Neidio i'r prif gynnwy

Interniaid Project SEARCH yn cael gwaith gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (BIP CTM)

Mae Project SEARCH yn gynllun sy'n galluogi myfyrwyr coleg o'n cymuned leol sydd ag anableddau dysgu a/neu Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth i ymuno â ni yn y Bwrdd Iechyd i gwblhau interniaeth.

Er mwyn sicrhau llwyddiant y prosiect, mae BIP Cwm Taf Morgannwg yn gweithio mewn partneriaeth ag Asiantaeth Cyflogaeth a Gefnogir Elite a Cholegau Pen-y-bont a Merthyr Tudful. Nod y bartneriaeth hon yw cydweithio i helpu'r rhai sydd ag anableddau dysgu yn ein hardaloedd lleol i gael gwaith cyflogedig parhaus. 

Eleni, roedd Declan a Krystal yn rhan o'r prosiect yn Ysbyty Tywysoges Cymru.  Yn dilyn eu lleoliadau, mae'r ddau bellach wedi cael gwaith parhaol yn BIP CTM.

Declan a chydweithwyr Radioleg yn ystod Graddio Prosiect SEARCH 2022.

Mae Interniaeth a Gefnogir Project SEARCH wedi galluogi'r adran Radioleg i dreialu rôl newydd sbon. Ymgymerodd Declan â'r rôl hon fel rhan o'r prosiect yng ngwanwyn 2022. 

Ar ôl graddio o Project SEARCH, cafodd Declan gyfweliad gyda'r adran Radioleg a llwyddodd i sicrhau gwaith parhaol, gan ymgymryd â rôl newydd yr oedd gwir ei hangen, sef ‘Cydlynydd Llif Cleifion Radioleg’.

Dywedodd Declan: “Mae wedi bod yn wych cael y swydd oherwydd mae wedi rhoi annibyniaeth i fi.  Rwy'n ennill fy arian fy hun a does dim rhaid i fi ddibynnu cymaint ar bobl eraill. Mae'n dda i fy lles hefyd. Rwy’n gyffrous fy mod i wedi cael y swydd gan fy mod i wedi cael amser gwych yma ac wedi helpu i gefnogi'r adran.”

Esboniodd Alex, Radiograffydd Uwcharolygol yn Ysbyty Tywysoges Cymru, sut mae'r rôl newydd hon wedi cael effaith gadarnhaol ar y ffordd mae gwasanaethau yn cael eu darparu a’r canlyniadau i gleifion.

“Mae rôl y cydlynydd llif cleifion Radioleg wedi gwella’r ffordd y caiff gwasanaethau eu darparu i gleifion a'u teuluoedd sy'n defnyddio gwasanaethau radioleg yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr.  Mae'r rôl newydd wedi gwella profiad y claf ac wedi lleihau amseroedd aros wrth i gleifion gael eu hanfon i'r ystafell ddelweddu fwyaf priodol yn seiliedig ar eu hanghenion clinigol. Mae hyn yn arbennig o berthnasol o ran delweddu pediatreg, lle mae'r cydlynydd wedi sicrhau bod pob claf pediatrig yn cael ei anfon i ystafell belydr-X bediatrig bwrpasol newydd cyn gynted ag y mae’n cyrraedd yr adran.  Mae'r rôl wedi cryfhau llais y claf drwy bontio'r bwlch cyfathrebu rhwng cleifion yn yr ystafell aros a radiograffwyr sy'n gweithio mewn meysydd clinigol. Mae'r dull hwn sy'n canolbwyntio ar y claf wedi gwella ansawdd y gofal a ddarperir trwy ganiatáu i wybodaeth gan radiograffwyr gael ei throsglwyddo yn ôl i gleifion mewn modd amserol. Erbyn hyn, mae gan gleifion aelod ymroddedig o staff y gallan nhw ofyn unrhyw gwestiynau iddo wrth aros i gael eu sgan. Mae hyn wedi helpu i leddfu unrhyw bryderon a all godi cyn ymchwiliad.”

Llwyddodd Krystal, un o interniaid Project SEARCH, i gael gwaith yn BIP CTM hefyd – daeth Krystal yn rhan o'r Tîm Cadw Tŷ ym mis Gorffennaf 2022. Dywedodd Krystal: “Rwy'n mwynhau fy swydd yn fawr ac mae'n deimlad da ennill fy arian fy hun. Rwy’n mwynhau bod yn rhan o'r Tîm Cadw Tŷ yn fawr.  Rwy'n ddiolchgar iawn am y prosiect ac i bawb yng Nghwm Taf Morgannwg am gynnig y cyfle i mi.” 

Dywedodd Zoë Shields, tiwtor Project SEARCH o Goleg Penybont: “Rwy'n falch iawn o Krystal a Declan am eu hymrwymiad i Raglen Interniaeth a Gefnogir Project SEARCH, sydd wedi arwain at gael gwaith cyflogedig.  Mae'r gefnogaeth maen nhw wedi’i chael gan eu rheolwyr a'u mentoriaid yn Ysbyty Tywysoges Cymru wedi bod yn eithriadol ac wedi bod yn rhan annatod o’u taith tuag at gyflogaeth. 

“Mae’r ffaith bod Krystal a Declan wedi cael gwaith cyflogedig yn dyst i fanteision astudio cyflogadwyedd a gallu defnyddio'r hyn a ddysgwyd yn y gweithle.  Rwy’n edrych ymlaen at eu gweld nhw o amgylch yr ysbyty wrth i mi gefnogi interniaid Project SEARCH eleni. 

“Diolch i Heather Porch, ein Cyswllt Busnes a phawb arall ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a helpodd i wneud hyn yn bosibl.”

Da iawn a llongyfarchiadau i Declan a Krystal am lwyddo i gael gwaith gyda BIP CTM. 

(Chwith) Krystal (Dde) Declan a chydweithiwr.

 

05/12/2022