Dyma hysbysiad y bydd cyfarfod o Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn cael ei gynnal Ddydd Iau, 26 Tachwedd 2026 am 09:00yb yn yr Hyb, Safle Ysbyty Brenhinol Morgannwg, Llantrisant, CF72 8XR.
Mae croeso i aelodau o'r cyhoedd i arsylwi ar ein cyfarfodydd Bwrdd cyhoeddus. Os hoffech ragor o wybodaeth neu os oes gennych ddiddordeb mewn mynychu, gofynnwn i chi gofrestru eich diddordeb ymlaen llaw – os yn bosibl, dim hwyrach na thri diwrnod gwaith cyn y cyfarfod – drwy gysylltu â: CTM_Corporate_Governance@wales.nhs.uk
Os hoffech chi arsylwi'r cyfarfod a bod angen cymorth Iaith Arwyddion Prydain arnoch, cysylltwch â: CTM_Corporate_Governance@wales.nhs.uk a byddwn yn ymdrechu i ddarparu'r gwasanaeth hwn.
Mae’r Bwrdd Iechyd yn cyfarfod yn gyhoeddus, sy’n golygu bod croeso i aelodau’r cyhoedd arsylwi’r Bwrdd yn cynnal ei fusnes. Mae hyn yn wahanol i gyfarfod cyhoeddus, lle gall aelodau o'r cyhoedd gymryd rhan drwy gydol y cyfarfod. Er mwyn cefnogi bod yn agored a thryloyw, mae'r Bwrdd yn rhoi cyfle i aelodau o'r cyhoedd gyflwyno cwestiynau sy'n ymwneud ag eitemau ar agenda'r cyfarfod.
Gellir cyflwyno cwestiynau i CTM_Corporate_Governance@wales.nhs.uk, yn ddelfrydol dim hwyrach na thri diwrnod gwaith cyn y cyfarfod. Mae hyn yn rhoi amser i'r Bwrdd ystyried y cwestiwn ac, lle bo'n briodol, paratoi ymateb cywir a defnyddiol. Mae derbyn cwestiynau yn ddibynnol ar ddisgresiwn y Cadeirydd, a bydd ei benderfyniad yn derfynol. Wrth arfer y disgresiwn hwn, gall y Cadeirydd ystyried ffactorau megis a yw cwestiwn yn ymwneud ag eitem ar yr agenda, a yw eisoes wedi cael ei ateb, a yw'n ailadroddus i raddau helaeth, neu a fyddai, fel arall, yn ymyrryd yn afresymol â threfn y cyfarfod. Darperir y cyfle i gyflwyno cwestiynau er mwyn cefnogi bod yn agored ac yn dryloyw, ac nid yw'n creu hawl i gwestiwn gael ei dderbyn na'i ateb.
Pan dderbynnir cwestiwn a phan ellir paratoi ymateb yn rhesymol mewn pryd, bydd fel arfer yn cael sylw ar ddiwedd y cyfarfod, ar ôl i'r agenda gael ei chwblhau. Lle na ellir ateb cwestiwn a dderbyniwyd ar y diwrnod, bydd ymateb yn cael ei ddarparu i’r gohebydd cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.
Mae'r agenda a'r papurau ar gyfer pob cyfarfod i'w cael yma. Cyhoeddir y papurau 7 diwrnod cyn y cyfarfod.