yma oedd y ffaith ei bod hi’n pryderu am beth fyddai’n digwydd i’w chi. Ar ôl sgwrsio am sbel, llwyddodd y llywydd i dawelu ei meddwl a chyfeiriodd hi’n syth at y Llwybr Iechyd Meddwl i Bobl Hŷn. Roedden nhw o gymorth mawr.

“Dros yr haf, wrth i’r cyfyngiadau gael eu llacio ac wrth gadw mewn cysylltiad â hi, cafodd Pauline* ei chyfeirio at wasanaethau cymunedol lleol defnyddiol i’w helpu hi i olchi ei dillad ac i gael gwared â’i sbwriel. Roedd hi i’w gweld yn fwy cadarnhaol ond roedd sawl problem iechyd gyda hi, gan gynnwys diabetes, ac roedd ei hiechyd yn gyffredinol yn dirywio. Ar yr adeg honno, cafodd ei chyfeirio at gymorth gan weithiwr cymdeithasol a chafodd cyfarfod achos gyda’r meddyg teulu ei drefnu, felly roedd y tîm yn fodlon ei bod hi’n cael yr holl gymorth roedd ei angen arni.

“Yn gynharach y mis hwn, daeth galwad at wasanaeth brys tu allan i oriau’r Llywyddion Cymunedol. “Roedd y fenyw’n amlwg yn gofidio ac yn dweud “Dydw i ddim eisiau marw ar fy mhen fy hun.” Roedd ein llywydd yn adnabod y llais yn syth. Pauline* oedd hi. 

“Ar ôl sgwrs hir â hi, lle roedd hi’n cadw gofyn beth allai gael ei drefnu i’w chi pe bai’n rhaid iddi fynd i’r ysbyty, gwnaeth ein llywydd addo iddi y byddai rhywbeth yn cael ei drefnu gyda lloches leol sy’n cynnig gofal seibiant i anifeiliaid anwes, a hynny ar ôl ffonio 999 i gael cymorth meddygol cyn gynted â phosib.

“Roedd y parafeddygon ymateb cyflym wedi ei chyrraedd hi mewn pryd. Roedd hi ar fin mynd i mewn i goma diabetig ac roedd rhaid ei thrin hi ar unwaith. 

“Rydyn ni mor falch ei bod hi wedi ffonio rhif y tu allan i oriau BAVO a bod llywydd oedd eisoes yn gyfarwydd â’i sefyllfa wedi ateb yr alwad gan ei fod yn gwybod yn syth pa mor ddifrifol oedd y sefyllfa.” 

Mae iechyd Pauline* wedi gwella’n sylweddol ers hynny ac mae’n teimlo lawer yn well. Does ganddi ddim byd ond canmoliaeth i’r gwasanaeth mae hi wedi ei gael gan dîm Llywyddion Cymunedol BAVO a’r Llywydd Cymunedol, Gail Devine.

“Y llynedd, roeddwn i mewn lle tywyll ac rydw i’n credu y byddwn i wedi hen fynd heb Gail a’r sefydliadau roedd hi wedi fy nghyfeirio atyn nhw. Roeddwn i’n teimlo fel petawn i’n cwympo trwy’r rhwyd a nes i mi gael eu rhif, doedd neb gyda fi i droi ato am gymorth.

“Rydw i’n benderfynol iawn ac yn ceisio ymdopi gymaint â phosib pan fydda i wir yn cael trafferth. Mae’n braf iawn gwybod eu bod nhw gerllaw i helpu gyda phethau ymarferol. Mae Gail yn gwybod na fyddwn i ond yn ffonio pe bai argyfwng, ond mae hi wastad yn gwybod beth i’w wneud a bydd hi’n gwneud beth bynnag mae hi’n gallu ei wneud i fy helpu. Dydw i ddim yn gwybod lle byddwn i hebddi. Hi yw fy angel heb adenydd!”

Yn ystod y pandemig, mae’r Llywyddion Cymunedol wedi gorfod addasu eu ffyrdd o weithio, drwy ymateb i argyfwng COVID-19, ond un enghraifft yn unig yw hanes Pauline* o ba mor hollbwysig mae’r gwasanaeth wedi bod i bobl sy’n agored i niwed yn ystod y cyfnod heriol hwn.

”Mae’r gwasanaeth wedi bod yn helpu Pauline yn hirach na’r disgwyl, gan ei bod hi bron yn flwyddyn erbyn hyn, ond oherwydd y pandemig, does dim byd eleni wedi bod yn arferol.” Meddai Gail. 

“Er ein bod ni fel arfer yn cadw mewn cysylltiad â phobl i sicrhau bod popeth yn iawn ar ôl i ni eu cyfeirio nhw at y cymorth priodol, dydyn ni ddim yn tueddu i roi cymorth iddyn nhw yn hirdymor. Fodd bynnag, dros y misoedd diwethaf, rydyn ni wedi bod yn cadw mewn cysylltiad â phobl am fwy o amser na’r arfer. Fel yn achos Pauline*, mae’n amlwg bod angen ein cymorth ar rai pobl mewn amrywiaeth o ffyrdd drwy gydol y pandemig.”

“Mae’r gwasanaeth wedi bod yn achubiaeth wirioneddol iddi hi ac i lawer o bobl leol eraill sy’n agored i niwed. Drwy weithio gyda phartneriaid cymunedol, rydw i wrth fy modd fy mod i wedi cyfrannu at y gwaith o roi cymorth iddyn nhw yn ystod y cyfnod ofnadwy hwn.”

Mae prosiect Llywyddion Cymunedol Gwasanaethau Cymdeithas Sefydliadau Gwirfoddol Pen-y-bont ar Ogwr (BAVO) yn enghraifft sy’n cael sylw Llywodraeth Cymru yn ei hymgyrch Helpwch Ni i’ch Helpu Chi, i ddangos sut mae pobl yn gallu defnyddio’r gwasanaethau cymorth mwyaf priodol yn y gymuned leol.

I helpu’r GIG wrth i’r pandemig barhau, mae’n hollbwysig eich bod chi’n defnyddio’r gwasanaeth priodol yn y modd priodol, yn dibynnu ar eich symptomau. Yn aml, gallwch chi gael y cymorth sydd ei angen arnoch chi heb fynd i’r feddygfa neu’r Adran Damweiniau ac Achosion Brys. Bydd hyn yn ei gwneud hi’n bosibl i dimau meddygol brys ganolbwyntio ar y bobl hynny gyda chyflyrau brys sy’n bygwth eu bywyd. 

Mae modd trin toresgyrn, ysigiadau a mân losgiadau yn effeithiol mewn Uned Mân Anafiadau, ac mae fferyllfeydd yn wasanaeth allweddol os ydych chi’n teimlo’n sâl neu os oes mân bryderon gyda chi ynglŷn â’ch iechyd. Os oes angen gwybodaeth am iechyd arnoch chi tu allan i oriau, yna mae Gwasanaeth 111 GIG Cymru ar gael 24 awr y dydd bob dydd. Ffoniwch 111 neu ewch i www.111.wales.nhs.uk..

Os oes angen gofal arnoch chi oherwydd cyflwr brys sy’n bygwth eich bywyd, yna dylech chi ffonio 999. 

Os bydd symptomau COVID-19 gyda chi, ni waeth pa mor gymedrol ydyn nhw, sicrhewch eich bod chi’n hunan-ynysu ac yn trefnu prawf.

* Mae ei henw go iawn wedi ei newid er mwyn diogelu ei hunaniaeth.