Y mis hwn mae rhywbeth newydd a chyffrous wedi digwydd yng Nghwm Taf Morgannwg.
Mae 33 o arweinwyr a hyrwyddwyr cymunedol angerddol wedi gwirfoddoli i ddod yn 'hyrwyddwyr brechu cymunedol' ar draws ein rhanbarth.
Drwy’r cynnig hyfforddiant cymunedol newydd hwn; a gynhelir gan yr Arts Factory a’i gyflwyno gan dimau arbenigol y bwrdd iechyd - Tîm Imiwneiddio Arbenigol y CTM a Thîm MECC (Gwneud i Bob Cyswllt Gyfrif), mae arweinwyr cymunedol wedi cael yr offer, yr hyfforddiant a’r hyder i siarad yn agored am bwysigrwydd brechiadau gaeaf yn eu grwpiau a’u cymunedau lleol, gan gynnwys sgîl-effeithiau a chymhwysedd.
Mae'r hyfforddiant hwn yn rhan o bartneriaeth newydd rhwng y bwrdd iechyd a'r gymuned i amddiffyn ein cymunedau cyn y gaeaf.
Dywedodd Emmeline Watkins, Ymgynghorydd Iechyd Cyhoeddus, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg:
“Wrth i ni fynd i mewn i fisoedd y gaeaf, mae'n amser hollbwysig i siarad am bwysigrwydd brechlynnau. Rydyn ni i gyd wedi gweld pa mor bwysig yw brechiadau Covid-19 a ffliw'r gaeaf i gadw ein cymunedau'n ddiogel, helpu i amddiffyn y rhai mwyaf agored i niwed, a lleihau'r pwysau ar ein hysbytai. Ond nid yw’n ymwneud â Covid a ffliw yn unig; mae brechlynnau pwysig eraill, fel y rhai sy'n amddiffyn rhag RSV, a all wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fabanod, oedolion hŷn, a phobl â chyflyrau iechyd penodol.
“Drwy sicrhau bod cymaint o bobl â phosibl yn cael y brechlynnau y maent yn gymwys ar eu cyfer, nid yn unig yr ydym yn atal salwch, rydym yn amddiffyn teuluoedd, yn cadw gwasanaethau i redeg, ac yn cefnogi cymunedau iachach drwy gydol y flwyddyn.
“Ein harweinwyr cymunedol CTM yw calon ein rhanbarth - lleisiau dibynadwy sy'n deall anghenion, gwerthoedd a phryderon eu cymunedau. Drwy gydweithio â nhw i gyd-ddylunio negeseuon brechu gaeaf a diogelu iechyd ein bwrdd iechyd, nid ydym yn rhannu gwybodaeth yn unig; rydym yn meithrin ymddiriedaeth a hyder, yn gwella mynediad, ac yn sicrhau bod negeseuon diogelu iechyd hanfodol yn cyrraedd lle mae'n bwysicaf.”
Dywedodd cyfranogwyr yn yr hyfforddiant:
“Cyflwynwyd yr hyfforddiant yn dda, ac ar y lefel gywir. Roedd y wybodaeth gefndirol yn arbennig o ddefnyddiol, ac er bod rhai staff yn bryderus i ddechrau, roedd yr adborth yn gadarnhaol iawn. Fe wnaethon ni i gyd fwynhau.
“Mae cael mwy o wybodaeth am y mythau a’r ffeithiau wedi fy helpu i deimlo’n fwy parod i hyrwyddo brechu.”
“Mae wedi rhoi hyder i mi fynd i’r afael â rhwystrau posibl ynghylch pam y gallai rhywun fod yn betrusgar i gael brechiad.”
“Rwy’n credu y bydd y 3A (Ask, Advice, Act) yn ddefnyddiol iawn fel fframwaith i agor trafodaethau gydag aelodau’r gymuned.”
Dim ond un elfen yw'r hyfforddiant hwn o gydweithrediad cyntaf o'i fath rhwng y bwrdd iechyd a sawl sefydliad trydydd sector o bob cwr o ranbarth CTM, sydd wedi ffurfio 'Gweithgor Diogelu Iechyd a Brechu' newydd, i sicrhau bod cymaint o bobl â phosibl yn cael eu diogelu.
Mae'r Grŵp Gwaith Diogelu Iechyd a Brechu yn is-grŵp o Rwydwaith Arweinwyr Cymunedol CTM.
Mae rhagor o wybodaeth am frechiadau gaeaf ar gael ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Gall trigolion Cwm Taf Morgannwg ddod o hyd i wybodaeth leol am y brechiad ffliw drwy ein gwefan a thrwy ddilyn y diweddariadau diweddaraf ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol:
Facebook: Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg
Instagram: cwmtafmorgannwg
X: @CwmTafMorgannwg
Am fwy o fanylion ysgrifennwch atom yn:
Grŵp Gwaith Diogelu Iechyd a Brechu
CTM.Enquiries.HP@wales.nhs.uk
Rhwydwaith Arweinwyr Cymunedol CTM
CTM.News@wales.nhs.uk
18/09/2025