Mae ymroddiad, tosturi ac ymrwymiad rhyfeddol staff a gwirfoddolwyr ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (BIP CTM) yn cael eu dathlu drwy Wobrau Blynyddol Seren, gydag aelodau'r cyhoedd yn chwarae rhan allweddol wrth gydnabod y rhai sy'n gwneud gwahaniaeth go iawn.
Eleni, cafodd dros 200 o enwebiadau eu derbyn ar draws rhaglen wobrau 2026, gyda Gwobr Dewis y Bobl a Gwobr Gwirfoddolwr y Flwyddyn yn cynnig cyfle i gleifion, teuluoedd ac aelodau'r gymuned ddathlu unigolion a thimau sydd wedi cael effaith ystyrlon ar eu bywydau.
Mae'r gwobrau yn cael eu cefnogi'n falch gan ein Helusen GIG CTM, sy’n ei gwneud hi’n bosibl cydnabod a dathlu cyfraniadau rhagorol y bobl sy’n gofalu am ein cymunedau ac yn eu cefnogi.
Gwobr Dewis y Bobl
Mae Gwobr Dewis y Bobl yn cydnabod unigolyn neu dîm sydd wedi gwneud effaith sylweddol ar brofiad y claf, boed ar gyfer claf unigol, o fewn maes gwasanaeth, neu ar draws y Bwrdd Iechyd. Mae'r categori hwn yn unigryw oherwydd ei fod yn rhoi llais uniongyrchol i aelodau'r cyhoedd wrth gydnabod gofal a chefnogaeth eithriadol.
Cafodd y enwebiadau eu hadolygu gan banel beirniadu a oedd yn cynnwys:
Wrth fyfyrio ar y broses feirniadu, dywedodd y panel:
"Roedd yn fraint adolygu'r enwebiadau ar gyfer Gwobr Dewis y Bobl. Roedd ansawdd ac ehangder yr enwebiadau yn wirioneddol ysbrydoledig, gan adlewyrchu'r tosturi, yr ymroddiad a'r proffesiynoldeb rhyfeddol unigolion a thimau ar draws BIP CTM.
Beth oedd fwyaf amlwg oedd yr effaith bwerus a ddisgrifiwyd gan gleifion, teuluoedd a chymunedau, gyda llawer o enwebiadau yn tynnu sylw at weithredoedd o garedigrwydd, cefnogaeth a gofal sy'n canolbwyntio ar y person a wnaeth wahaniaeth parhaol yn rhai o'r adegau pwysicaf ym mywydau pobl.
Hoffem ddiolch i bawb a gymerodd yr amser i gyflwyno enwebiad a llongyfarch pawb a gafodd gydnabyddiaeth.”
Y rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol ar gyfer Gwobr Dewis y Bobl yw:
Gwobr Gwirfoddolwr y Flwyddyn
Mae Gwobr Gwirfoddolwr y Flwyddyn yn cydnabod y rhai sy'n rhoi o'u hamser, eu hegni a'u brwdfrydedd yn hael i wella bywydau eraill. Mae'r categori'n dathlu gwirfoddolwyr sy'n cefnogi gwasanaethau BIP CTM yn ogystal â chydweithwyr y Bwrdd Iechyd sy'n gwirfoddoli eu hamser personol i gefnogi elusennau, cymunedau a mentrau lleol. Yn bwysig, mae'r categori hwn ar agor i enwebiadau gan staff ac aelodau'r cyhoedd.
Roedd panel beirniadu Gwirfoddolwr y Flwyddyn yn cynnwys:
Yn dilyn y broses feirniadu, rhannodd y panel:
"Er ein bod ni barod yn gwybod pa mor wych yw ein staff, mae bob amser yn ysbrydoledig deall i ba raddau y mae llawer ohonyn nhw'n cymryd amser o'u bywydau personol, ac ar adegau yng ngwyneb heriau personol sylweddol, i ofalu am les eraill.
Gwnaeth yr amrywiaeth o weithgareddau gwirfoddol argraff arnom ac roeddem yn falch o weld sylw'n cael ei roi ar gyfraniadau a allai fod wedi mynd heb eu sylwi a heb eu diolch fel arall."
Y rhai sydd wedi cyrraedd rownd derfynol Gwirfoddolwr y Flwyddyn yw:
Dathlu'r rhai sy'n gwneud gwahaniaeth
Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi yn Noson Gwobrau Blynyddol Seren ar 8 Hydref 2026.
I gael rhagor o wybodaeth am Elusen GIG CTM a'i gwaith yn cefnogi cleifion, staff a chymunedau ledled Cwm Taf Morgannwg, ewch i: Elusen GIG Cwm Taf Morganwg
28/08/2026