Neidio i'r prif gynnwy

Lansio Gwasanaeth 111 yng Nghwm Taf Morgannwg

Mae rhif ffôn newydd ar gyfer gofal iechyd nad yw’n frys yn lansio heddiw, Tachwedd 24, yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.

Bydd y gwasanaeth 111 newydd ar gael bellach yn ardaloedd Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf heddiw. Mae’r rhif yn cael ei ddefnyddio’n barod yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr y Bwrdd Iechyd.

Mae 111 yn rhif y gellir ei ffonio YN RHAD AC AM DDIM. Yn lle gorfod ffonio rhifau gwahanol i gysylltu â Galw Iechyd Cymru neu wasanaeth meddyg teulu tu allan i oriau, bydd modd defnyddio’r ddau wasanaeth erbyn hyn o ffonio 111.

Dywedodd Alan Lawrie, Cyfarwyddwr Gweithredol Gweithrediadau’r Bwrdd Iechyd: “Y brif fantais i’r cleifion yw y gallan nhw, am y tro cyntaf, ffonio’r rhif hawdd ei gofio hwn a derbyn gofal, cyngor a gwybodaeth arbenigol 24 awr y dydd os oes pryderon iechyd gyda nhw sydd ddim yn bygwth bywyd.”

I gleifion sydd ddim yn siŵr a yw eu pryder iechyd yn un brys ai peidio, bydd triniwr galwadau sydd wedi cael hyfforddiant yn gallu penderfynu ar hynny trwy ofyn cyfres o gwestiynau iddyn nhw, a bydd wedyn yn gallu trefnu ambiwlans os bydd angen.

Bydd ffonio 111 yn gallu rhoi cleifion ar ben ffordd i’r lle cywir i gael y driniaeth iawn ar yr adeg iawn.

Mae’r gwasanaeth dan arweiniad clinigwyr, ac mae trinwyr galwadau sydd wedi cael hyfforddiant yn cydweithio â chlinigwyr fel meddygon teulu, nyrsys, uwch-ymarferwyr nyrsio a fferyllwyr.

Bydd y gwasanaeth yn cefnogi’r ymgyrch ehangach i annog cleifion i Aros yn Iach dros y Gaeaf Eleni, ac i helpu i wneud yn siŵr y bydd ein hadrannau damweiniau ac achosion brys a’n gwasanaethau 999 yn gallu helpu’r rhai sydd mewn dirfawr angen.

Yn dilyn proses fesul cam o lansio’r gwasanaeth ledled Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg fydd y pumed bwrdd iechyd i lansio’r gwasanaeth newydd hwn.

Noder na fydd hyn yn effeithio ar linell gymorth Deintyddiaeth - 0300 123 5060. Dylai cleifion barhau i ddefnyddio’r rhif hwn os oes unrhyw ymholiadau deintyddol brys gyda nhw tu allan i oriau.

Dywedodd Richard Bowen, Cyfarwyddwr Rhaglen ar gyfer Gwasanaeth 111 GIG Cymru: “Gall defnyddio gwasanaethau gofal brys fod yn ddryslyd iawn i’r cyhoedd, pan ddaw i wybod pa wasanaethau sydd ar gael a ble i ddod o hyd iddyn nhw, a gwybod pa weithiwr gofal iechyd neu wasanaeth sydd fwyaf tebygol o ddiwallu eu hanghenion.

“Mae GIG Cymru am symleiddio’r sefyllfa hon i gleifion, felly o heddiw ymlaen dim ond un rhif y bydd angen i gleifion yn ardal Cwm Taf Morgannwg ei ffonio – 111.

“Mae’n hawdd defnyddio’r gwasanaeth, a gall gynnig cyngor i chi yn y fan a’r lle a’ch cyfeirio at nifer o opsiynau eraill. Mae gwiriwr symptomau ar lein gyda ni hefyd, y gall cleifion ei ddefnyddio i gael gwybodaeth am anhwylderau a chyflyrau cyffredin. Ar adeg pan fo’r baich gwaith yn cynyddu o hyd, mae’n wych gallu gweithio gyda gweithwyr iechyd proffesiynol, yn eu plith nyrsys, meddygon teulu a fferyllwyr, i sicrhau bod ein cleifion yn cael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw mor effeithiol ac effeithlon â phosibl.”

Dyma'r ddolen i Gwestiynau Cyffredin - https://cwmtafmorgannwg.wales/nhs-111-wales/