Neidio i'r prif gynnwy

Mae ein holl ysbytai ar hyn o bryd yn gweithio o dan bwysau eithriadol ac mae angen eich help arnom.

Mae ein holl ysbytai ar hyn o bryd yn gweithio o dan bwysau eithriadol ac mae angen eich help arnom.

Mae ein safleoedd yn hynod o brysur, gan gyfyngu ar nifer y gwelyau sydd ar gael i'r rhai sydd angen gofal brys ac arwain at arosiadau sylweddol yn yr Adrannau Argyfwng.

Rydym yn annog y cyhoedd yn gryf i fynychu ein Hadrannau Argyfwng dim ond mewn argyfwng sy’n peryglu bywyd neu sy’n peryglu breichiau/coesau.

Os ydych yn ansicr, gallwch ymweld â gwefan GIG 111 i gael cyngor ar eich cyflwr a pha gamau y gellir eu cymryd.

Gallwch hefyd ffonio 111 i gael mynediad at y Gwasanaeth Allan o Oriau lle bydd trinwr galwadau yn asesu eich symptomau ac, os oes angen, byddwch yn derbyn galwad yn ôl gan glinigwr.

Os oes angen cymorth iechyd meddwl brys arnoch, gallwch ffonio 111 a phwyso opsiwn 2.

Gallwch cysylltu ag aelod o'r tîm Gofal Sylfaenol yn y gymuned fel eich meddyg teulu, deintydd, optometrydd neu fferyllfa, neu ymweld â'n Uned Mân Anafiadau (MIU).

Rydym yn gweithio'n galed i ryddhau gwelyau yn ein hysbytai ar gyfer y cleifion hynny sydd ei angen fwyaf. Os oes gennych anwylyd yn yr ysbyty sy'n barod i fynd adref, gweithiwch gyda ni i gefnogi eu rhyddhau diogel.

Nid ysbyty yw'r lle gorau i fod i'r rhai nad oes angen gofal meddygol arnynt mwyach. Mae cleifion yn gwella'n well, yn ennill eu hannibyniaeth yn gyflymach ac yn llai tebygol o ddal heintiau os ydynt yn eu cartref eu hunain neu mewn lleoliad cymunedol.

Diolchwn i chi am eich cydweithrediad yn ystod yr amser heriol hwn. Cofiwch drin staff â pharch wrth iddynt weithio mor galed ag y gallant i gadw pawb yn ddiogel.

 

16/01/2026