Neidio i'r prif gynnwy

Llythyr ar y cyd i drigolion Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg

Llythyr ar y cyd i drigolion Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg.

“Rydym ni am fod yn gwbl onest gyda chi am faint yr her sydd o’n blaenau.”

Annwyl breswylydd,

Mae'r gaeaf yma, ac fel arfer, byddai’r Bwrdd Iechyd a’r cynghorau lleol wrthi’n cwblhau ein cynlluniau am sut y byddwn yn delio â'r pwysau sy’n dod gyda’r tywydd oerach bob blwyddyn.

Mae'r flwyddyn hon yn wahanol iawn, iawn.

Mae'r pwysau ar ein holl wasanaethau wedi dechrau eisoes, a hynny cyn i ni gyrraedd uchafbwynt y gaeaf.

Mae Adrannau Achosion Brys yn y tri ysbyty lleol yn hynod o brysur.  Mae'r gwasanaethau ambiwlans dan bwysau difrifol ac mae galw uchel amdanyn nhw, sy'n golygu na allan nhw ymateb mor gyflym ag y dylen nhw. Mae meddygon teulu a chydweithwyr sy'n gweithio allan yn ein cymunedau o dan bwysau enfawr hefyd oherwydd apwyntiadau brys a rheolaidd, yn ogystal â'r nifer uchel o bobl sydd angen cymorth gartref.  Mae timau Gofal Cymdeithasol yn gweithio'n galed i ryddhau cleifion o'n hysbytai gyda'r pecyn gofal cywir ar gyfer eu hanghenion.  Mae'r system iechyd a gofal cymdeithasol gyfan o dan bwysau aruthrol yn sgil cynydd yn y galw a'r heriau di-ben-draw wrth geisio rheoli Covid-19 ar draws ein gwasanaethau.  Mae ein staff yn gweithio'n galed i ymateb i'r pwysau hyn, ond rydym yn gwybod y bydd gan lawer ohonoch brofiad uniongyrchol o'r oedi a'r amseroedd aros hir am ofal ar hyn o bryd.

Mae llawer o bobl yn ein hysbytai yn barod i adael a mynd adref mewn gwirionedd, ond mae angen trefnu gwasanaethau a gofal i'w cefnogi wrth iddyn nhw gael eu rhyddhau.  Fodd bynnag, rydym yn wynebu heriau gwirioneddol wrth ddod o hyd i ofal yn y cartref ar hyn o bryd, a all arwain at oedi wrth i bobl adael yr ysbyty. Mae hyn yn golygu bod llai o welyau ar gael i'r cleifion sy'n dod drwy'r Adrannau Achosion Brys, sydd yn ei dro yn achosi i ambiwlansys orfod aros y tu allan nes eu bod yn gallu trosglwyddo cleifion i'r ysbyty, sydd wedyn yn effeithio ar argaeledd parafeddygon i ymateb i alwadau 999 yn y gymuned.  Yn yr un modd, os yw ein gwelyau ysbyty yn llawn oherwydd cleifion sydd wedi dod i mewn fel argyfyngau neu sydd â Covid-19, ni allwn ddod â chleifion i mewn ar gyfer eu llawdriniaethau arfaethedig, sy'n golygu bod rhaid i bobl sy'n aros am lawdriniaeth, fel llawdriniaeth ar y glun, aros mewn poen am fwy o amser wrth aros am eu triniaeth.  Mae gennym filoedd o bobl yn ein cymunedau ar hyn o bryd yn aros am lawdriniaeth, ac mae angen i ni drin y bobl hyn cyn gynted â phosibl.

Dyma ddarlun llwm, ond rydym am fod yn gwbl onest gyda chi am yr her rydym i gyd yn ei hwynebu.

Rydym am eich sicrhau ein bod yn gweithio gyda'n gilydd ar draws y Bwrdd Iechyd, y gwasanaeth ambiwlans a'r tri awdurdod lleol i geisio sicrhau ein bod yn gwneud popeth posibl i ddelio â'r galw uchel iawn ac i ddarparu'r gofal gorau posibl o dan yr amgylchiadau presennol.

Fodd bynnag, ni allwn wneud hyn heboch chi. 

Mae gennym nod clir ac rydym yn benderfynol, ond bydd angen eich help chi arnom. 

Os byddwn yn gweithio gyda'n gilydd, byddwn yn goresgyn y misoedd sydd i ddod gyda'n gilydd.  Heb eich cefnogaeth chi, byddwn yn ei chael hi'n anodd helpu'r rhai sydd ein hangen fwyaf.

