Wrth i ni nesáu at ŵyl y banc ac yn ystod cyfnod sydd eisoes yn brysur i’r GIG, gallwch chi helpu ein staff i ofalu am y rhai sydd â’r salwch a’r anafiadau mwyaf difrifol drwy ddefnyddio gwasanaethau’n ofalus.
Helpwch ni drwy ddilyn y pum cam hyn:
Defnyddiwch wasanaethau’r GIG yn ddoeth: I gael cyngor ar drin salwch ac anafiadau penodol yn y cartref, defnyddiwch wasanaeth 111 y GIG. Gall GIG 111 Cymru ar-lein ddarparu cyngor gofal iechyd dibynadwy, a'ch cyfeirio at eich meddyg teulu lleol, fferyllfeydd, Uned Mân Anafiadau a gwasanaethau proffesiynol eraill gerllaw. Gweld amseroedd agor Gŵyl Banc Dechrau Mis Mai ar gyfer fferyllfeydd lleol.
Cofiwch, mae adran damweiniau ac achosion brys (A&E) ar gyfer materion difrifol sy'n bygwth bywyd. Os byddwch yn ymweld ag adran argyfwng gyda salwch neu anaf llai difrifol, y gellid ei drin yn rhywle arall, efallai y byddwch yn wynebu aros yn hir.
Ymwelwch yn gyfrifol: Ceisiwch osgoi ymweld ag ysbytai oni bai bod hynny'n gwbl angenrheidiol os ydych chi'n meddwl bod gennych chi feirws neu os ydych wedi bod mewn cysylltiad yn ddiweddar â rhywun sydd â feirws. Gall feirysau fel Norofeirws, COVID a ffliw fod yn beryglus i gleifion agored i niwed ac achosi prinder staff.
Cael eich brechu: Os ydych chi'n gymwys i gael brechiadau rhag COVID neu ffliw, peidiwch â cholli'r cyfle. Cael eich brechu yw'r ffordd fwyaf effeithiol o atal salwch a dioddef o'r feirysau hyn. Mae pob person cymwys bellach yn derbyn gwahoddiadau ar gyfer eu brechlyn COVID-19 y gwanwyn. Mwy o wybodaeth
Gwnewch ddewisiadau da: Meddyliwch yn ofalus am y gwasanaeth GIG sydd orau i chi. Dewiswch gael eich brechu ac ymrwymo i newidiadau cynaliadwy i'ch ffordd o fyw, fel gwneud ymarfer corff bob dydd. Mae gwneud dewisiadau priodol ar gyfer eich iechyd yn eich helpu i gael y gofal sydd ei angen arnoch ac yn cefnogi'r GIG i ofalu am y rhai sydd ei angen fwyaf.
Drwy ddilyn y camau hyn, gallwch helpu i sicrhau bod gwasanaethau’r GIG yn parhau i fod ar gael i’r rhai sydd angen help fwyaf yn ystod cyfnod prysur y gwyliau banc.
02/05/2025