Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn dathlu llwyddiant yng Ngwobrau GIG Cymru 2026, gyda thîm yn cael ei gydnabod am ei gyfraniad at wella gwasanaethau, profiadau a chanlyniadau i bobl ledled Cymru.
Wedi'i gynnal gan Berfformiad a Gwella GIG Cymru, mae Gwobrau GIG Cymru yn arddangos prosiectau a thimau sy'n sbarduno gwelliannau mewn ansawdd, diogelwch a pherfformiad ar draws gwasanaethau iechyd a gofal yng Nghymru.
Prosiect gwobrwyedig
Gwobr Gofal sy’n Canolbwyntio ar yr Unigolyn GIG Cymru
O Oroesi i Adferiad: Llwybr Gofal Critigol sy'n Canolbwyntio ar y Claf ac wedi'i Gyd-gynhyrchu ac sy'n Ystyriol o Drawma
Gan gyflwyno methodoleg Cynllunio-Gwneud-Astudio-Gweithredu a ddatblygwyd dros sawl blwyddyn, dangosodd y tîm ei ailgynllunio llwybr cyfan a oedd wedi'i gyd-gynhyrchu gyda chleifion, teuluoedd a staff i drawsnewid model cleifion allanol adweithiol, yn fodel llwybr cyfan rhagweithiol, a'r effaith a'r canlyniadau a gafodd hyn ar gleifion a'u teuluoedd.
Wrth sôn am ei gyflawniad, dywedodd y tîm: “Rydym wrth ein bodd bod y gwaith hwn wedi cael ei gydnabod ar lefel genedlaethol.
"Mae'r cyflawniad yn adlewyrchu ymrwymiad a chreadigrwydd y tîm i gydweithio â chleifion, teuluoedd a chydweithwyr ar draws gwasanaethau gofal critigol, a helpodd ni i ail-ddychmygu sut y gellid darparu cymorth seicolegol.
"Gobeithiwn y bydd y gwersi a ddysgwyd o'r gwaith hwn yn parhau i lywio datblygiad gwasanaethau yn y dyfodol, yn ogystal â gofal seicolegol i bobl sy'n gwella ar ôl salwch difrifol.”
Daeth cynrychiolwyr o bob cwr o GIG Cymru ynghyd mewn digwyddiad dathlu arbennig yng Nghaerdydd ddydd Iau 12 Tachwedd i ddathlu rhagoriaeth, cyfnewid syniadau drwy farchnad posteri’r rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol ac amlygu sut y gellir lledaenu ac ehangu arloesiadau llwyddiannus er budd pobl a gwasanaethau ledled Cymru.
Clywodd gwesteion hefyd gan ystod o uwch arweinwyr gan gynnwys:
Mae Gwobrau GIG Cymru yn parhau i dynnu sylw at y gwaith eithriadol sy'n digwydd ar draws gwasanaethau iechyd a gofal, ac yn dathlu arloesedd, cydweithio a gwelliant parhaus.
Dysgwch ragor am Wobrau GIG Cymru a gweld y rhestr lawn o enillwyr yn gwobraugig.cymru