Mae tîm cymunedol ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn rhoi cefnogaeth hanfodol i bobl sydd angen help gyda'u hiechyd a'u lles, trwy ymateb i fwy na 4,000 o alwadau yn ystod y 10 mis diwethaf.
Mae'r gwasanaeth Llywyddion Cymunedol, sy'n cael ei redeg gan BAVO (Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Pen-y-bont ar Ogwr), yn helpu pobl i ddod o hyd i wybodaeth a gweithgareddau yn y gymuned a fydd yn eu helpu i gadw eu hannibyniaeth a gwella eu hiechyd a’u lles.
Mae’r gwasanaeth ar gyfer oedolion 50 oed a hŷn, pobl â dementia neu anableddau dysgu a gofalwyr, ac mae'n helpu i atal eu hamgylchiadau rhag dirywio i’r graddau y gall fod angen iddyn nhw weld eu meddyg teulu neu ddefnyddio gwasanaethau gofal cymdeithasol.
Mae brwydrau gyda phryder, arwahanrwydd cymdeithasol, profedigaeth ac unigrwydd hefyd yn gwaethygu’r sefyllfa i rai, ac mae'r Llywyddion Cymunedol yn gweithio'n agos gydag unigolion i roi help a chefnogaeth iddyn nhw er mwyn diwallu eu hanghenion.
Yn ystod y cyfnod clo, cynyddodd y nifer o bobl a oedd angen help yn ddramatig. Roedd y gwasanaeth yn disgwyl tua 300 o geisiadau am gymorth yn ystod y flwyddyn, ond mewn gwirionedd derbyniodd y gwasanaeth 4,444 o alwadau gan bobl agored i niwed mewn dim ond deg mis.
Dywedodd Kay Harries, Rheolwr Gweithrediadau a Phartneriaethau ar gyfer Gwasanaeth Llywyddion Cymunedol BAVO, “Ein rôl fel Llywyddion Cymunedol yw helpu unrhyw un sy'n byw ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr sydd angen help i ddod o hyd i’r help hwnnw yn y gymuned.
“Yn ystod y pandemig, mae ein rolau wedi newid yn fawr ac mae wedi dod yn amlwg bod cynifer o bobl wedi bod angen ein help mewn sawl ffordd. Rydym ni wedi gallu camu i’r adwy a chefnogi unigolion a oedd yn ‘gwarchod’ neu oedd yn rhy bryderus i adael eu cartref, ac wedi trefnu bod gwirfoddolwyr yn gwneud eu siopa, yn casglu presgripsiynau ac yn diwallu anghenion sylfaenol.
“Roeddem ni hefyd yn gallu darparu cefnogaeth emosiynol a helpu pobl i gadw mewn cysylltiad ag eraill a theimlo’n well, a dyna yw ein nod allweddol ni bob amser.”
Mae gwasanaeth y Llywyddion Cymunedol yn cael ei ddarparu mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a Rhaglen Cymunedau Cydnerth a Chysylltiedig Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Mae pum Llywydd Cymunedol yn gweithio ar draws ardal Pen-y-bont ar Ogwr, ac maen nhw'n gweithio gydag unigolion i ganfod eu hanghenion ac yna eu cefnogi i ddod o hyd i wasanaethau cymunedol neu weithgareddau y maen nhw'n teimlo sy'n iawn iddyn nhw.
Yna, mae'r llywyddion yn cysylltu â'r person hwnnw eto i wirio sut maen nhw'n dod ymlaen, pa fuddion maen nhw wedi eu gweld a gofyn a oes angen mwy o help arnyn nhw. Os bydd yn dod i’r amlwg nad yw rhywun wedi cael gafael ar gymorth, mae mwy o help yn cael ei gynnig.
Gall unrhyw un sy'n teimlo'n fregus gysylltu. Gall unigolion ddod atom ni eu hunain neu gall meddygon teulu, grwpiau iechyd meddwl a sefydliadau trydydd sector eraill atgyfeirio pobl atom ni hefyd.
Dywedodd Gail Devine, Arweinydd Tîm Llywyddion Cymunedol Pen-y-bont ar Ogwr, nad rhoi label ar bobl yw’r nod, ond darganfod beth sy'n bwysig iddyn nhw a pha gefnogaeth allai eu helpu i wella eu lles.
Meddai, “Rydyn ni'n gweithio gyda phobl sydd â phroblemau iechyd meddwl ysgafn ac yn siarad am eu bywydau beunyddiol, sut maen nhw'n teimlo ac yn ceisio dod o hyd i weithgareddau lleol a fydd yn helpu.
“Gallwn ni gefnogi pobl trwy gynnig ystod eang o gefnogaeth, o ddarparu talebau banc bwyd, cwrdd â phobl eraill mewn bore coffi neu grŵp iechyd meddwl i helpu pobl i ddefnyddio cludiant cyhoeddus, a hynny wrth roi help llaw i’r rhai sydd angen hynny.
