Neidio i'r prif gynnwy

Mae siarad yn helpu. Mae cael eich clywed yn helpu mwy fyth.

Dyma neges Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd 2026. 

Mae cael ein clywed yn ein helpu i deimlo ein bod yn cael ein deall, yn llai unig, ac yn fwy abl i ymdopi â'r heriau rydym yn eu hwynebu.  

Does dim rhaid defnyddio geiriau bob amser i fynegi sut rydych yn teimlo. Mae ein seicotherapyddion celf yn cefnogi pobl ledled CTM i deimlo eu bod yn cael eu clywed drwy fynegi eu meddyliau a'u teimladau trwy gelf. 

Cwrdd â Jordan, Seicotherapydd Celf 

“Mae rhai profiadau yn anodd eu rhoi mewn geiriau. Gall lliw, siâp, marc, neu'r broses o greu celf gynnig ffordd arall i bobl fynegi eu hunain a theimlo eu bod yn cael eu deall.” 

Darganfu Jordan Seicotherapi Celf ar ôl astudio Seicoleg yn y brifysgol, a chafodd ei ddenu ar unwaith at ei ddull creadigol, dieiriau o gyfathrebu. 

“Beth apeliodd ataf oedd y cyfle i bobl fynegi eu hunain mewn ffordd wahanol. Dydy pawb ddim yn ei chael hi'n hawdd siarad am eu meddyliau a'u teimladau, yn enwedig yn ystod cyfnodau anodd. Gall celf ddarparu iaith arall a rennir sy'n helpu pobl i gyfleu profiadau a allai fod yn anodd eu hegluro fel arall. 

Y rhan fwyaf gwerth chweil o'r rôl yw helpu pobl i deimlo eu bod yn cael eu clywed a'u cefnogi. Rydw i wastad wedi bod â diddordeb yn y ffordd y mae pobl yn profi trallod, ond hefyd yng ngwydnwch pobl a'u gallu i dyfu. Y rhan fwyaf ystyrlon o fy ngwaith yw cefnogi pobl i deimlo eu bod yn cael eu clywed, meithrin cysylltiadau cadarnhaol a dod o hyd i obaith. Mae wir yn fraint. 

Rydw i’n credu bod iechyd meddwl yn rhan sylfaenol o les cyffredinol, a bod therapïau creadigol yn chwarae rhan bwysig. Mae profiad pob unigolyn yn wahanol, a dyna pam ei bod hi'n bwysig bod cymorth iechyd meddwl yn cynnig amrywiaeth o ddulliau. Gall Seicotherapi Celf helpu pobl i archwilio, prosesu a chyfathrebu eu profiadau mewn ffordd sy'n teimlo'n iawn iddyn nhw. 

Gall gweithio ym maes iechyd meddwl fod yn heriol, ond mae gwybod eich bod wedi helpu rhywun i deimlo ei fod yn cael ei ddeall ac yn llai unig yn ei wneud yn brofiad hynod werth chweil.” 

Cwrdd â Non, Seicotherapydd Celf 

“Mae therapi celf yn cynnig ffordd amgen o gyfathrebu pan fydd geiriau'n anodd eu canfod.” 

Mae Non yn gweithio o fewn gwasanaethau adsefylu iechyd meddwl, gan gefnogi oedolion sy'n profi anawsterau iechyd meddwl cymhleth a pharhaus. Drwy seicotherapi celf, mae hi'n helpu pobl i archwilio a mynegi meddyliau, teimladau a phrofiadau mewn ffordd ddiogel a chreadigol.  

“Un o fy hoff agweddau ar y rôl yw gweithio ochr yn ochr â phobl wrth iddyn nhw ddatblygu gwell dealltwriaeth ohonyn nhw eu hunain a’u profiadau. Rydw i’n gwerthfawrogi'n arbennig y perthnasoedd sy'n datblygu drwy'r broses therapiwtig a'r cyfle i weld pobl yn defnyddio creadigrwydd, lluniau a throsiadau i gyfleu beth sy'n bwysig iddyn nhw. 

I mi, mae rhai o'r eiliadau mwyaf gwerth chweil yn dod o weld pobl yn ailgysylltu â'u cryfderau ac yn cymryd camau cadarnhaol ymlaen yn eu hadferiad. 

Anaml y mae adferiad yn syml, ac nid yw cynnydd bob amser yn amlwg ar unwaith. Fodd bynnag, gall gweld rhywun yn ennill persbectif newydd, yn magu hyder, neu'n cymryd hyd yn oed cam bach ymlaen fod yn hynod ystyrlon.”  

Mae Non yn credu y gall therapi celf fod yn arbennig o werthfawr i bobl sydd wedi profi trawma neu sy'n cael trafferth cyfathrebu ar lafar. 

“Beth rydw i’n werthfawrogi fwyaf am therapi celf yw ei fod yn cynnig llwybr gwahanol at hunan-fynegiant a hunan-ddealltwriaeth. Gall prosesau creadigol ddarparu ffordd ddiogel o archwilio meddyliau ac emosiynau heb y pwysau i ddod o hyd i'r geiriau cywir. 

Rydw i hefyd yn mwynhau hwyluso sesiynau grŵp, lle gall creadigrwydd helpu i ddod â phobl at ei gilydd. Mae’n nhw’n creu cyfleoedd i gysylltu, yn lleihau teimladau o unigedd, ac yn helpu pobl i ddarganfod ffyrdd newydd o fynegi eu hunain a chysylltu ag eraill. “Mae gweld hynny’n digwydd yn hynod werth chweil.” 

