Neidio i'r prif gynnwy

Gethin Hughes yn ymgymryd â rôl y Prif Swyddog Gweithredu yn BIP CTM

Gethin Hughes yn ymgymryd â rôl y Prif Swyddog Gweithredu yn BIP CTM

Y mis hwn, mae Gethin Hughes wedi ymuno â’r Bwrdd Iechyd fel Prif Swyddog Gweithredu newydd.

Daw Gethin o University Hospitals Sussex NHS Foundation Trust, lle roedd yn Brif Swyddog Gweithredu dros dro ers mis Medi 2020.

Ar ôl cael ei fagu yn ne Cymru a dechrau ei yrfa yn Ysbyty Brenhinol Caerdydd, mae Gethin wedi gweithio mewn nifer o uwch-swyddi gweithredol ar lefel y Bwrdd ac islaw’r Bwrdd mewn nifer o sefydliadau'r GIG sy'n darparu gwasanaethau acíwt, cymunedol ac iechyd meddwl, a hynny yn bennaf ar draws Llundain a de-ddwyrain Lloegr.

Yn ei rolau diweddaraf, mae Gethin wedi arwain rhaglenni sylweddol o drawsnewid gwasanaethau gan gynnwys rhaglen arloesol o ailgynllunio gwasanaethau cymunedol gan ddod â gwasanaethau cymunedol ynghyd â gofal sylfaenol. Yn fwy diweddar, mae wedi arwain y broses o integreiddio gofal sylfaenol y tu hwnt i oriau gyda gwasanaethau damweiniau ac achosion brys ar draws dau ysbyty acíwt.

Meddai Gethin: “Mae’n braf iawn dychwelyd i dde Cymru, ac rwy’n edrych ymlaen at ymuno â BIP CTM ar ôl cael fy ysbrydoli gan uchelgeisiau’r Bwrdd o ran gwella iechyd y boblogaeth a gwneud y gorau o’r cyfleoedd i integreiddio gofal ar draws ein gwasanaethau.

“Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at ymweld â’r gwasanaethau a chwrdd â chynifer o gydweithwyr a chleifion â phosib, er mwyn deall sut gallwn ni greu’r newidiadau fydd yn gwella’r canlyniadau i’n cleifion ymhellach.”

Meddai Paul Mears, Prif Weithredwr Cwm Taf Morgannwg: “Mae’n braf iawn penodi Gethin yn aelod parhaol o’r Bwrdd ac rwy’n falch iawn ei fod yn ymuno â ni.  Rwy’n gwybod y bydd Gethin yn cael cymorth Tîm CTM wrth iddo ymgartrefu yn ei rôl newydd yma.”

Gallwch chi ddilyn Gethin ar Twitter: @HughesGethin