Mae CTM yn dathlu ei sêr yng Ngwobrau Blynyddol Seren 2026 

Daeth mwy na 200 o gydweithwyr, gwirfoddolwyr a gwesteion ynghyd yn y Vale Resort ddydd Iau, 8 Hydref, i ddathlu rhagoriaeth, tosturi, arloesedd a gwaith tîm yng Ngwobrau Blynyddol Seren 2026.  

Mae'r gwobrau blynyddol yn cydnabod yr unigolion a'r timau eithriadol sy'n gwneud mwy na'r disgwyl bob dydd i wella gofal, cefnogi cydweithwyr a gwneud gwahaniaeth cadarnhaol ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. 

Roedd y noson yn cynnwys cyfraniad arbennig yn tynnu sylw at y gefnogaeth sydd ar gael i gyn-filwyr ac aelodau o gymuned y Lluoedd Arfog, ynghyd â chyflwyno gwobrau ar draws amrywiaeth o gategorïau i ddathlu cyflawniadau ledled CTM.  

Cododd y digwyddiad hefyd dros £1000 ar gyfer Elusen GIG CTM drwy'r raffl flynyddol. Roedd y gwobrau’n cynnwys:  

  • Tocyn Rhodd gwerth £100 o Ganolfan Siopa Dewi Sant, Caerdydd 

  • Tocyn rhodd £50 ar gyfer The Outdoor Sauna ym Merthyr Mawr 

  • Pryd o fwyd i ddau yn The Hi Tide Porthcawl 

  • Profiad teuluol ym Mharc Treftadaeth Rhondda  

  • Basgedi anrhegion a ddarperir gan Tesco, M&S, TK Maxx 

Potel o Wisgi Distyllfa Penderyn.   

Diolch enfawr i'n prif noddwr, MTX, ac i bawb a helpodd i wneud y noson yn bosibl. 

Enillwyr ac Ail-oreuon 

Dewis y Bobl

Wedi'u dewis gan y cyhoedd am gael effaith sylweddol ar wella profiad y claf – boed hynny ar gyfer claf unigol, o fewn eu maes gwaith eu hunain, neu ar draws BIP CTM.  

🏆 Enillydd: Dr Michelle Smalley, Seicolegydd Clinigol Ymgynghorol.  

🌟 Ail-Orau: Rebecca Goodhand, Uwch-reolwr Prosiect (Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu). 

Tîm / Partneriaeth y Flwyddyn 

Am ddangos cydweithio rhagorol, gwelliant mewn gwasanaeth ac ymrwymiad i ofal o ansawdd uchel: 

🏆 Enillydd: Gwasanaeth CHOICE (gofal iechyd rhywiol a sgrinio).  

🌟 Ail-Orau ar y cyd: Cydweithrediad Gwella Diabetes 8 Care Processes a Thîm Brechu Gofal Iechyd mewn Carchardai  

Cynhwysiant a Pharch 

Am ddangos tosturi, cydraddoldeb, cynhwysiant a gofal diffuant am eraill:  

🏆 Enillydd: Tîm Iechyd Cyhoeddus CTM (Penderfynwyr Ehangach a Thîm Pwysau Iach) a Thîm Cymuned Dysgu Treherbert.  

🌟 Ail-Orau: Dr Laura Andrews a Dr Sarah Pick, Meddygon Ymgynghorol Deintyddol Arbenigol 

Ymchwil, Arloesi a Gwella (noddir gan MTX) 

Ar gyfer gwrando, dysgu a gwella trwy ymchwil, arloesi a ffyrdd newydd o weithio sydd o fudd i gleifion, gwasanaethau neu BIP CTM yn ei chyfanrwydd:  

🏆 Enillydd: Dr Iyad Al-Muzaffar, Neonatolegydd Ymgynghorol, Iechyd Plant.  

🌟 Ail-Orau: Tîm PIPYN 

Arwr Tawel 

Am wneud cyfraniad eithriadol i BIP CTM trwy eu hymroddiad, eu hymrwymiad a’r gwahaniaeth cadarnhaol y maen nhw’n gwneud i eraill bob dydd: 

🏆 Enillydd: Gemma Cummings, Rheolwr Cymorth Busnes, a Robert Cummings, Swyddog Offer Sgiliau Clinigol (Adfywio).  

🌟 Ail-Orau: Vanessa Jones, Uwch-nyrs (Dirywiad Acíwt a Gwasanaethau Allgymorth). 

Gwobr Aspire 

Am greu neu fanteisio ar gyfle i ddatblygu yn eu swydd, a rhoi beth a ddysgwyd ar waith i wneud gwahaniaeth cadarnhaol:

🏆 Enillydd: Ella Franklin, Swyddog Deintyddol 

🌟 Ail-Orau ar y cyd: Nicola Savage, Ymarferydd Nyrsio Allgymorth Gofal Critigol, a Dr Zed Sibanda, Meddyg Ymgynghorol Paediatrig  

Gwirfoddolwr y Flwyddyn 

Am roi eu hamser, eu hegni a'u brwdfrydedd i wella bywydau eraill, boed hynny drwy wirfoddoli gyda gwasanaethau BIP CTM neu drwy gefnogi cymunedau ac elusennau lleol: 

🏆 Enillydd: Rachel Reed, Ymarferydd Iechyd y Cyhoedd.  

🌟 Ail-Orau: Cerilynn Higgins, Is-gadeirydd y Grŵp Llywio Dementia Rhanbarthol. 

Gwobr Seren y Flwyddyn

Wedi'u dewis o blith enillwyr misol Gwobr Seren y flwyddyn flaenorol (Ebrill 2025 – Mawrth 2026), gan gydnabod unigolyn sy'n ymgorffori'r gorau oll o BIP CTM.  

🏆 Enillydd: Victoria Spargo, Uwch-wyddonydd Biofeddygol ac enillydd Gwobr Seren ym mis Ionawr 2026.  

🌟 Ail-Orau: Catherine Lowery, Rheolwr Clinigol, CEF Y Parc ac enillydd Gwobr Seren Ebrill 2025. 

Derbynwyr Gwobrau Gwasanaeth Hir  

Cydnabod cydweithwyr sydd wedi rhoi mwy na 50 mlynedd o wasanaeth i'r GIG.

Llongyfarchiadau i: 

👏 Avril Brinkworth, Nyrs Staff.  

👏 Carol Ridley, Cadw Tŷ.  

👏 Gareth Greenslade, Porthor Gwastraff.  

👏 Kelvin Woodliffe, Porthor.  

👏 Kim Ashton, Bydwraig Llywodraethu.  

👏 Vera Clement, Nyrs Glinigol Arbenigol Gofal Lliniarol ar gyfer Plant a Phobl Ifanc 

Gwyliwch yr uchafbwyntiau 

🎥 Gwyliwch ein fideo uchafbwyntiau: 

📸 Gweld yr oriel luniau swyddogol: https://www.ameproductions.co.uk/gallery  

Llongyfarchiadau unwaith eto i bawb, gan gynnwys yr Enillwyr ac Ail-oreuon. Mae pob un ohonoch yn cynrychioli’r gorau oll o Gwm Taf Morgannwg a’r gwerthoedd rydym yn eu rhannu, sef gofalu am ein cymunedau a’n gilydd. 

#CTMSeren2026