Neidio i'r prif gynnwy

Her seiclo yn enw cyn-ymgynghorydd CTM

Ar 15 Medi 2022, bu farw cyn-ymgynghorydd Cwm Taf Morgannwg Richard Johnson yn dilyn blwyddyn o driniaeth ar gyfer canser yr arennau. Dros y blynyddoedd fe wnaeth sawl taith seiclo elusennol gan gynnwys chwe Gwlad mewn Tri Diwrnod yn 2016 a Thŵr Eiffel i Dŵr Blackpool yn 2019.

Cyn ei ddiagnosis, her nesaf Richard oedd taith seiclo o fore gwyn tan nos o amgylch Bro Morgannwg. Yn anffodus, ni chafodd erioed gyfle i wneud hyn.

Eleni, i nodi blwyddyn ers colli Richard, mae ei deulu wedi cynllunio her seiclo i’w anrhydeddu. Y daith o fore gwyn tan nos a chyn hynny, taith ddeuddydd ar draws De Cymru, gan ymweld â’r ysbytai a’r clybiau rygbi yr oedd wedi gweithio ynddyn nhw.

Gan ddechrau ar ddydd Iau 14 Medi, bydd y daith yn cychwyn yn Ysbyty Treforys, Abertawe, drwy Ysbyty Castell-nedd Port Talbot a'r Gnoll, ac yna ymlaen i Rodney Parade, Casnewydd - cartref y Dreigiau.

Ar ddydd Gwener 15, bydd y daith yn cychwyn yn Ysbyty Brenhinol Gwent, Casnewydd gydag ymweliadau ag Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd a Bron Brawf Cymru ar Cathedral Road a gorffen wrth fynd heibio The Brewery Field cyn cyrraedd Ysbyty Tywysoges Cymru, Pen-y-bont ar Ogwr, lle bu Richard yn gweithio ers 1998.

Ar ôl cyrraedd, bydd seremoni i ddatgelu enwi’r Uned Llawdriniaeth Ddydd Richard Johnson.

Bydd y tridiau o seiclo yn dod i ben ar ddydd Sadwrn 16 gyda thaith o amgylch Bro Morgannwg o fore gwyn tan nos, ar daith gylchol yn cychwyn ac yn gorffen yn Saint-y-brid.

Mae’r teulu’n gwahodd cymaint o bobl â phosibl i fod yn rhan o #RideforRich – gan gymryd rhan ar unrhyw adeg o’r dydd, naill ai gyda’r teulu neu wneud eu taith seiclo eu hunain.

Gobaith y teulu yw parhau i godi arian ar gyfer Cronfa Waddol Richard Johnson o fewn Cronfa Elusennol Gyffredinol GIG Cwm Taf Morgannwg. Cafodd y gronfa ei sefydlu i godi arian ar gyfer y gwasanaethau llawfeddygol y mae Richard wedi ymroddi 24 mlynedd o'i yrfa i Ysbyty Tywysoges Cymru, Pen-y-bont ar Ogwr. https://www.justgiving.com/fundraising/richardjohnsonendowmentfund?utm_source=copyLink&utm_medium=fundraising&utm_content=richardjohnsonendowmentfund&utm_campaign=pfp-share&utm_term=f3c68340b3cf464e893aed2c

Os hoffech chi gymryd rhan mewn unrhyw ffordd, cysylltwch â rideforrichardjohnson@gmail.com

 

30/08/2023