Neidio i'r prif gynnwy

Llwyddiant i CTM yng Ngwobrau Nyrs y Flwyddyn Cymru

Roedd hi’n noson wych i Gwm Taf Morgannwg yng ngwobrau Nyrs y Flwyddyn Cymru, wrth i bedwar aelod o’r staff ddathlu eu buddugoliaeth.

Mae'r seremoni flynyddol, sy’n cael ei chynnal gan Goleg Nyrsio Brenhinol Cymru, yn cydnabod nyrsys o bob cwr o'r wlad am ragoriaeth mewn sawl gwahanol gategori.

Enillodd Claire Broom, sy’n uwch-ymarferydd nyrsio, Wobr Gofal am Bobl Hŷn am ei gwaith ar wasanaeth estynedig i gartrefi gofal yng nghlwstwr sylfaenol Cynon.

Aeth y Wobr Plant a Bydwreigiaeth i’r nyrs staff Gaynor Gough a'r ymarferydd nyrsio clinigol Michelle Staple. Datblygodd y ddwy ohonyn nhw adnodd arloesol newydd i roi cymorth i blant gydag anghenion ychwanegol.

Enillodd yr uwch-nyrs Jacqueline Morgan y Wobr Hybu Dysgu ac Addysg wrth Ymarfer ynghyd â Matthew Thornton o Brifysgol De Cymru. Gyda'i gilydd, arweinion nhw’r gwaith o gyflwyno model addysg arloesol newydd sy'n ennyn mwy o hyder a chymhwysedd ymhlith myfyrwyr.

Dywedodd Greg Dix, Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio a Bydwreigiaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg: “Llongyfarchiadau mawr i'n holl enillwyr.

“Mae'r gwobrau hyn yn glod i'w gwaith caled a'u creadigrwydd anhygoel, sydd eisoes yn gwneud gwahaniaeth ac yn newid bywyd cleifion yn ein cymunedau.

“Rydyn ni wedi gweithio'n galed i feithrin diwylliant gwirioneddol o arloesi a datblygu yma yng Nghwm Taf Morgannwg, ac mae'n braf gweld hwnnw'n cael ei gydnabod ar raddfa genedlaethol gan Goleg Nyrsio Brenhinol Cymru.

“Mae ein henillwyr heno yn esiampl wych o CTM ar ein gorau, ac rydyn ni i gyd yn falch iawn ohonyn nhw.”

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â phob un o'r aelodau staff hyn a'u buddugoliaeth, darllenwch ymlaen.

Claire Broom — Uwch-ymarferydd Nyrsio

Roedd Clare yn allweddol wrth ddylunio a chyflwyno gwasanaeth gwell ar gyfer yr un ar ddeg o gartrefi gofal yng nghlwstwr gofal sylfaenol De Cynon.

Ers cael ei phenodi'n uwch-ymarferydd nyrsio yn 2020, mae ei sgiliau asesu clinigol a'i dealltwriaeth ddofn o eiddilwch wedi arwain at fanteision mesuradwy ledled y rhanbarth. Mae hi'n gwybod sut mae eiddilwch yn effeithio ar allu pobl i gyflawni gweithgareddau rheolaidd yn annibynnol oherwydd salwch corfforol neu feddyliol.

Roedd angen taer i gryfhau’r gwaith o gynllunio gofal ymlaen llaw ar draws y cartrefi gofal. Mae Clare wedi cyflawni gwaith gwych, gan gysylltu ag arbenigwyr nyrsio clinigol ym maes cynllunio gofal ymlaen llaw i helpu i wella sgiliau a grymuso staff cartrefi gofal i roi newidiadau ystyrlon ar waith. 

Mae'r gwelliannau newydd yn y gwasanaeth, sydd ar waith ers mis Chwefror 2021, yn cynnwys rhoi diagnosis a thrin cyflyrau sydd heb gael diagnosis o'r blaen, yn ogystal â system newydd ar gyfer rheoli meddyginiaethau, a system newydd ar gyfer rheoli cyflyrau cronig.

Mae Clare yn dangos sgiliau nyrsio rhagorol yn rheolaidd, gan gynnwys negodi, arwain a chydweithio. Ei hathroniaeth yw gweithio gyda’i chydweithwyr mewn ffordd gydgynhyrchiol er mwyn ddiwallu anghenion pobl hŷn. Roedd panel y gwobrau wedi rhyfeddu’n fawr ar ei heiriolaeth dros bobl hŷn a pha mor ostyngedig mae ei gwaith yn gwneud iddi deimlo.

