Neidio i'r prif gynnwy

Gwireddu gweledigaeth cleifion ar gyfer Canolfan Bronnau'r Lili Wen Fach

Mae prosiect celf a gefnogir gan staff, cleifion a'r gymuned leol i helpu cleifion canser y fron Cwm Taf Morgannwg wedi'i gwblhau.

Mae Canolfan Bronnau’r Lili Wen Fach yn uned ddiagnostig ganolog bwrpasol ar gyfer y fron, ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, sy'n darparu gwasanaeth diagnostig un stop ar gyfer cleifion y fron. Mae cleifion, staff a gweithwyr proffesiynol celf a dylunio wedi cydweithio ar brosiect i ddarparu mannau tawel, optimistaidd, cyfeillgar a chynhwysol, yn ogystal â chefnogi cyfeiriadedd yr adeilad.

Mae'r gwaith celf — sy'n cynnwys paentiadau, murluniau waliau, dodrefn newydd, ac arwyddion llawr — yn ymestyn drwy'r adeilad o fewn ystafelloedd clinigol ac anghlinigol. Y thema yw gobaith am y dyfodol, dechreuadau newydd, y byd natur lleol a'r byd y tu allan i'r uned. Yn ogystal â chyfrannu at y dewis lliw a gwaith celf, roedd cleifion yn helpu i ddewis lliw gynau cleifion.

Rhannodd claf: “Mae'r gwahaniaeth yn anhygoel. Mae'n llawer mwy croesawgar. Mae'r gwaith celf yn tynnu eich sylw ac yn eich helpu i feddwl am bethau eraill ar wahân i pam rydych chi yno. Yn benodol, roedd y waliau wedi'u paentio â llaw yn yr ystafelloedd newid bach yn brydferth yn enwedig gan fod y lle yn gyfyng. Mae hefyd wedi helpu i wneud i’r fan deimlo'n llai clinigol. Roeddwn hefyd yn hoffi lluniau y staff yn y dderbynfa gan fod hyn yn helpu i wybod pwy oedd pwy.”

Roedd y prosiect yn ymdrech gyfan gan y gymuned, gyda chyllid gan grŵp codi arian Giving to Pink a'r Dylunwyr Mewnol, Julie Hughes a Claire Trotman, o Interiors Bridgend a enillodd y prif gontract. Mae Giving to Pink yn apêl codi arian ein helusen GIG Cwm Taf Morgannwg. Roedd nifer o artistiaid a chwmnïau eraill yn rhan o'r prosiect:

Dywedodd Zoe Barber, Llawfeddyg Ymgynghorol Oncoplastig y Fron a Chyfarwyddwr Arbenigedd Gwasanaethau Clinigol ar gyfer Gwasanaethau’r Fron yn BIPCTM: “Ar adeg all fod yn anhygoel o bryderus ac ansicr i ddefnyddwyr ein gwasanaeth, roedd mor bwysig creu lle croesawgar, cyfforddus sy’n tawelu’r meddwl. Dywedodd cleifion wrthym eu bod nhw eisiau rhywle nad oedd yn teimlo'n rhy glinigol a dyna union beth rydyn ni wedi ceisio ei ddarparu iddyn nhw. Mae'r tîm cyfan wedi gweithio'n anhygoel o galed gyda'i gilydd i wireddu’r freuddwyd hon a hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cymryd rhan am eu hymrwymiad a’u gwaith caled. ”

Erthyglau Cysylltiedig: Canolfan y Fron Snowdrop yn agor yn swyddogol

29/08/2024