“Mae'n syml iawn ond yn effeithiol iawn. Rydyn ni'n gwybod o'n grwpiau cymunedol eu bod nhw'n gweld pobl yn magu hyder a brwdfrydedd, ac yn gweld pobl yn dod atyn nhw eu hunain ac yn dod yn rhan o'r gymuned.
“Cysylltwch â ni a gwnawn bopeth y gallwn i helpu. Mae rhywbeth y gellir ei wneud bob amser. ”
Mae’r Llywyddion Cymunedol yn rhan o ystod o wasanaethau sydd ar gael yn y gymuned, sydd oll yn cael eu hyrwyddo yn rhan o ymgyrch #EichTîmLleol Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.
Nod yr ymgyrch yw codi ymwybyddiaeth am yr ystod o weithwyr gofal iechyd proffesiynol yn y gymuned all helpu cleifion heb orfod mynd i weld meddyg teulu.
I gael gwybod mwy, cysylltwch â BAVO ar 01656 810400, e-bostiwch communitynavigator@bavo.org.uk neu ewch i www.bavo.org.uk/get-help/help-for-individuals/community-navigators/
Mae BAVO bellach yn cynnig gwasanaeth 'y tu allan i oriau' rhwng 5 - 8pm a phenwythnosau 9am - 8pm i bobl gael cyngor am y gwasanaethau, y wybodaeth a’r gweithgareddau sydd ar gael ar lefel gymunedol.
*Am fwy o wybodaeth, cysylltwch ag Alison Watkins o’r Tîm Cyfathrebu ar 07854 386054 neu e-bostiwch Alison.watkins3@wales.nhs.uk
Astudiaeth achos am Lywyddion Cymunedol
Mae Ernest yn byw ar ei ben ei hun ac mae ganddo gi hen o'r enw Charlie. Mae'n dioddef o iselder a gorbryder ac, oherwydd cyfnodau clo yn ddiweddar, mae wedi bod yn teimlo hyd yn oed yn fwy unig ac yn fwy ynysig. Does dim deulu gyda fe yn yr ardal ac roedd problem gyda fe hefyd gyda chyflwr ei fflat.
Cafodd ei atgyfeirio am gefnogaeth gan y Nyrs Seiciatrig Gymunedol a chysylltodd Jackie â fe, un o Lywyddion Cymunedol BAVO.
Meddai Ernest: “Ffoniodd Jackie fi i gyflwyno ei hun ac i holi fi am yr help yr oeddwn ei angen. Parhaodd yr alwad ffôn gyntaf am dros awr, oherwydd roeddwn i eisiau egluro am rai o'r pethau rydw i wedi bod drwyddyn nhw yn y gorffennol sydd wedi arwain at y sefyllfa rydw i ynddi hi nawr. Roedd yn hawdd iawn siarad â hi ac roedd ganddi ddiddordeb yn beth roeddwn yn ei ddweud.
“Yr unig dro rwy’n gweld unrhyw un arall yw pan fydda i yn mynd â Charlie am dro bach ac yn codi llaw ar fy nghymdogion os ydyn nhw yn eu ffenestri. Awgrymodd Jackie ‘gyfeillio dros y ffôn’ fel y gallwn i siarad â rhywun yn rheolaidd i leddfu ar yr unigrwydd. Roeddwn i'n meddwl y byddai hynny'n syniad gwych a chytunais y gallai fy atgyfeirio i at ‘Cyfeillion yn y Gymuned’. Rydw i’n edrych ymlaen at siarad â rhywun yn rheolaidd.
“Y rheswm rydw i wedi bod yn teimlo mor isel fy ysbryd yw oherwydd cyflwr fy fflat. Hoffwn i wahodd pobl i daro heibio am sgwrs ond, oherwydd faint o bethau sydd gyda fi o gwmpas y lle, byddwn yn poeni y gallai ymwelydd faglu dros rywbeth neu y gallai rhywbeth ddisgyn arnyn nhw.
“Dywedodd Jackie wrthyf i am Gydlynydd Cymunedol Lleol ar gyfer fy ardal. Dywedodd y gallai ddarparu cefnogaeth yn y tymor hwy ac am gyfnod hirach nag y byddai hi'n gallu. Roeddwn i’n fodlon â hynny, a chytunais iddi hi fy atgyfeirio i ato am gefnogaeth gyda fy fflat pe gallai helpu.
“Mae gwybod bod yna bobl mas yna a all fy helpu wedi bod yn rhyddhad mawr, ac mae Jackie wedi bod yn help mawr wrth drefnu popeth i mi.”
* Mae ei henw go iawn wedi ei newid er mwyn diogelu ei chyfrinachedd.