Michelle Staple — Nyrs Glinigol Arbenigol ar gyfer Plant gydag Anghenion Ychwanegol
Gaynor Gough — Nyrs Staff

Mae Gaynor a Michelle wedi datblygu adnodd arloesol newydd i broffilio iechyd, sy’n rhoi cymorth i blant a phobl ifanc gydag anghenion ychwanegol.

Wrth ymgynghori ag uwch-nyrsys ac ymgynghorwyr, aethon nhw ati i archwilio ffyrdd o wella gwaith llywodraethu clinigol a phrofiad cleifion. Canfuwyd bylchau yn y gwasanaeth a rhwystrau rhag gofal iechyd sy’n wynebu plant, pobl ifanc a theuluoedd sy'n agored i niwed. Gwrandawyd ar deuluoedd wyneb yn wyneb hefyd er mwyn deall eu problemau.

Yn rhan o Gymuned Ymarfer Gwelliant Cymru, mae Gaynor a Michelle yn bwriadu treialu'r proffil iechyd yn ardal Merthyr Tudful. Eu nod yw gwella’r cyfathrebu rhwng plant, pobl ifanc, teuluoedd a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol.

Eu nod yw cynhyrchu pecyn hyfforddi i godi ymwybyddiaeth, gwella dealltwriaeth a chydnabod yr angen am ofal unigol sy'n canolbwyntio ar y plentyn ac sy'n sicrhau gwell canlyniadau. Eu gweledigaeth yn y pen draw yw dyfodol lle na fydd pobl gydag anabledd dysgu’n wynebu unrhyw anghydraddoldeb iechyd.

Roedd panel y gwobrau wedi rhyfeddu ar y gwaith ar draws y sefydliad a’r cysylltiadau strategol sydd wedi eu sefydlu. Cafodd Gaynor a Michelle ganmoliaeth ganddyn nhw am eu dull strategol o greu newid diwylliannol i sicrhau gofal iechyd teg.

Jacqueline Morgan - Uwch-nyrs
Matthew Thornton — Rheolwr Academig / Pennaeth Dysgu Seiliedig ar Ymarfer ac Efelychu

Mae Jacqui a Matthew wedi arwain y gwaith o gyflwyno model arloesol ac uchelgeisiol newydd ar gyfer dysgu ac addysgu wrth ymarfer. 

Gan ddefnyddio dull dysgu cydweithredol, mae'r model newydd yn hybu dull gwreiddiol ar gyfer myfyrwyr nyrsio, sy'n troi’r ffocws o fentora traddodiadol at hyfforddi. Mae hyn yn galluogi myfyrwyr i ddatblygu gwell hyder a chymhwysedd drwy ddull seiliedig ar dystiolaeth sy'n cael ei lywodraethu'n ddiogel a'i werthuso'n llawn.

Dyma’r fenter gyntaf o'i math yng Nghymru, ac mae Jacqui a Matthew wedi mynd ati’n fedrus i lywio'r cydweithio rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a Phrifysgol De Cymru.

Mae'r dull newydd hwn yn galluogi myfyrwyr i fod yn fwy rhagweithiol wrth ofalu am gleifion. Mae'n hybu dysgu o ansawdd uchel, yn buddsoddi mewn goruchwylwyr presennol a darpar oruchwylwyr ac yn cynnal perthnasoedd er mwyn cynorthwyo'r rôl hon. Rhaid i fyfyrwyr trydedd flwyddyn hyfforddi myfyrwyr blwyddyn gyntaf dan oruchwyliaeth nyrs gofrestredig.

Er mwyn cyflwyno newid mor eang, mae angen cadernid a hyblygrwydd ar ran y myfyrwyr, yr hwyluswyr addysg wrth ymarfer, yr aseswyr a’r goruchwylwyr.
 
Cafodd y prosiect ei roi ar waith yn ystod cyfnod o bwysau eithafol ar y GIG, a’i arwain gan Jacqui a Matthew gyda chryn sensitifrwydd, ymroddiad a phroffesiynoldeb. Eu harweinyddiaeth ar y cyd yw’r prif reswm dros y llwyddiant hwn.