Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyno ap mamolaeth yn ymestyn i bob darpar riant

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn sicrhau bod ei ap mamolaeth personol ar gael i bob darpar riant o ddydd Mercher 10 Mehefin.  

Yn dilyn cyflwyniad cychwynnol llwyddiannus i bobl newydd feichiog yn gynharach eleni, bydd ap Badger Notes bellach ar gael i bawb sy'n derbyn gofal mamolaeth ar draws y Bwrdd Iechyd. 

Mae'r ehangu'n golygu y bydd pob darpar riant, waeth pryd y dechreuodd eu beichiogrwydd, yn gallu cael mynediad at eu cofnod mamolaeth personol yn ddiogel ar eu ffôn, tabled neu gyfrifiadur. 

Mae'r ap yn darparu mynediad ar unwaith i wybodaeth allweddol, gan gynnwys: 

  • Manylion apwyntiadau 

  • Canlyniadau profion a sganiau 

  • Nodiadau clinigol gan fydwragedd a thimau mamolaeth 

Drwy roi gwelededd uniongyrchol, amser real i rieni o’u gofal, mae’r Bwrdd Iechyd yn anelu at helpu teuluoedd i deimlo’n fwy gwybodus, yn fwy hyderus ac i chwarae rhan fwy gweithredol drwy gydol eu taith beichiogrwydd. 

Yn ogystal â gweld eu cofnodion, gall pobl ddefnyddio'r ap i: 

  • Cofnodi gwybodaeth iechyd bersonol a dewisiadau 

  • Creu a diweddaru cynlluniau geni 

  • Cael cyngor wedi'i deilwra gan eu tîm mamolaeth 

  • Tracio eu beichiogrwydd gyda chanllawiau wythnos wrth wythnos 

Mae'r dull digidol yn cefnogi gofal mwy personol, tra hefyd yn lleihau'r angen am nodiadau papur ac yn gwella effeithlonrwydd i staff. 

Dywedodd Richard Hughes, Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio a Bydwreigiaeth:“Rydym yn falch iawn o allu ymestyn mynediad i ap Badger Notes i bob rhiant ledled Cwm Taf Morgannwg. 

“Mae’r cam nesaf hwn yn golygu y gall mwy o deuluoedd gael mynediad hawdd at eu gwybodaeth mamolaeth mewn amser real, gan eu helpu i deimlo’n wybodus, yn dawel eu meddwl ac mewn mwy o reolaeth drwy gydol eu beichiogrwydd. 

“Mae hefyd yn gam pwysig wrth foderneiddio ein gwasanaethau — lleihau gwaith papur a rhoi mwy o amser i’n staff ganolbwyntio ar ddarparu gofal personol.” 

Bydd rhieni sy'n derbyn gofal mamolaeth ar hyn o bryd yn cael eu cysylltu gyda gwybodaeth am sut i gofrestru a chael mynediad i'r ap.