Neidio i'r prif gynnwy

Mae ein hadrannau achosion brys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, Ysbyty'r Tywysog Siarl ac Ysbyty Tywysoges Cymru i gyd yn brysur iawn.

Mae ein hadrannau achosion brys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, Ysbyty’r Tywysog Siarl ac Ysbyty Tywysoges Cymru i gyd yn brysur iawn.

Gobeithio eich bod yn cadw'n ddiogel ac yn iach ond os oes angen help arnoch ac nad yw'n peryglu bywyd nac yn argyfwng, rhowch gynnig ar wasanaeth arall yn lle hynny.

Mae'r cleifion sydd wedi'u hanafu'n ddifrifol ac sy'n sâl yn cael eu blaenoriaethu yn ein A&E. Mae hyn yn golygu, hyd yn oed os ydych chi yno cyn rhywun arall, os oes gennych gyflwr llai difrifol, mae'n debygol y byddwch chi'n wynebu aros estynedig.

BETH ALLWCH CHI EI WNEUD I HELPU? 

  • Ewch i'n gwefan am wasanaethau cyfagos eraill a all eich helpu - gan gynnwys yr Uned Mân Anafiadau, meddygon teulu, fferyllfeydd, ac arbenigwyr eraill: Gwasanaethau Iechyd Lleol y GIG - Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg
  • Os nad ydych yn siŵr beth i'w wneud, defnyddiwch wiriwr symptomau GIG 111 Cymru i gael cyngor ar ble i fynd am gyngor a thriniaeth: GIG 111 Cymru
  • Cofiwch! Os ydych wedi colli gwaed yn ddifrifol neu wedi dioddef trawma mawr, ffoniwch 999 neu ewch i adran achosion brys ar unwaith. Os ydych yn byw yn yr ardal CTM a bod gennych unrhyw symptomau strôc, ffoniwch 999 neu ewch i'n hadrannau achosion brys yn Ysbyty'r Tywysog Siarl neu Ysbyty Tywysoges Cymru. Ewch i wefan y GIG am ragor o sefyllfaoedd pan ddylech chi bob amser fynd i adran achosion brys https://www.nhs.uk/.../urgent-and.../when-to-go-to-ae/


03/01/2024