Efallai y byddwch yn synnu o weld faint o wahaniaeth y gallwch chi ei wneud ar ein cyfer ni i gyd.  I'n helpu ni i'ch helpu chi:

  • Manteisiwch ar y cynnig o gael y ddau ddos o'r brechlyn rhag COVID-19 a'r pigiad atgyfnerthuMae'r amrywiolyn newydd Omicron yn golygu bod hyn hyd yn oed yn bwysicach, a byddwch yn cael cynnig dos atgyfnerthu erbyn diwedd y mis hwn.
  • Cewch eich pigiad gaeaf rhag y ffliw
  • Daliwch ati i fod yn wyliadwrus am COVID-19.  Dilynwch y rheolau sydd ar waith i geisio sicrhau bod lledaeniad y Coronafeirws o dan reolaeth.  Mae hynny'n golygu,
    • gwisgo masg lle bo angen
    • cael prawf (gan ddefnyddio dyfeisiau llif unffordd yn rheolaidd neu gael PCR os oes symptomau gyda chi neu os cewch chi eich cynghori i wneud hynny)
    • Dilyn y canllawiau hunan-ynysu diweddaraf
  • Dewiswch y gwasanaeth cywir ar gyfer eich anghenion gofal iechyd  Os oes angen gofal arnoch chi am fân anafiadau neu fân anhwylder (fel dolur gwddf, llid yr amrannau, annwyd cyffredin), yna gall eich fferyllfa leol eich helpu. 
  • Mae ein hunedau mân anafiadau yn trin ystod eang o anafiadau (fel ysigiadau, toriadau, crafiadau, brathiadau) yn hytrach na bod rhaid mynd yn syth i'r Adran Achosion Brys.
  • Meddyliwch yn ofalus cyn mynd i’r Adran Achosion Brys. Allech chi ofyn am gyngor ar-lein gan wiriwr symptomau GIG 111 Cymru https://111.wales.nhs.uk/, neu gan eich meddygfa, neu allech chi fynd i uned mân anafiadau neu fferyllfa i gael cyngor?
  • Mae eich meddyg teulu wedi bod yma i chi, ac mae'n dal i fod yma i chi.  Mae eu drysau wedi aros ar agor trwy gydol y pandemig; yr unig beth sydd wedi newid yw sut rydych chi’n mynd trwy’r drysau hyn. Gall ymgynghoriadau dros y ffôn ac o bell fod yn ffordd wych o arbed amser wrth sicrhau eich bod yn cael y cymorth cywir ar gyfer eich anghenion.  Os oes angen i'ch meddyg teulu eich gweld chi ar gyfer ymgynghoriad wyneb yn wyneb, bydd yn trefnu hyn. Ystyriwch a allech chi gael cyngor gan fferyllydd neu wasanaeth 111 GIG Cymru cyn cysylltu â'r meddyg teulu.
  • Rhowch wybod i ni os na allwch chi gadw apwyntiad ysbyty.  Ym mis Awst a Medi eleni, nid oedd 15,000 o gleifion wedi cadw eu hapwyntiadau, ac ni wnaethon nhw roi gwybod i ni chwaith.  Rydym yn gweithio'n galed i geisio lleihau ein rhestrau aros, felly helpwch ni drwy chwarae eich rhan chi hefyd os gwelwch yn dda.  Yn yr un modd, os ydych chi ar restr aros am apwyntiad claf allanol ond dydych chi ddim yn meddwl bod angen un arnoch chi mwyach, yna rhowch wybod i ni.
  • Yn olaf, os oes perthynas i chi sydd yn un o'n hysbytai ond sy'n ddigon da i fynd adref a gallwch chi helpu o ran hynny, siaradwch â ni.  Bydd hyn yn ein helpu i ryddhau gwelyau i gleifion eraill sydd ag anghenion gofal brys.

Rydym yn gwybod ein bod yn gofyn llawer gennych chi. 

Ond rydym yn gofyn am eich cymorth oherwydd eich bod wedi gwneud hyn o'r blaen.  Rydych chi wedi sefyll gyfysgwydd â ni ers diwrnod cyntaf y pandemig, a dyna pam rydym ni'n gofyn am eich help chi eto.

Diolch i chi, a helpwch ni i gyd i gadw ein cymunedau'n ddiogel y gaeaf hwn.

 

Paul Mears

Yr Athro Kelechi Nnoaham

Jason Killens

Y Cynghorydd Huw David

Y Cynghorydd Andrew Morgan

Y Cynghorydd Lisa Mytton

CEO

Cyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd

CEO

Leader

Leader

Leader

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

CBS Pen-y-bont ar Ogwr

CBS Rhondda Cynon Taf

CBS Merthyr Tudful