Neidio i'r prif gynnwy

Mae Arbenigwr Graffiti 'Tee2Sugars' yn goleuo'r fynedfa i Ysbyty'r Tywysog Siarl

Yn 2017, dechreuodd gwaith ar y rhaglen adnewyddu gwerth tua £260m yn Ysbyty’r Tywysog Siarl; rhaglen adnewyddu fawr i wella a diweddaru'r ysbyty. Dros sawl cam o’r gwaith, byddwn yn ehangu’r cyfleusterau presennol ac yn uwchraddio amgylchedd yr ysbyty ar gyfer ein cleifion, ymwelwyr a staff.

Mae gwaith wedi mynd rhagddo flwyddyn ar ôl blwyddyn a rhagwelir y bydd y rhaglen wedi’i chwblhau yn 2026. Mae amserlen y rhaglen yn adlewyrchu maint enfawr y gwaith sy'n cael ei wneud ar safle ein hysbyty 'byw'.  Mae'r holl waith yn cael ei gynllunio fesul adran er mwyn cadw gwasanaethau i redeg mor normal â phosib, a gyda'r aflonyddwch lleiaf i gleifion a staff.

Rydyn ni’n gwneud popeth o fewn ein gallu i wneud yr amgylchedd mor ddymunol â phosib tra bod y gwaith hwn yn cael ei wneud. Yn ddiweddar, rydyn ni wedi bod yn gweithio gydag arbenigwr graffiti 'Tee2Sugars', i ddatblygu'r hysbysfyrddau plaen ar hyd mynedfa flaen yr ysbyty.

Roeddem ni am i’n mynedfa edrych a theimlo’n fwy disglair a bod â gwir ystyr i’n cymuned, ac iddi adlewyrchu hanes ac amgylchedd lleol ardaloedd Merthyr a Chwm Cynon. Roedd ochr chwith yr hysbysfwrdd yn ymwneud â gofal, iechyd a thwf gyda'r ochr dde yn canolbwyntio ar gynaliadwyedd, hanes a threftadaeth.

Meddai Jeremy Holifield, Swyddog Cyfrifol am raglen adeiladu Ysbyty’r Tywysog Siarl: “Mae’r adborth gan gleifion ac ymwelwyr sydd wedi mynd heibio’r gwaith gan Tee2Sugars wrth ein prif fynedfa wedi bod yn gadarnhaol iawn. Nid yn unig y mae wedi goleuo’r hysbysfwrdd, mae’r datganiad bywiog sy’n cysylltu ein hethos gofal iechyd â’n treftadaeth leol a’r amgylchedd yn ysgogi’r meddwl ac yn galonogol.”

Meddai Tom, Arbenigwr Graffiti o Tee2Sugars: “Roedd yn teimlo’n gymaint o gamp i mi fod yn rhan o’r prosiect adnewyddu. Mae cael arddangos fy ngwaith mewn lle mor gyhoeddus gyda phobl yn ei edmygu bob amser yn uchafbwynt i unrhyw waith artist. Roedd yr ymateb i’r murlun tra roeddwn i’n ei gwblhau yn hynod gadarnhaol gyda phobl yn caru’r lliwiau a’r delweddau a ddangoswyd.”

12/07/2023