Neidio i'r prif gynnwy

Gadewch i ni drafod dyfodol iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru

Trafodwch ddyfodol iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Beth sydd yn gweithio'n dda? Beth sydd angen newid? Sut allwn wella?

Ymunwch â Chomisiwn Bevan i ddweud eich dweud yn un o saith o ddigwyddiadau gweithdy.

Llandudno: 29 Medi 2023
Brycheiniog: 3 Hydref 2023
Caerfyrddin: 10 Hydref 2023
Trecelyn: 12 Hydref 2023

Barri: 19 Hydref 2023
Abertawe / Castell-nedd Port Talbot: 24 Hydref 2023
Merthyr Tudful: 26 Hydref 2023
Ar-lein (Zoom): 7 Tachwedd 2023

Bydd y digwyddiadau yn cael eu cyflwyno gan Gomisiwn Bevan, melin drafod iechyd a gofal mwyaf blaenllaw Cymru. Yn ystod y digwyddiadau hyn, byddwn yn siarad am yr heriau y mae'r sector iechyd a gofal cymdeithasol yn eu hwynebu, a'ch meddyliau ar sut y gellir eu gwella.

Bydd Comisiwn Bevan yn defnyddio eich safbwyntiau a syniadau o'r trafodaethau hyn er mwyn cynhyrchu adroddiad cenedlaethol ar gyfer Llywodraeth Cymru, yn ogystal ag adroddiad lleol ar gyfer pob Bwrdd Iechyd yn Nghymru, gan argymell newidiadau. Mae Comisiwn Bevan yn llais annibynnol y gellir ymddiried ynddo yn Nghymru, a bydd yr adroddiad hwn yn dylanwadu ar sut gaiff penderfyniadau eu gwneud.

Mae croeso i bawb yn y digwyddiad anffurfiol, rhyngweithiol hwn, gan gynnwys y rheiny sydd yn gweithio yn y maes iechyd a gofal cymdeithasol. Bydd lluniaeth ar gael.

I gadw eich lle yn y digwyddiad hwn, cliciwch y ddolen ganlynol: Sgwrs gyda'r Cyhoedd Comisiwn Bevan | Eventbrite

Fel arall, ffoniwch 01792 604630, neu e-bostiwch bevan-commission@swansea.ac.uk.

15/09/2023