Neidio i'r prif gynnwy

Dweud eich dweud ar ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol 5 mlynedd diwygiedig

Mae gan bob corff cyhoeddus ddyletswydd i greu dogfen graidd a elwir yn Gynllun Cydraddoldeb Strategol. 

Mae’r Cynllun hwn yn gynllun gweithredu pwysig i unrhyw fwrdd iechyd. Mae’n amlinellu'r camau i'w cymryd i gefnogi a diwallu anghenion iechyd a lles y boblogaeth EDI leol, ac i leihau anghydraddoldebau iechyd.  

Diweddarwyd ein cynllun ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ddiwethaf yn 2020 ond mae ein sefydliad, a’r dirwedd rydym yn darparu gofal a gwasanaethau ynddi i’n poblogaeth leol, wedi newid yn fawr.

Rydym ar hyn o bryd yn adolygu ein cynllun ac yn gwahodd ein cymunedau, rhanddeiliaid a phartneriaid, a’n staff, i gyd i ddweud eu dweud ar ein camau gweithredu cydraddoldeb diwygiedig ar gyfer 2023-27.

Hywel Daniel, Cyfarwyddwr Gweithredol Pobl

“Rydym yn hynod falch o’n gweithlu a’n cymunedau diwylliannol amrywiol. Drwy ein Cynllun diwygiedig rydym am hyrwyddo, dathlu a chroesawu’r holl wahaniaethau diwylliannol sy’n gwneud ein Bwrdd Iechyd yn unigryw. 

“Mae ein cynllun diwygiedig yn canolbwyntio ar wella profiad gweithwyr a chryfhau diwylliant sefydliadol ar gyfer ein gweithlu yn CTM. Rydym yr un mor ymrwymedig i wella ein hymagwedd at roi dinasyddion, cleifion a defnyddwyr gwasanaeth wrth galon ein cynllunio a'n darpariaeth EDI a sicrhau bod ein poblogaeth EDI yn gallu cael mynediad at ein gwasanaethau a’n gofal mewn ffordd deg a chynhwysol, er mwyn effeithio ar eu canlyniadau iechyd a lles a phrofiad y claf. ”

Dweud eich dweud

Rydym wedi lansio arolwg cyhoeddus byr i wahodd adborth ar ein hamcanion EDI drafft ar gyfer y 5 mlynedd nesaf. 

Mae ein cynllun yn cynnwys pedwar maes allweddol (gydag amcanion yn sail i bob un):

Ein Gwasanaethau

Gwella profiad a chanlyniadau iechyd ein cleifion, gan sicrhau bod gan bob un o’n cleifion fynediad cyfartal at y gwasanaethau sydd eu hangen arnyn

Ein Pobl

Gwella ymgysylltiad a phrofiad staff, denu a chadw talent amrywiol a chreu amgylchedd cynhwysol lle gall pob cydweithiwr ffynnu.

Ein cymuned

Sicrhau bod grwpiau a dangynrychiolir a lleisiau sydd ddim i’w clywed yn aml yn cael eu cynnwys ar ddechrau dylunio a chyflwyno gwasanaethau.

Ein Seilwaith

Sicrhau bod cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn hanfodol i'r ffordd rydym yn gweithredu.

Mae rhagor o fanylion ar gael yma.

Byddwch hefyd yn gweld hyrwyddo ein cynllun gweithredu cydraddoldeb diwygiedig ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol Cwm Taf Morgannwg. Helpwch ni i rannu hyn gyda'ch rhwydweithiau a'ch cysylltiadau er mwyn sicrhau'r adborth mwyaf posibl o bob rhan o'n cymunedau.

Gallwch lawrlwytho ein holl adnoddau cydraddoldeb trwy ein Padlet Cymunedol EDI.

Gydag unrhyw gwestiynau, neu os hoffech ragor o wybodaeth, cysylltwch â ni yn: ctm_equality@wales.nhs.uk

 

09/05/2023