Neidio i'r prif gynnwy

Llywodraeth Cymru yn cadarnhau bod y Rhaglen Profi Cymunedol yn cychwyn yn Cwm Taf Morgannwg

Mae Gweinidog Iechyd Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd rhaglen Profi Cymunedol yn cychwyn ledled ardal Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg o ddydd Mercher 3 Mawrth.

Gan ganolbwyntio ar ardaloedd lle mae niferoedd uchel o heintiadau COVID-19 yn gyson, bydd y rhaglen ar waith mewn Canolfannau Profi Cymunedol ledled Rhondda Cynon Taf, Pen-y-bont ar Ogwr a Merthyr Tudful.

Mae preswylwyr dros 11 oed ym mhob un o’r ardaloedd sydd wedi cael eu nodi gan yr awdurdodau lleol, ac sydd HEB symptomau o COVID-19, yn cael eu hannog i gael prawf yn rhad ac am ddim yn eu canolfan brofi leol yn ystod cyfnodau profi. Fydd dim angen trefnu prawf ymlaen llaw.

Bydd busnesau sydd gyda staff sydd ddim yn gallu gweithio o gartref - yn enwedig y rhai sy’n gweithio ym maes trafnidiaeth (fel gyrwyr bysys a thacsis), gweithwyr mewn siopau bwyd a phobl sy’n gweithio yn y maes adeiladu neu weithgynhyrchu - hefyd yn annog eu staff i gael prawf fel bod modd diogelu eu cydweithwyr a’u teuluoedd.

Ym mhob un o’r ardaloedd dan sylw, mae cyfraddau uchel o heintiadau COVID-19 yn gyson. Nod y Rhaglen Profi Cymunedol felly yw canfod y preswylwyr hynny sydd o bosibl gyda COVID-19, ond sydd heb symptomau. Mae rhaglen o’r fath yn hollbwysig er mwyn atal y feirws rhag lledaenu yn yr ardal leol.

Dywedodd Dr Kelechi Nnoaham, Cyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg:

“Mae’r rhaglen hon, lle bydd aelodau o’r cyhoedd heb symptomau yn cael prawf, yn rhan hanfodol o’n hymdrechion i ganfod ac wedyn i ynysu achosion o COVID-19 yn ein cymunedau, er mwyn atal y feirws rhag lledaenu.

“Rydyn ni’n gwybod na fydd gan un ym mhob tri pherson gyda’r Coronafeirws unrhyw symptomau. Mae hyn yn golygu na fydd llawer ohonon ni yn gwybod ein bod yn rhoi’r feirws i’n hanwyliaid.

“Y llynedd, cynhalion ni raglen profi torfol fel cynllun peilot ym Merthyr Tudful ac yn rhan isaf Cwm Cynon. Rhoddodd hyn wybodaeth hollbwysig i ni er mwyn i ni ddeall sut roedd y feirws yn lledaenu trwy’r cymunedau hynny.

“Rydw i’n erfyn ar y rhai sydd dros 11 oed ac sy’n byw, yn gweithio neu’n astudio yn yr ardaloedd dan sylw i fynd i gael prawf am ddim, ac i chwarae eu rhan nhw yn y gwaith o gadw eu cymuned yn ddiogel. Mae’n bwysig cofio bod y rhaglen hon i bobl sydd HEB symptomau o COVID-19, ac sydd ddim yn hunan-ynysu ar hyn o bryd”.

Byddwch chi’n gallu gweld a yw eich cymuned chi yn rhan o’r rhaglen ar wefan eich awdurdod lleol.