Neidio i'r prif gynnwy

Astudiaeth Achos Gofal Iechyd Sy'n Seiliedig ar Werthoeddoedd Gwasanaeth ACT

Mae Tîm Gofal Alcohol (ACT) Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn wasanaeth Gofal Iechyd sy'n Seiliedig ar Werthoedd a Ariennir sy'n cefnogi cleifion ar draws BIP CTM, 7 diwrnod yr wythnos.

Mae tua 10 miliwn o bobl yn y DU yn yfed yn rheolaidd mewn ffyrdd a allai niweidio eu hiechyd. O nosweithiau di-gwsg a hwyliau isel i ganolbwyntio llai a mwy o gorbryder, gall alcohol gael effaith sylweddol ar ein bywydau personol a phroffesiynol. Mae effaith alcohol ar iechyd yn fwy amlwg mewn ardaloedd o amddifadedd oherwydd cyfuniad o anghydraddoldebau iechyd, gan gynnwys anghenion meddyliol a chorfforol, a diffyg gwasanaethau cefnogol i'w rheoli.

Canfu ymarfer cwmpasu fod y gwasanaeth a fodolai eisoes o ddydd Llun i ddydd Gwener, 9am-5pm, yn aneffeithiol wrth gofnodi'r oriau mwyaf tebygol o gael derbyniadau i'r ysbyty sy'n gysylltiedig ag alcohol. Felly, y weledigaeth oedd gweithredu gwasanaeth gofal alcohol 7 diwrnod ar draws ein 3 Ysbyty Cyffredinol Dosbarth gydag allgymorth i'r gymuned.

Gan lansio yn 2023, mae'r tîm yn cynnwys pum Nyrs Gofrestredig a thri Ymarferydd Gofal Alcohol sy'n gweithio ar draws rhanbarth CTM, gyda chanolfannau yn Ysbyty Tywysoges Cymru, Ysbyty Brenhinol Morgannwg ac Ysbyty'r Tywysog Siarl.

Mae'r gwasanaeth ar gael i gefnogi cleifion a staff mewn perthynas â defnyddio alcohol, boed y nod yn ymatal llwyr neu leihau'r defnydd. Mae'r tîm yn darparu ystod o ymyriadau o fewn lleoliadau ysbyty ac yn cynnig parhad gofal trwy bontio cefnogaeth rhwng gwasanaethau ysbyty a chymunedol.

Y ffocws o'r cychwyn cyntaf wrth ddatblygu'r gwasanaeth hwn oedd cael dull cydgynhyrchiol, cydweithredol a chanolbwyntio ar y person gyda chleifion â phrofiad uniongyrchol, gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, y Bwrdd Cynllunio Ardal a'r trydydd sector fel Barod i greu gwasanaeth hygyrch a chynaliadwy ar draws CTM. Mae'r datblygiad gwasanaeth hwn wedi rhoi'r person yn y blaen, gan eu grymuso i rannu eu stori, eu hanghenion a'u dyheadau ar gyfer model gofal newydd gwybodus, sy'n ystyried goblygiadau ehangach camddefnyddio alcohol.

Cynhaliodd y tîm gyfres o grwpiau ffocws ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth, er mwyn cael gwell dealltwriaeth o'u hanghenion, ac i gynnwys eu mewnbwn a'u sylwadau wrth ddylunio'r gwasanaeth a darnau penodol o waith fel taflen wybodaeth i gleifion. Mae'r daflen, a gynhyrchwyd ar y cyd â defnyddwyr gwasanaeth, bellach yn cael ei rhannu â chleifion ar draws CTM ac mae ar gael i'w defnyddio gan fyrddau iechyd eraill ledled Cymru. 

Mae defnyddwyr gwasanaeth hefyd wedi bod yn rhan o brosesau recriwtio'r ACT ac wedi cynorthwyo'r tîm i gyd-gynhyrchu holiadur i'w ddefnyddio yn adrannau brys BIP CTM.

Ers y lansiad, mae tîm gwasanaeth ACT wedi:

  • Ymgysylltu â grwpiau gwella gwasanaethau ar draws y CTM, gan weithio ar y cyd â'r Bwrdd Cynllunio Ardal a Barod gan sicrhau bod cyfleoedd parhaus i wrando, dysgu a chaniatáu i ddefnyddwyr gwasanaethau barhau i fod yn rhan o ddatblygiad pellach y gwasanaeth.
  • Sefydlodd weithdy cenedlaethol ar gyfer gwybodaeth i gleifion y gellir ei haddasu'n lleol a gynhyrchwyd ar y cyd â defnyddwyr gwasanaeth.
  • Arloesodd y mesur canlyniad cyntaf a adroddwyd gan gleifion yn benodol ar gyfer gofal alcohol, sydd bellach ar waith
  • Cyflwynodd 60+ awr o hyfforddiant i dros 200 o staff ar draws CTM
  • Y bwrdd iechyd cyntaf yng Nghymru i lansio ymgyrch Drymester sy'n anelu at leihau nifer yr achosion o Anhwylder Sbectrwm Alcohol y Ffetws trwy hyrwyddo goddefgarwch sero i alcohol yn ystod beichiogrwydd.  Sicrhau bod yr wybodaeth hon ar gael yn y Gymraeg fel y gall byrddau iechyd eraill Cymru ei mabwysiadu’n hawdd.

Ers gweithredu'r gwasanaeth 7 diwrnod:

  • Mae 2,095 o gleifion wedi cael eu gweld a'u cefnogi ar draws y 3 safle (ym mis Awst 2025)
  • Derbyniodd 93% o gleifion gymorth arbenigol gydag alcohol o fewn 1 diwrnod i'w derbyn, gyda 98% o fewn 3 diwrnod
  • Mae 848 o gleifion wedi cael eu cefnogi gyda chymorth meddygol gyda ffigurau misol (15 gwaith yn fwy o fewn y gwasanaeth newydd)
  • Mae 426 o dderbyniadau i'r ysbyty wedi cael eu hosgoi, gan arwain at effeithlonrwydd cost o leiaf £500k

Rhannodd un defnyddiwr gwasanaeth: “Mae’r grwpiau gwasanaeth cymunedol newydd wedi newid bywydau. Rydw i’n teimlo'n fwy cefnogol a deallus yn fy nhaith adferiad.”

Dywedodd David Samuel (Hepatolegydd Ymgynghorol) gyda gwasanaeth ACT: “Ers i ni lansio’r gwasanaeth ACT, gan ddefnyddio dull cydweithredol, rydym wedi gallu dylunio a gweithredu triniaethau, ymyriadau ac ymgysylltu cymunedol gyda chleifion sy’n byw ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful.

“Rydym wedi gweld gwelliant sylweddol mewn canlyniadau, gan ein bod nid yn unig wedi gallu cefnogi mwy o gleifion, ond rydym hefyd wedi gallu osgoi dros 400 o dderbyniadau, gan arwain at effeithlonrwydd sylweddol o ran cost a gwasanaeth.  Mae ein gwasanaeth yn enghraifft wych o sut y gall Gofal Iechyd sy'n Seiliedig ar Werthoedd gael effaith hynod gadarnhaol ac arwyddocaol. Ni fyddem wedi gallu cyflawni dim o hyn heb y cyllid gan y tîm Gofal Iechyd sy’n Seiliedig ar Werthoedd, a hoffem ddiolch iddyn nhw am eu cefnogaeth barhaus.”

Cliciwch yma i gael gwybod mwy am dîm ACT.

18/09/2025