Neidio i'r prif gynnwy

Mae apwyntiadau cerdded i mewn ar gael ar gyfer brechlyn COVID-19 ar gyfer pobl 50 oed ac iau

Bydd y cynnig i bob un o'r ddau ddos sylfaenol o'r brechlyn COVID-19 yn dod i ben ar 30 Mehefin ar gyfer unrhyw un sy'n 50 oed neu'n iau heb gyflwr iechyd sylfaenol, ar ôl y dyddiad hwn ni fydd y brechiadau ar gael i chi.

Os hoffech gael dos o'r brechlyn COVID-19 cyn iddo ddod i ben, gallwch gerdded i mewn i un o'n Canolfannau Brechu Cymunedol (CBC) o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 09:15am – 16:45pm neu ffonio ein llinell archebu ar 01685 726464.

Mae ein CBC wedi'u lleoli ar y safleoedd canlynol:

  • Ysbyty Dewi Sant
  • Ysbyty George Thomas
  • Parc Iechyd Keir Hardie
  • Ysbyty Glanrhyd
  • Ysbyty Cwm Cynon
  • Ysbyty Maesteg

Efallai y byddwch hefyd yn derbyn neges destun yn atgoffa eich bod yn gymwys i gael y brechlyn ar hyn o bryd ac yn ei hatgoffa i fanteisio ar y cynnig o frechlyn os dymunwch.

 

27/06/2023