Neidio i'r prif gynnwy

Llwyddiant tair gwobr i dîm datblygu Ysbyty'r Tywysog Siarl

Mae'r tîm y tu ôl i'r rhaglen ailddatblygu yn Ysbyty'r Tywysog Siarl yn dathlu ar ôl cael eu cydnabod trwy ennill tair gwobr fawreddog yn y diwydiant.

Cafodd penseiri'r prosiect HLM Architects eu henwi yn Bractis Pensaernïol y Flwyddyn, gyda beirniaid yn tynnu sylw at nifer o gynlluniau a gyflawnwyd gan y practis, gan gynnwys ei waith yn Ysbyty'r Tywysog Siarl.

Derbyniodd y datblygiad gydnabyddiaeth genedlaethol hefyd yng Ngwobrau Adeiladu Rhagoriaeth Cymru, lle sicrhaodd y prosiect y Wobr Effaith Gymdeithasol am ei ymrwymiad i ddarparu buddion i gleifion, staff a'r gymuned ehangach.

Gan ychwanegu at y llwyddiant, dyfarnwyd Gwobr Efydd i'r prif gontractiwr Tilbury Douglas Construction Cyf. yng Ngwobrau Safleoedd Cenedlaethol y Cynllun Adeiladwyr Ystyriol (CCS). Mae'r gwobrau'n cydnabod safleoedd adeiladu ledled y DU sy'n dangos ystyriaeth eithriadol i'w gweithlu, cymunedau lleol a'r amgylchedd.

Mae Gwobrau Safleoedd Cenedlaethol CCS wedi dathlu safleoedd adeiladu mwyaf ystyriol y DU ers 1998, gan gydnabod prosiectau sy'n helpu i wella delwedd y diwydiant adeiladu trwy ymgysylltu â'r cyhoedd, gwerth cymunedol a chyfrifoldeb amgylcheddol.

Mae'r triawd o wobrau yn adlewyrchu ymroddiad ac ymdrechion cydweithredol pawb a oedd yn rhan o gyflawni datblygiad Ysbyty'r Tywysog Siarl, gan dynnu sylw at ragoriaeth mewn dylunio, effaith ar y gymuned ac arferion adeiladu cyfrifol.