Neidio i'r prif gynnwy

Mae BIPCTM yn cynnal ei Ddigwyddiad Arddangos Gofal Iechyd Seiliedig ar Werthoedd cyntaf erioed

Cynhaliwyd digwyddiad cyntaf o'i fath, yn arddangos sut mae Gofal Iechyd Seiliedig ar Werthoedd (VBHC) yn newid y ffordd y darperir rhagoriaeth mewn gofal, gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn gynharach yr wythnos hon.

Mae Gofal Iechyd sy'n Seiliedig ar Werthoedd yn canolbwyntio ar gyflawni'r canlyniadau iechyd a'r profiadau sydd bwysicaf i gleifion, gan sicrhau bod gofal yn effeithiol, yn bersonol, ac yn gynaliadwy.

Denodd y digwyddiad, yng Ngholeg y Cymoedd yn Nantgarw yr wythnos hon, dros 150 o fynychwyr ac fe’i hagorwyd gyda phrif anerchiad gan Jeremy Miles AS, Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Roedd yn cynnwys cystadleuaeth posteri, ac arddangosfa o 18 o brosiectau a ariannwyd a chefnogwyd gan dîm VBHC CTM, gan dynnu sylw at yr ystod eang o waith arloesol sy'n cael ei wneud, a'r effaith gadarnhaol y mae Gofal Iechyd Seiliedig ar Werthoedd wedi'i chael ar draws y bwrdd iechyd. 

Mae Gofal Iechyd sy'n Seiliedig ar Werthoedd yn helpu BIP CTM i ddeall effaith triniaethau'n well, gan sicrhau bod adnoddau'n cael eu defnyddio lle maen nhw'n gwneud y gwahaniaeth mwyaf. Drwy wrando ar gleifion, defnyddio mewnwelediadau sy'n seiliedig ar ddata a chymhwyso dull Gofal Iechyd sy'n Seiliedig ar Werthoedd, gall BIP CTM wella gofal yn barhaus a chefnogi canlyniadau iechyd gwell.

Ers 2022 mae tîm Gofal Iechyd sy’n Seiliedig ar Werthoedd BIP CTM wedi cefnogi ac ariannu 36 o brosiectau sydd wedi'u cyd-gynllunio mewn partneriaeth â thimau BIP CTM, partneriaid allanol, defnyddwyr gwasanaeth a chleifion.

Un o'r prosiectau sy'n elwa o ddull a chyllid VBHC yw gwasanaeth Tîm Gofal Alcohol (ACT) CTM: Astudiaeth Achos Gofal Iechyd Sy'n Seiliedig ar Werthoeddoedd Gwasanaeth ACT

Dywedodd Jeremy Miles AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: “Mae Gofal Iechyd sy’n Seiliedig ar Werthoedd yn cynrychioli newid sylfaenol yn y ffordd rydym yn darparu gofal - gan symud y tu hwnt i gyfrif gweithdrefnau i fesur yr hyn sy’n wirioneddol bwysig, canlyniadau gwell i bobl a’u teuluoedd. Mae’r prosiectau arloesol a arddangoswyd yn y digwyddiad hwn a drefnwyd gan BIP Cwm Taf Morgannwg yn dangos yr effaith y mae’r dull hwn yn ei chael. Rydw i am weld y dulliau hyn yn cael eu cyflwyno ledled Cymru oherwydd bod pawb yn haeddu gofal sy'n gwneud gwahaniaeth go iawn i'w bywydau.”

Dywedodd Dee Lowry, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Gwerth ac Effeithlonrwydd: “Yn unol â strategaeth genedlaethol, mae BIP CTM yn mabwysiadu ac yn ymgorffori egwyddorion VBHC ar draws y sefydliad, gan gynnwys gweithredu system ddigidol ar gyfer gweithredu mesurau VBHC yn systematig fel PROMs a PREMs. Drwy wrando ar gleifion, defnyddio mewnwelediadau sy'n seiliedig ar ddata a chymhwyso dull Gofal Iechyd sy'n Seiliedig ar Werthoedd, gall BIP CTM wella gofal yn barhaus a chefnogi canlyniadau iechyd gwell.

“Dangosodd ein digwyddiad yr ystod o waith sy’n digwydd ar draws CTM i roi cleifion wrth wraidd sut rydym yn cynllunio ac yn darparu gofal. Mae Gofal Iechyd sy'n Seiliedig ar Werthoedd yn ymwneud â gwrando ar beth sydd bwysicaf i'n cleifion a gweithio gyda nhw, ein gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, a'n partneriaid i wella'r ddarpariaeth gwasanaethau a chanlyniadau a phrofiadau cleifion. Mae clywed straeon y cleifion ochr yn ochr â chyflwyniadau'r prosiect yn dangos, drwy gydweithio, ein bod yn deall ac yn dod yn sefydliad sy'n dysgu. Rydw i’n hynod falch o'r prosiectau a'r timau am y gwahaniaeth maen nhw'n ei wneud i'n cymunedau."

Am ragor o wybodaeth, cliciwch yma: Mae BIP CTM yn cynnal ei Ddigwyddiad Arddangos Gofal Iechyd Seiliedig ar Werthoedd cyntaf erioed

Neu e-bostiwch dîm Gofal Iechyd sy’n Seiliedig ar Werthoedd BIP CTM: CTM.VBHC@wales.nhs.uk

 

18/09/2025