Mae adnoddau cwnsela a hunangymorth ar lein ar gael bellach i bobl 11-18 oed ledled ein Bwrdd Iechyd, yn dilyn partneriaeth â’r gwasanaeth iechyd meddwl a lles ar lein digidol Kooth, sef gwasanaeth sydd wedi ennill sawl gwobr.
Mae BIP Cwm Taf Morgannwg wedi comisiynu Kooth i ddarparu cymorth lles emosiynol a gwasanaeth ymyrraeth gynnar ar gyfer iechyd meddwl am ddim i blant a phobl ifanc, gan gynnwys sesiynau cwnsela cyfrinachol un wrth un a mynediad 24/7 at adnoddau hunangymorth.
Cafodd Kooth ei ddewis oherwydd y gwasanaethau diogel a chyfrinachol y mae'n eu cynnig a'r tosturi mae’n ei ddangos tuag at blant a phobl ifanc. Gall unrhyw un rhwng 11 a 18 ymuno trwy fynd i’r wefan a chofrestru.
Dywedodd Dr Antonio Munoz-Solomando, Seiciatrydd Ymgynghorol Plant a’r Glasoed i Gwm Taf Morgannwg: “Mae ein Bwrdd Iechyd yn falch o gyhoeddi lansiad Kooth yn ein hardal. Fel gwasanaeth iechyd meddwl a lles ar lein gyda'r nod o gefnogi pobl ifanc rhwng 11 a 18 oed, mae Kooth yn wasanaeth hunan-atgyfeirio nad oes ganddo restrau aros na meini prawf penodol cyn y gellir ei ddefnyddio.
"Mae Kooth yn hawdd dod o hyd iddo, ac mae ganddo achrediad llawn gan Gymdeithas Cwnsela a Seicotherapi Prydain Mae gan Kooth werthoedd cryf ym mhob peth y mae’n ei wneud, ac maen nhw’n gweithio ochr yn ochr â phobl ifanc mewn modd hyblyg a thosturiol.
“Maen nhw wedi ymrwymo, ni waeth beth yw’r sefyllfa, i ddiwallu anghenion pobl ifanc, gan gynnig lle diogel iddyn nhw a sicrhau eu diogelwch bob amser.”
Gall aelodau Kooth fanteisio ar sesiynau cwnsela cyfrinachol un wrth un gyda chwnselwyr ac ymarferwyr lles emosiynol cymwys a hyfforddedig, 365 diwrnod y flwyddyn.
Mae sesiynau ar gael rhwng hanner dydd a 10pm yn ystod yr wythnos a rhwng 6pm a 10pm ar benwythnosau. Mae modd eu trefnu ymlaen llaw neu gellir cael sgwrs trwy negeseua gwib.
Yn ogystal, mae cefnogaeth cymar-i-gymar ar gael mewn fforymau trafod sydd wedi'u cymedroli ymlaen llaw, sy'n cynnig lle diogel i aelodau rannu eu profiadau a gofyn cwestiynau. Mae yna hefyd gynnwys hunangymorth ar ffurf cylchgrawn, wedi'i ysgrifennu gan dîm Kooth a’r aelodau ifanc eu hunain, yn trafod eu profiadau personol ac yn cynnig awgrymiadau defnyddiol.
Dywedodd Dr Lynne Green, Prif Swyddog Clinigol Kooth: “Mae effaith pandemig byd-eang wedi arwain at newid sylfaenol ym mywydau ac arferion beunyddiol pob cenhedlaeth. Ond, wrth i'r DU ddod allan o’r cyfnod clo yn ofalus, rhaid i les ac iechyd meddwl ein plant a'n pobl ifanc fod ar frig yr agenda.
“Rydyn ni'n gweld cynnydd yn yr angen am ein gwasanaethau wrth i bobl ifanc geisio addasu a chadw eu pryder am y normal newydd dan reolaeth. Mae aflonyddwch yn y byd addysg, yn y gwaith ac mewn bywydau cymdeithasol a phersonol pobl hefyd yn rhan o hynny. Rydyn ni’n falch iawn o weithio'n agos gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg i sicrhau bod pobl ifanc 11 i 18 oed yn gallu cael gafael ar gymorth iechyd meddwl cyfrinachol, am ddim, pryd bynnag a lle bynnag y mae ei angen. "
Cenhadaeth Kooth yw cynnig lleoedd hygyrch a diogel i bawb er mwyn hybu gwell iechyd meddwl. Mae'r gwasanaethau wedi'u diogelu'n llawn a does dim rhestrau aros, ac mae Kooth ar hyn o bryd yn gweld mwy na 4,000 o bobl yn mewngofnodi bob dydd.
Yn ddiweddar, lansiodd Kooth yr ymgyrch #DontDoItAlone ochr yn ochr â phum dylanwadwr adnabyddus i rannu pwysigrwydd peidio delio â lles meddyliol heb gymorth gan eraill. Gallwch weld yr ymgyrch yma.