Neidio i'r prif gynnwy

Dyfodol Iach Maesteg: Cyfnod Nesaf Ymgysylltu â'r Gymuned yn Dechrau

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn lansio cam nesaf ymgysylltu rhaglen ‘Dyfodol Iach Maesteg’ ac mae’n annog pobl ledled Maesteg a Chwm Llynfi ehangach i gymryd rhan.

Mae'r rhaglen yn canolbwyntio ar ddatblygu cynlluniau ar gyfer Canolfan Iechyd a Lles arfaethedig Cwn Llynfi yn Heol Ewenni, archwilio defnydd safle Ysbyty Cymunedol Maesteg yn y dyfodol, a gwella mynediad at wasanaethau iechyd a llesiant yn nes at adref.

Wrth i ymgysylltu symud ymlaen, mae'r Bwrdd Iechyd wedi ymrwymo i weithio gyda phobl leol, grwpiau cymunedol a sefydliadau partner i sicrhau bod lleisiau lleol yn parhau i helpu i lunio cynlluniau'r dyfodol.

Bydd y cam nesaf hwn o weithgarwch yn canolbwyntio ar ailadeiladu cysylltiadau â chymunedau, cynyddu cyfleoedd i gymryd rhan a sicrhau bod gan bobl fynediad hawdd at wybodaeth glir a chyfredol am y rhaglen.

Dros yr wythnosau nesaf, bydd trigolion yn gweld diweddariadau rheolaidd ar draws gwefan Dyfydol Iach Maesteg a sianeli cyfryngau cymdeithasol. Bydd y diweddariadau hyn yn egluro beth sydd eisoes wedi'i benderfynu, beth sy'n parhau i fod ar agor i ddylanwadu arno a sut y gall pobl leol gymryd rhan mewn cyfleoedd ymgysylltu yn y dyfodol.

Mae'r Bwrdd Iechyd wedi gwneud nifer o ymrwymiadau a fydd yn llywio ei ddull o ymgysylltu. Byddwn ni’n:

  • Gwrando ar brofiadau, syniadau a phryderon pobl leol.
  • Ymgysylltu’n agored ac yn dryloyw a rhannu adborth ar beth mae cymunedau’n ei ddweud wrthym.
  • Gweithio ochr yn ochr â chymunedau a chydnabod y rôl bwysig y mae pobl a sefydliadau lleol yn ei chwarae wrth wella iechyd a lles.
  • Cwrdd â phobl lle maen nhw drwy fynd â gweithgareddau ymgysylltu i gymunedau lleol a lleoliadau cyfarwydd.
  • Creu cyfleoedd parhaus i bobl aros yn rhan drwy gydol y rhaglen.

Er y bydd y cam cyntaf hwn yn canolbwyntio'n helaeth ar gyfathrebu digidol, mae gwaith eisoes ar y gweill i baratoi ar gyfer rhaglen ehangach o ymgysylltu cymunedol yn ddiweddarach eleni. Bydd hyn yn cynnwys cyfleoedd i gwrdd â chynrychiolwyr y Bwrdd Iechyd mewn lleoliadau lleol, mannau cymunedol a digwyddiadau ledled Cwm Llynfi.

Rydym yn annog trigolion i ymweld â gwefan bwrpasol Dyfodol Iach Maesteg i gael gwybod y wybodaeth ddiweddaraf, cael mynediad at wybodaeth am y prosiect, gweld cwestiynau cyffredin a darganfod am gyfleoedd sydd ar ddod i ddweud eu dweud.

Mae'r Bwrdd Iechyd hefyd yn annog pobl i rannu gwybodaeth gyda theulu, ffrindiau, cymdogion a rhwydweithiau cymunedol i helpu i sicrhau bod cymaint o leisiau â phosibl yn rhan o'r sgwrs.

Ewch i wefan Dyfodol Iach Maesteg i gael y wybodaeth a'r diweddariadau diweddaraf - Dyfodol Iach Maesteg.

Datblygu Cymunedau Iachach Gyda'n Gilydd.

28/08/2026