Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth bydwreigiaeth 'Blodeuo' newydd i gefnogi teuluoedd

Mae disgwyl i wasanaeth bydwreigiaeth arbenigol newydd yng Nghwm Taf Morgannwg, gyda'r nod o gefnogi menywod a phobl beichiog ag anghenion cymdeithasol cymhleth, gael ei lansio ym Mhen-y-bont ar Ogwr y gwanwyn hwn.

Bydd gwasanaeth Blodeuo yn darparu gofal ymroddedig, sy'n seiliedig ar barhad, i deuluoedd sy'n wynebu heriau sylweddol, gan gynnwys problemau iechyd meddwl, cam-drin domestig, camddefnyddio sylweddau, ac ymgysylltu'n hwyr â gwasanaethau mamolaeth.

Bydd y tîm cymunedol newydd yn cynnig cefnogaeth fwy dwys a phersonol na gofal mamolaeth safonol. Bydd apwyntiadau'n hirach ac yn aml yn cael eu cynnal gartref neu mewn lleoliadau cymunedol hygyrch i helpu i feithrin ymddiriedaeth a gwella ymgysylltiad.

Bydd tîm Blodeuo hefyd yn gweithio'n agos gydag amrywiaeth o wasanaethau partner, gan gynnwys timau diogelu, arbenigwyr iechyd meddwl, a rhaglenni awdurdodau lleol, gan sicrhau dull cydlynol a chyfannol o ofal.

Meddai Suzanne Hardacre, Cyfarwyddwr Bydwreigiaeth ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg: “Mae’r fenter newydd hon yn ymateb i angen cynyddol, gyda 15.3% o bobl feichiog yn ein cymunedau wedi’u nodi fel rhai sydd â gwendidau dros y flwyddyn ddiwethaf.

“Mae tystiolaeth yn dangos bod parhad gofal gan dîm bydwreigiaeth ymroddedig yn arwain at ganlyniadau iechyd corfforol a meddyliol gwell, yn ogystal â chanlyniadau diogelu gwell i deuluoedd.”

Bydd y gwasanaeth yn cael ei dreialu ym Mhen-y-bont ar Ogwr i ddechrau, gyda'r bwriad o'i gyflwyno ar draws ardal y bwrdd iechyd os bydd yn llwyddiannus.

01/05/2026