Cwrdd â Sarah, Seicotherapydd Celf  

I Sarah, mae creadigrwydd a chymorth iechyd meddwl yn mynd law yn llaw. 

Wrth weithio fel Seicotherapydd Celf o fewn y Gwasanaethau Iechyd Meddwl i Blant a Phobl Ifanc (CAMHS), mae Sarah yn helpu pobl ifanc rhwng 12 ac 18 oed i archwilio a mynegi emosiynau anodd drwy gelf. 

"Weithiau mae pobl ifanc yn ei chael hi'n anodd rhoi eu teimladau mewn geiriau. Gall celf eu helpu i wneud synnwyr o'u profiadau a chyfleu emosiynau sy'n teimlo'n llethol neu'n frawychus.” 

Mae Sarah yn gweithio fel rhan o dîm amlddisgyblaethol sy'n cefnogi pobl ifanc ag amrywiaeth o anawsterau iechyd meddwl, gan gynnwys anhwylderau bwyta, seicosis a salwch sy'n gysylltiedig â thrawma. 

Dechreuodd ei thaith i'r proffesiwn tra oedd hi'n astudio ar gyfer gradd mewn celf ac yn gweithio mewn amrywiaeth o leoliadau gofal. 

“Gwelais sut roedd gweithgareddau creadigol yn helpu pobl i gyfathrebu a mynegi eu hunain. Pan ymwelodd Therapydd Celf â fy mhrifysgol i siarad am ei waith, roeddwn i’n gwybod ar unwaith mai dyna'r yrfa yr oeddwn ei eisiau. 

Ar ôl cwblhau hyfforddiant ôl-raddedig mewn Seicotherapi Celf, dechreuais fy ngyrfa yn cefnogi plant a phobl ifanc.  

Un o'r eiliadau mwyaf balch i mi oedd pan lwyddodd claf ag anhwylder bwyta i sylweddoli, trwy ei gwaith celf, i ba raddau roedd y salwch wedi cymryd drosodd ei bywyd. 

Roedd y mewnwelediad hwnnw'n amhrisiadwy ac yn gymorth i gefnogi ei chymhelliant i wella. 

Wrth edrych i'r dyfodol, mae Sarah yn ehangu ei gwaith i gefnogi oedolion hŷn sy'n byw gyda chlefyd Alzheimer a Dementia. 

I unrhyw un sy'n ystyried gyrfa ym maes Seicotherapi Celf, mae ei chyngor yn syml: “Mae'n rôl hynod werth chweil lle gallwch wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl. 

Cwrdd â Sarah, Therapydd Chwarae  

I Sarah, gall chwarae fod yn ffordd bwerus i blant a phobl ifanc gyfathrebu eu syniadau, eu teimladau a'u profiadau. 

Wrth weithio gyda'r Tîm Seicoleg a Therapïau Seicolegol CAMHS yn y Gymuned, mae Sarah yn cefnogi plant a phobl ifanc rhwng 8 ac 17 oed drwy Therapi Chwarae – dull sy'n canolbwyntio ar y plentyn ac yn defnyddio chwarae a chreadigrwydd i helpu pobl ifanc i archwilio a mynegi emosiynau anodd. 

“Mae llawer o'r plant a'r bobl ifanc rydw i’n gweithio gyda nhw yn ei chael hi'n anodd rhoi geiriau ar eu teimladau. Mae chwarae yn eu galluogi i fynegi eu hunain heb y pwysau na'r disgwyliad i siarad am beth sy'n eu poeni. 

Gall hyn fod yn arbennig o werthfawr i bobl ifanc sydd wedi profi trawma, gan eu helpu i brosesu eu profiadau ar eu cyflymder eu hunain mewn amgylchedd diogel a chefnogol. 

Nid oes dau ddiwrnod yr un fath. Mae'n fraint bod yn dyst i daith pob person ifanc a'u gweld yn dechrau deall eu hanawsterau trwy therapi creadigol. 

Yn ogystal â darparu Therapi Chwarae, mae Sarah wedi helpu i gyflwyno elfennau mwy creadigol a synhwyraidd i wasanaethau CAMHS, gan gynnwys bocsys synhwyraidd mewn ystafelloedd clinig ar draws Cwm Taf Morgannwg i gefnogi pobl ifanc sy'n mynychu apwyntiadau. 

“Un o agweddau mwyaf gwerth chweil y rôl yw gweld y gwahaniaeth y gall ymyrraeth gynnar ei wneud. 

Mae pobl ifanc yn aml yn gorffen therapi gyda gwell dealltwriaeth o'u hemosiynau, mwy o hyder a ffyrdd iachach o fynegi eu hunain. Gall y newidiadau ymddangos yn fach weithiau, ond gallan nhw gael effaith barhaol ar iechyd meddwl a lles person ifanc. 

I mi, helpu plant a phobl ifanc i ddatblygu'r sgiliau hyn yw beth sy'n gwneud y rôl mor werth chweil. Mae gallu cefnogi pobl ifanc yn gynnar a'u helpu i ffynnu yn hynod werth chweil.” 

Os oes gennych ddiddordeb mewn cael gwybod mwy am weithio gyda CTM, ewch i'n gwefan swyddi ac archwilio'r swyddi gwag presennol.