Neidio i'r prif gynnwy

Llythyr agored gan dîm brechu COVID-19 BIP Cwm Taf Morgannwg

Helo bawb,

Rydyn ni am ysgrifennu atoch chi i roi’r diweddaraf i chi am ein rhaglen frechu rhag COVID-19.

Mae amrywiad newydd Omicron wedi cyrraedd y DU, felly rydyn ni'n gwybod – ac rydyn ni'n deall yn llwyr – fod llawer ohonoch chi'n awyddus i gael eich dos atgyfnerthu, neu eich ail ddos, o'r brechlyn rhag COVID-19.  Yn dilyn cyhoeddiadau JCVI ddydd Llun, bydd llawer ohonoch am wybod pryd yn union y byddwch chi'n cael y brechlyn.

Mae canllawiau newydd yr wythnos hon yn ehangu rhaglen y ddos atgyfnerthu i bob oedolyn (dros 18 oed) ac yn argymell rhoi’r ail ddos i’r rheiny dan 18 oed.  Yn ogystal â hynny, maen nhw’n lleihau'r cyfnod rhwng yr ail ddos a'r ddos atgyfnerthu o 26 wythnos i 13 wythnos (er y dylech chi aros o leiaf 13 wythnos cyn cael cynnig y ddos atgyfnerthu, dydy hyn ddim golygu eich bod yn hwyr unwaith y bydd 13 wythnos wedi mynd heibio). 

Mae'n hwn yn newid mawr, mae'n gymhleth, a dim ond amser byr sydd gyda ni i gyflawni popeth.

Wrth i ni baratoi ar gyfer llawer o wahanol ddigwyddiadau a chanlyniadau, rydyn ni'n cael gwybod pryd y bydd newidiadau’n digwydd yr un pryd ag y byddwch chi.  Pan fydd y JCVI neu Lywodraeth Cymru’n gwneud cyhoeddiad, byddwn ni'n dechrau gweithio ar unwaith ar sut y byddwn ni'n rhoi'r canllawiau newydd ar waith.  Mae hynny'n golygu ein bod ni'n dechrau gweithio ar unwaith ar sut rydyn ni'n mynd i roi'r cynllun ehangach ar waith.  Rydyn ni'n ystyried a oes angen canolfannau brechu newydd arnom, ble byddwn ni'n dod o hyd i staff newydd sydd wedi eu hyfforddi, neu mae modd eu hyfforddi, er mwyn rhoi’r brechlyn i bobl, ac a oes modd i ni gynyddu nifer yr apwyntiadau? Mae hyn i gyd yn golygu bod llawer o bobl yn gweithio oriau hir ac yn gweithio'n gyflym i gyflawni hyn, a hynny wrth barhau i gynnig yr un nifer o apwyntiadau.

Rydyn ni wedi bod yn y sefyllfa hon o'r blaen fodd bynnag.  Rydyn ni wedi goresgyn a rhagori ar bob her hyd yn hyn yn y rhaglen enfawr hon i frechu pawb, a gyda'ch cymorth chi, byddwn ni’n goresgyn yr heriau nesaf sydd o’n blaenau. 

Rydyn ni’n benderfynol o gynnig eich brechlynnau i chi mor fuan ac mor ddiogel â phosib.  Chi yw ein blaenoriaeth.

Fodd bynnag, mae angen eich amynedd wrth i ni roi'r newidiadau hyn ar waith.

Ers y cyhoeddiadau cenedlaethol, mae llinellau ffôn y Bwrdd Iechyd (gan gynnwys ein meddygfeydd) a'n sianeli ar y cyfryngau cymdeithasol wedi cael eu gorlethu gyda phobl yn holi pryd bydd eu hapwyntiad i gael y ddos atgyfnerthu. 

Fel y dywedom ar ddechrau'r llythyr hwn, rydyn ni’n ddeall yn llwyr, ac yn gwerthfawrogi bod hwn yn gyfnod pryderus. 

Gofynnwn i chi ymddiried ynom ni.

