Neidio i'r prif gynnwy

Mae Podlediad NEWYDD 'Meddwl yn Iach' yn siarad am bopeth am arloesi gyda'r Prif Swyddog Gweithredol, Paul Mears a'r Cyfarwyddwr Gweithredol Strategaeth a Thrawsnewid, Linda Prosser.

Mae’r Prif Weithredwr, Paul Mears a’r Cyfarwyddwr Gweithredol Strategaeth a Thrawsnewid, Linda Prosser yn ymuno â Chris Martin mewn cyfres newydd o bodlediadau ‘Meddwl yn Iach’, i drafod sut mae GIG Cymru wedi bod yn defnyddio arloesedd drwy gydol y pandemig.

Mae Meddwl Iach yn gofyn i Paul a Linda sut olwg sydd ar ddyfodol y GIG yng Nghymru ar ôl COVID, a sut mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn mynd i’r afael â heriau yn uniongyrchol gydag atebion arloesol i’r ôl-groniad. Mae Paul a Linda yn trafod eu cynlluniau, ac yn egluro beth mae’r bwrdd iechyd wedi’i gyflawni hyd yn hyn.

Mae Linda a Paul yn trafod nifer o fentrau gwahanol, gan gynnwys y Rhaglen WISE newydd, lle gall cleifion ar restrau aros gael gwybodaeth, cyngor a chymorth i'w galluogi i fyw bywydau hapus wrth aros am driniaeth.

Mewn rhai achosion, mae'r cymorth sydd ar gael drwy'r rhaglen WISE yn arwain at gleifion yn sylweddoli nad yw cael llawdriniaeth yn hanfodol, gan y gallant gael digon o'r rhaglen WISE i wella eu safon byw.

Mae Paul yn pwysleisio’r awydd am ddefnydd cynyddol o dechnoleg ddigidol mewn gofal iechyd a’r effaith ar atebion digidol trwy gydol y pandemig. Gan bwysleisio, er nad yw dull digidol yn gweithio i bawb, mae rôl wirioneddol i dechnoleg ddigidol mewn gofal iechyd wrth inni symud ymlaen.

Mae ymgysylltu â'r gymuned yn thema allweddol arall yn y podlediad. Rydym yn ymgysylltu â’n cymunedau i weld beth sy’n bwysig iddynt am fod yn hapus ac yn iach. Rydym yn datblygu cyfoeth o rwydweithiau cymunedol, sydd yr un mor bwysig i ni fel Bwrdd Iechyd ag y maent i’r gymuned.

Mae Paul a Linda yn trafod heriau presennol CTM yn fanylach, a sut rydym yn symud ymlaen fel Bwrdd Iechyd gyda’r dulliau hyn i ddatrys heriau’r pandemig.

Mae'r podlediad yn dod â safbwyntiau newydd gan feddylwyr blaenllaw ym maes arloesi iechyd a gofal.

Mae'r podlediad ar gael yn y Gymraeg a'r Saesneg gyda gwesteion gwahanol. Gallwch wrando ar y podlediad ar Apple Podcasts, Google Podcasts a Spotify. Darlledwyd pennod Paul a Linda am y tro cyntaf ddoe (Gorffennaf 12). Linc yma ar gyfer y Podlediad - Sut mae GIG Cymru yn defnyddio arloesedd i adlamu yn ôl ar ôl Covid-19 | Gwyddorau Bywyd (lshubwales.com)