Mae ein Helusen GIG CTM wedi lansio hunaniaeth wedi'i hadnewyddu i helpu mwy o bobl i ddeall sut mae cefnogaeth leol yn helpu i wneud pethau'n well i gleifion, teuluoedd a staff y GIG ledled Cwm Taf Morgannwg.
Mae pob punt sy’n cael ei rhoi yn aros yn lleol, gan gefnogi gwelliannau ymarferol ledled Pen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful sy'n gallu gwneud gwahaniaeth go iawn pan foydd o’r pwys mwyaf.
Gallai hyn fod trwy greu mannau croesawgar, prynu offer ychwanegol, cefnogi lles staff, neu ddarparu cymorth sy'n helpu pobl i deimlo'n hamddenol ac yn fwy cyfforddus yn yr ysbyty.
Datblygwyd yr hunaniaeth newydd gyda chefnogaeth gan yr asiantaeth greadigol Gymreig jamjar, a weithiodd gyda'r Elusen i greu hunaniaeth weledol gynhesach, gliriach a mwy adnabyddus.
Mae'r gwaith wedi'i lunio trwy sgyrsiau â staff BIP CTM, cefnogwyr yr elusen, codwyr arian, ac aelodau'r gymuned. Mae eu safbwyntiau wedi helpu i lywio sut mae'r Elusen yn siarad amdani'i hun, y gwahaniaeth y mae'n ei wneud, a'r rôl y mae cefnogaeth leol yn ei chwarae ar draws Cwm Taf Morgannwg.
Yn nghanol yr hunaniaeth a adnewyddwyd mae’r syniad syml:
Gyda'n gilydd, rydym yn gwneud i bethau da ddigwydd.
Mae hyn yn adlewyrchu'r nifer o ffyrdd y gall cymorth elusennol helpu i wneud dyddiau caled ychydig yn haws i gleifion, teuluoedd a staff y GIG. O ofodau tawelach i blant sy'n mynychu ysbyty, i raglenni celfyddydau creadigol, ardaloedd lles staff gwell a gwelliannau a arweinir gan gleifion i amgylcheddau ysbytai, mae Elusen GIG CTM yn helpu i ariannu'r pethau ychwanegol sy'n mynd y tu hwnt i gyllid craidd y GIG.
Mae'r logo newydd yn tynnu ar y pili-pala fel symbol o drawsnewid a newid cadarnhaol, a'r galon fel symbol o dosturi a gofal. Gyda'i gilydd, mae'r syniadau hyn yn cynrychioli sut gall gweithredoedd bychain o garedigrwydd a chefnogaeth arwain at newid ystyrlon a pharhaol.
Dywedodd Abe Sampson, Pennaeth Elusen BIP CTM:
“Mae Elusen GIG CTM wedi bodoli erioed i gefnogi cleifion, teuluoedd a staff y GIG ar draws ein cymunedau lleol. Mae'r hunaniaeth adnewyddedig hon yn ein helpu i adrodd y stori honno'n gliriach.
“Rydym am i fwy o bobl ddeall bod pob rhodd yn aros yn lleol ac yn helpu i ariannu gwelliannau ymarferol a all wneud gwahaniaeth go iawn. P'un a yw rhywun yn rhoi arian, yn codi arian, neu'n cefnogi apêl, mae’n helpu i wneud i bethau da ddigwydd ledled Cwm Taf Morgannwg.”
Fel rhan o'r lansiad, mae'r Elusen wedi diweddaru tudalennau ei gwefan i wneud hi'n haws i bobl ddysgu mwy am y gwahaniaeth mae cefnogaeth elusennol yn ei wneud a sut y gallant gymryd rhan.
Darllenwch fwy am:
Ein Heffaith, gan rannu enghreifftiau o brosiectau sy’n cael eu cefnogi gan yr Elusen megis ystafell ymdrochi newydd yn Ysbyty'r Tywysog Siarl, gwelliannau i Ganolfan Bronnau’r Lili Wen Fach, gweithgaredd celfyddydau creadigol ar draws ysbytai cymunedol, a chefnogaeth i les a chydnabyddiaeth staff y GIG.
Codi arian ar gyfer Elusen GIG CTM, gyda gwybodaeth i bobl sy’n dymuno cefnogi apêl lleol neu achos agos at eu calon.
Sut i wneud rhodd, gan egluro'r ffordd orau o wneud rhoddion i gefnogi cleifion, teuluoedd a staff y GIG ledled Cwm Taf Morgannwg.
Cysylltu â thîm yr Elusen, gan roi llwybr clir i staff CTM, cefnogwyr ac aelodau’r gymuned gysylltu â nhw.
Elusen GIG CTM yw elusen swyddogol y GIG ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. Pan fydd rhywun yn rhoi cyfraniad i ysbyty, ward neu wasanaeth y GIG ar draws Cwm Taf Morgannwg, bydd ei gyfraniad yn dod drwy'r Elusen. Mae pob punt yn aros yn lleol ac yn helpu i gefnogi cleifion, teuluoedd, staff GIG a chymunedau ledled ein rhanbarth.
Darganfod mwy trwy ymweld â: bipctm.gig.cymru/amdanom-ni/elusen-gig-cwm-taf-morganwg/
Rhif elusen gofrestredig: 1049765