Llythyr ar y cyd i drigolion Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg.
“Rydym ni am fod yn gwbl onest gyda chi am faint yr her sydd o’n blaenau.”
Annwyl breswylydd,
Mae'r gaeaf yma, ac fel arfer, byddai’r Bwrdd Iechyd a’r cynghorau lleol wrthi’n cwblhau ein cynlluniau am sut y byddwn yn delio â'r pwysau sy’n dod gyda’r tywydd oerach bob blwyddyn.
Mae'r flwyddyn hon yn wahanol iawn, iawn.
Mae'r pwysau ar ein holl wasanaethau wedi dechrau eisoes, a hynny cyn i ni gyrraedd uchafbwynt y gaeaf.
Mae Adrannau Achosion Brys yn y tri ysbyty lleol yn hynod o brysur. Mae'r gwasanaethau ambiwlans dan bwysau difrifol ac mae galw uchel amdanyn nhw, sy'n golygu na allan nhw ymateb mor gyflym ag y dylen nhw. Mae meddygon teulu a chydweithwyr sy'n gweithio allan yn ein cymunedau o dan bwysau enfawr hefyd oherwydd apwyntiadau brys a rheolaidd, yn ogystal â'r nifer uchel o bobl sydd angen cymorth gartref. Mae timau Gofal Cymdeithasol yn gweithio'n galed i ryddhau cleifion o'n hysbytai gyda'r pecyn gofal cywir ar gyfer eu hanghenion. Mae'r system iechyd a gofal cymdeithasol gyfan o dan bwysau aruthrol yn sgil cynydd yn y galw a'r heriau di-ben-draw wrth geisio rheoli Covid-19 ar draws ein gwasanaethau. Mae ein staff yn gweithio'n galed i ymateb i'r pwysau hyn, ond rydym yn gwybod y bydd gan lawer ohonoch brofiad uniongyrchol o'r oedi a'r amseroedd aros hir am ofal ar hyn o bryd.
Mae llawer o bobl yn ein hysbytai yn barod i adael a mynd adref mewn gwirionedd, ond mae angen trefnu gwasanaethau a gofal i'w cefnogi wrth iddyn nhw gael eu rhyddhau. Fodd bynnag, rydym yn wynebu heriau gwirioneddol wrth ddod o hyd i ofal yn y cartref ar hyn o bryd, a all arwain at oedi wrth i bobl adael yr ysbyty. Mae hyn yn golygu bod llai o welyau ar gael i'r cleifion sy'n dod drwy'r Adrannau Achosion Brys, sydd yn ei dro yn achosi i ambiwlansys orfod aros y tu allan nes eu bod yn gallu trosglwyddo cleifion i'r ysbyty, sydd wedyn yn effeithio ar argaeledd parafeddygon i ymateb i alwadau 999 yn y gymuned. Yn yr un modd, os yw ein gwelyau ysbyty yn llawn oherwydd cleifion sydd wedi dod i mewn fel argyfyngau neu sydd â Covid-19, ni allwn ddod â chleifion i mewn ar gyfer eu llawdriniaethau arfaethedig, sy'n golygu bod rhaid i bobl sy'n aros am lawdriniaeth, fel llawdriniaeth ar y glun, aros mewn poen am fwy o amser wrth aros am eu triniaeth. Mae gennym filoedd o bobl yn ein cymunedau ar hyn o bryd yn aros am lawdriniaeth, ac mae angen i ni drin y bobl hyn cyn gynted â phosibl.
Dyma ddarlun llwm, ond rydym am fod yn gwbl onest gyda chi am yr her rydym i gyd yn ei hwynebu.
Rydym am eich sicrhau ein bod yn gweithio gyda'n gilydd ar draws y Bwrdd Iechyd, y gwasanaeth ambiwlans a'r tri awdurdod lleol i geisio sicrhau ein bod yn gwneud popeth posibl i ddelio â'r galw uchel iawn ac i ddarparu'r gofal gorau posibl o dan yr amgylchiadau presennol.
Fodd bynnag, ni allwn wneud hyn heboch chi.
Mae gennym nod clir ac rydym yn benderfynol, ond bydd angen eich help chi arnom.
Os byddwn yn gweithio gyda'n gilydd, byddwn yn goresgyn y misoedd sydd i ddod gyda'n gilydd. Heb eich cefnogaeth chi, byddwn yn ei chael hi'n anodd helpu'r rhai sydd ein hangen fwyaf.
Efallai y byddwch yn synnu o weld faint o wahaniaeth y gallwch chi ei wneud ar ein cyfer ni i gyd. I'n helpu ni i'ch helpu chi:
Rydym yn gwybod ein bod yn gofyn llawer gennych chi.
Ond rydym yn gofyn am eich cymorth oherwydd eich bod wedi gwneud hyn o'r blaen. Rydych chi wedi sefyll gyfysgwydd â ni ers diwrnod cyntaf y pandemig, a dyna pam rydym ni'n gofyn am eich help chi eto.
Diolch i chi, a helpwch ni i gyd i gadw ein cymunedau'n ddiogel y gaeaf hwn.
Paul Mears |
Yr Athro Kelechi Nnoaham |
Jason Killens |
Y Cynghorydd Huw David |
Y Cynghorydd Andrew Morgan |
Y Cynghorydd Lisa Mytton |
CEO |
Cyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd |
CEO |
Leader |
Leader |
Leader |
Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg |
Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg |
Gwasanaethau Ambiwlans Cymru |
CBS Pen-y-bont ar Ogwr |
CBS Rhondda Cynon Taf |
CBS Merthyr Tudful |