Byddwn ni’n cysylltu â chi pan fydd eich tro chi’n cyrraedd.  Os ydych chi wedi cael eich dos gyntaf a’ch ail ddos, mae eich manylion cyswllt gyda ni.  Fyddwn ni ddim yn anghofio amdanoch, a byddwn ni’n sicrhau na fydd neb yn cael ei adael ar ôl.

Peidiwch â ffonio ein llinellau apwyntiad, oni bai bod angen i chi ganslo neu aildrefnu apwyntiad.  Does dim angen cysylltu â ni, na'ch meddyg teulu, i ofyn am apwyntiad.  Allwch chi ddim trefnu apwyntiad yn ystod y cam hwn o'r rhaglen.

Gofynnwn hefyd i chi wneud eich gorau i flaenoriaethu a chadw eich apwyntiad pan fyddwch chi’n ei gael.  Oherwydd maint y cynllun ehangach hwn, bydd dod i’ch apwyntiad ar eich amser a dyddiad penodedig yn help mawr i ni.  Os ydych chi'n gyflogwr yng Nghwm Taf Morgannwg, gofynnwn hefyd am eich cymorth os bydd apwyntiad gyda’ch staff yn ystod oriau gwaith.

Rydyn ni eisoes wedi dechrau trefnu apwyntiadau ychwanegol, gan ddechrau o ddydd Llun (6 Rhagfyr).  Rydyn ni wedi ychwanegu 10,000 o slotiau ychwanegol at ein hamserlenni ar gyfer apwyntiadau, a byddwn ni’n parhau i gynyddu'r nifer honno drwy weddill y mis hwn.

Mae hyn yn golygu efallai y byddwch chi’n cael neges destun yn hytrach na llythyr apwyntiad gennym ni, ac mae’n bosib y bydd eich apwyntiad ar fyr rybudd. Ein nod yw anfon apwyntiadau yn nhrefn oedran a grŵp blaenoriaeth, ond gan ein bod yn gweithio mor gyflym, efallai y byddwch chi’n clywed bod nifer fach o bobl iau na chi’n cael cynnig eu dos atgyfnerthu. 

Mae rhai pobl wedi bod yn rhannu eu neges destun am apwyntiad gyda manylion cyswllt.  Peidiwch â gwneud hyn. Os byddwch chi’n cysylltu â ni gan ddefnyddio gwybodaeth sydd wedi ei hanfon at rywun arall, fyddwn ni ddim yn gallu trefnu apwyntiad i chi.

Gobeithio y bydd yr wybodaeth ddiweddaraf hon yn ddefnyddiol.

Byddwn ni’n rhoi’r diweddaraf i chi bob cam o'r ffordd. 

Hefyd yn rhan o’r rhaglen frechu, rydyn ni nawr yn anfon llythyrau apwyntiad at y rheiny sy’n 16 a 17 oed i ddod i gael eu hail ddos.  O'r wythnos nesaf ymlaen, byddwn ni’n gwneud yr un peth ar gyfer y rheiny rhwng 12 a 15 oed.  Rydyn ni’n parhau i weithio trwy ein rhestrau o gleifion sy’n gaeth i’w cartref, a byddwn ni’n eich cyrraedd chi neu eich perthynas cyn gynted â phosib. 

Cofiwch, os ydych chi’n 18 oed neu’n hŷn a heb gael eich dos gyntaf neu eich ail ddos, gallwch chi gerdded i mewn i'n canolfannau brechu cymunedol.  Mae rhagor o wybodaeth ar ein gwefan:  Gwybodaeth am y brechlyn rhag COVID-19 – Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (gig.cymru)

Ers diwrnod cyntaf y rhaglen frechu hon, rydych chi wedi ein helpu ni.  Diolch am hynny ac am barhau i weithio gyda ni i ddiogelu pawb yng Nghwm Taf Morgannwg.  Mae brechiadau’n achub bywydau.

Diolch.

Tîm Brechu rhag COVID-19, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.