Neidio i'r prif gynnwy

Mae Prosiect Cymorth Arennau Cymru Newydd Arloesol Yn Lansio

Mae Kidney Care UK, prif elusen cymorth cleifion arennau’r Deyrnas Unedig, Wales & West Utilities, a Rhwydwaith Arennau Cymru yn cydweithio â GIG Cymru i gynnig cymorth arbenigol i 1,500 o bobl sydd â methiant yr arennau yng Nghymru.

Y prosiect Cymorth a Lles Arennau Cymru yw’r tro cyntaf y mae elusen, cwmni cyfleustod a byrddau iechyd y GIG ledled gwlad gyfan wedi dod ynghyd yn y modd hwn.  Bydd y 1,500 o bobl yng Nghymru sy’n derbyn eu hemodialysis mewn ysbyty – a’u teuluoedd – yn gallu cael at arweiniad a chymorth diduedd ac am ddim sydd wedi’i ganoli ar les sy’n canolbwyntio ar gydweithio i helpu i uchafu incwm, i leihau gwariant sy’n gysylltiedig â chyfleustodau ac i gynorthwyo llesiant cyffredinol.

Hemodialysis yw’r driniaeth fwyaf cyffredin a ddefnyddir i drin methiant yr arennau – mae’i angen pan nad yw’ch arennau yn gallu gweithio’n iawn gan beri i docsinau gronni yn eich gwaed.  Pan gewch hemodialysis, caniateir i’ch gwaed lifo, ychydig fililitrau ar y tro, drwy hidlen arbennig sy’n cael gwared â gwastraffau a hylifau ychwanegol.  Dychwelir y gwaed glân wedyn i’ch corff.  Mae hyn hefyd yn helpu i reoli’ch pwysedd gwaed ac i gynnal cydbwysedd priodol cemegolion – fel asid, potasiwm a sodiwm – yn eich corff.  Bydd y rhan fwyaf o bobl sy’n cael hemodialysis mewn ysbyty yn gwneud hyn deirgwaith yr wythnos am 3-6 awr ar y tro.

Effeithiodd yr argyfwng costau byw yn anghymesur ar bobl sydd â methiant yr arennau; mae ar lawer o bobl sydd â methiant yr arennau hefyd anemia, sy’n golygu eu bod yn teimlo’n oer drwy’r adeg.  Pan fo gennych fethiant yr arennau, mae arnoch hefyd angen gostwng faint o ffosffad a photasiwm rydych yn eu cymryd i’ch corff – bu Kidney Care UK yn olrhain costau prisiau bwyd i wirio deg o eitemau bwyd cyffredin sy’n addas i rywun sydd â methiant yr arennau.  Cynyddodd hyn rhwng 20% ac 28% rhwng mis Mai 2022 a mis Mai 2023.  O ganlyniad i gael triniaethau mor aml mewn ysbyty, dim ond 26% o bobl ar ddialysis sydd mewn gwaith amser llawn, ac mae costau teithio i ac o’r sesiwn driniaeth yn cronni.

Dywedodd Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: “Mae clefyd yr arennau yn effeithio ar filoedd o bobl yng Nghymru, a bydd y cymorth cyntaf-o’i-fath hwn yn gwneud gwir wahaniaeth i les pobl.  Mae’r gwaith a wneir gan Kidney Care UK, GIG Cymru a Wales & West Utilities yn enghraifft odidog o sut y gall gwahanol sectorau ddod ynghyd i gynorthwyo pobl sy’n dioddef o gyflyrau cyfnod hir i fyw’n dda; yn enwedig wrth inni lywio drwy’r argyfwng costau byw.”

Mae rhai o’r ffyrdd y gall y prosiect Cymorth a Lles Arennau Cymru helpu yn cynnwys (ond nid yw’n gyfyngedig i): Cymorth i wneud cais am Daliad Annibyniaeth Personol (PIP); grantiau ariannol; gwybodaeth am glefyd yr arennau i gleifion; cynghorion am fudd-daliadau; cynghorion arbenigol ac am ddim am arennau; modd o gael at dariffau cyfleustod gostyngol; a larymau carbon monocsid am ddim yn y cartref.

Mae Laura Talbot, Rheolwr Prosiect Cymorth a Lles Arennau Cymru, yn bwrw’r sylw: “Rydym wrth ein bodd o fod yn gweithio â Wales & West Utilities a Rhwydwaith Arennau Cymru ar y prosiect lles a llesiant arloesol hwn.  Bydd y cyllid a ddarperir gan Wales & West Utilities yn ein helpu i sicrhau bod y 1,500 o bobl sydd ar hemodialysis yng Nghymru’n gwybod bod yna ystod o gymorth ar gael i’w helpu i fyw eu bywydau’n llawn ac nad ydynt ar eu pen eu hunain.”

Dywedodd y Dr Gareth Roberts, Arenegwr Ymgynghorol ac Arweinydd Clinigol ar gyfer Rhwydwaith Arennau Cymru: “Mae cleifion â chlefyd datblygedig ar yr arennau yn wynebu llawer o rwystrau rhag parhau neu ymuno â’r gweithlu ar ôl dechrau ar ddialysis.  Mae’r incwm isel canlynol, yn neilltuol o’i gymhlethu gan gostau byw sy’n codi, yn golygu bod llawer o’n cleifion yn byw mewn tlodi cymharol.

“Caiff gormod o’n cleifion eu gorfodi i ddewis rhwng bwyta, gwresogi’u cartrefi, neu dalu costau trydan a thanwydd.  Fel rhwydwaith arennau, credwn fod helpu cleifion i ennill cymorth ariannol a chymdeithasol yn flaenoriaeth allweddol.  Rydym yn llawn cyffro o weithio â sector Kidney Care UK a Wales and West Utilities i ddarparu’r prosiect cyntaf-o’i fath-hwn, drwy Gymru gyfan a thrwy’r sector cyfan.  Credwn y bydd hyn yn darparu’r cymorth a’r arweiniad arbenigol angenrheidiol i sicrhau bod ein cleifion yn cael y buddion ariannol y mae ganddynt hawl iddynt.”

Ychwanegodd Nigel Winnan, Rheolwr Cwsmeriaid a Strategaeth Rhwymedigaethau Cymdeithasol yn Wales & West Utilities: “Rydym yn falch o fod yn cefnogi Kidney Care UK a Rhwydwaith Arennau Cymru yn y bartneriaeth arloesol hon i ddarparu cynghorion a chymorth lles yn gysylltiedig ag ynni i bobl sydd â chlefyd cronig ar yr arennau ledled Cymru.

“Mae’r fenter hon yn darparu cyfle go iawn i wella ansawdd bywyd i bobl sydd â chlefyd ar yr arennau, yn enwedig i’r rheiny sy’n dibynnu ar hemodialysis.  Rydym yn falch o gefnogi’r gwaith pwysig hwn fydd yn effeithio mor gadarnhaol ar lawer o’r bobl sydd fwyaf agored i niwed ac sy’n ddifreintiedig sy’n byw yn y wlad ar adeg pan fo’n fwy hanfodol nag erioed.”

Am fwy o wybodaeth am y prosiect, ewch i www.kidneycareuk.org/KSWW.

 

04/07/2023