Neidio i'r prif gynnwy

Tîm Ffisiotherapi Paediatrig CTM yn ennill gwobr mewn cydweithrediad ag Ysgol Gynradd Tŷ Coch

Mae cydweithrediad ar y cyd rhwng staff Tîm Ffisiotherapi Paediatrig CTM, a staff a disgyblion Ysgol Tŷ Coch yn Nhon-teg, wedi ennill gwobr Better Together rhaglen genedlaethol MOVE. Mae'r wobr yn dathlu partneriaethau gwych i gyflawni'r canlyniadau gorau i ddisgyblion.

Mae rhaglen genedlaethol MOVE yn galluogi pobl ifanc anabl i symud yn annibynnol drwy raglen seiliedig ar weithgareddau.  Mae'r rhaglen yn gyfuniad o addysg, therapi a gwybodaeth deuluol i ddysgu sgiliau eistedd, sefyll a cherdded.

Mae pum ysgol MOVE ar draws ardal CTM, ac mae Tîm Ffisiotherapi Paediatrig BIP CTM yn rhoi cymorth i bob un ohonyn nhw. Mae gwobr Better Together yn cydnabod llwyddiant rhagorol y staff a'r disgyblion a’r Tîm Ffisiotherapi, yn enwedig Ysgol Tŷ Coch.

Meddai Debbie Davies, Pennaeth Gwasanaethau Ffisiotherapi Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, “Dwi wedi bod i Ysgol Tŷ Coch ac wedi gweld gwaith gwych staff cynorthwyol therapïau mewn partneriaeth â'r ysgol i wella gweithgarwch eu disgyblion, ac maen nhw’n mwynhau’n fawr ar yr un pryd. Gwobr llwyr haeddiannol i bawb dan sylw.”

Ychwanegodd Mr David Jenkins, Prifathro Ysgol Tŷ Coch, “Ar ran yr ysgol a'i phartneriaid, mae’n braf iawn gweld bod Ysgol Tŷ Coch wedi ennill gwobr MOVE Better Together. Mae teitl y wobr hon mor addas gan ei fod yn crynhoi nifer o flynyddoedd o gydweithio rhagorol rhwng Ysgol Tŷ Coch a'r tîm ffisiotherapi paediatrig yng Nghwm Taf Morgannwg. Mae effaith y cydweithio hwn ar blant Ysgol Tŷ Coch yn aruthrol ac yn barhaus, ac rydw i’n falch iawn o fod yn rhan o waith mor wych. Fodd bynnag, dim ond yr unigolion ysbrydoledig sbardunodd y gwaith sydd wedi sicrhau llwyddiant y cydweithrediad hwn. I Leigh Wharton, Donna Morris a Carly Marsh, diolch a llongyfarchiadau mawr ar ran plant gwych a'u teuluoedd.”