Neidio i'r prif gynnwy

Gwaith yn cychwyn ar Ganolfan Iechyd a Lles newydd ym Mhen-y-bont ar Ogwr

Mae gwaith bellach wedi cychwyn ar ganolfan iechyd newydd gwerth £10.7m ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Bydd y ganolfan iechyd newydd yn cael ei hadeiladu yn y dref yn rhan o brosiect Pentref Iechyd a Lles Sunnyside. Bydd y Pentref yn diwallu anghenion cyffredinol, a bydd tai â chymorth yno hefyd yn ogystal â'r Ganolfan Iechyd a Lles.  Nod y datblygiad hwn yw darparu gofal yn agosach i'r cartref, gan integreiddio gwasanaethau sylfaenol a chymunedol yng nghanol y dref.

Bydd y ganolfan gofal iechyd, sydd i fod i gael ei chwblhau yr hydref nesaf, yn dod yn gartref i Bractis Grŵp Pen-y-bont ar Ogwr, sydd ar ddau safle ar hyn o bryd ym Meddygfa Ashfield a Meddygfa Newcastle. Bydd hefyd yn dod ag ystod o wasanaethau cymunedol ynghyd sy'n hybu iechyd corfforol ac iechyd meddwl.  Bydd ystod eang o wasanaethau yn dod ynghyd yn y pentref, gan gynnwys gwasanaethau therapi, iechyd meddwl, iechyd rhywiol, gwasanaethau deintyddol cymunedol a fferylliaeth sy'n cael eu darparu ar hyn o bryd yn Quarrella Road a Bryntirion.  Bydd lle yn yr adeilad hefyd i dimau amlddisgyblaethol a sefydliadau trydydd sector, er mwyn gallu darparu gwasanaethau iechyd a lles ar y cyd â phartneriaid.

Meddai Sarah Bradley, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Gofal Sylfaenol Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg: “Bydd y ganolfan newydd yn dod â gofal iechyd integredig i ganol y gymuned, gan wneud ein gwasanaethau yn fwy hygyrch. Bydd hyn yn helpu ein cleifion a’r boblogaeth sy’n parhau i dyfu, nawr ac yn y dyfodol.”

Bydd y datblygiad yn cysylltu â Chanolfan Life Pen-y-bont ar Ogwr, sy’n cyfuno llyfrgell, caffi cymunedol, gwasanaethau lles a chyfleusterau chwaraeon a hamdden. Bydd yn cynnwys gwasanaeth atgyfeirio i wneud ymarfer corff gan feddyg teulu yn gysylltiedig â Chaeau Newbridge.

Meddai Dr Neil Geraghty, sy’n meddyg teulu ym Mhractis Grŵp Pen-y-bont ar Ogwr:  “Rydyn ni wrth ein bodd bod y gwaith wedi cychwyn ar y ganolfan iechyd newydd. Bydd y cyfleusterau rhagorol newydd hyn yn ein galluogi ni i barhau i weithio’n agos gyda gwasanaethau cymunedol a thrydydd sector, gan ein helpu i barhau i ddarparu gofal o’r radd flaenaf ar gyfer ein cleifion.”

Mae’r datblygiad yn bartneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a Chymdeithas Dai Linc Cymru, a chaiff ei adeiladu ar safle hen swyddfeydd y cyngor ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Contractwyr WRW fydd yn gwneud y gwaith adeiladu.