Mae gan bob corff cyhoeddus ddyletswydd i greu dogfen graidd a elwir yn Gynllun Cydraddoldeb Strategol.
Mae’r Cynllun hwn yn gynllun gweithredu pwysig i unrhyw fwrdd iechyd. Mae’n amlinellu'r camau i'w cymryd i gefnogi a diwallu anghenion iechyd a lles y boblogaeth EDI leol, ac i leihau anghydraddoldebau iechyd.
Diweddarwyd ein cynllun ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ddiwethaf yn 2020 ond mae ein sefydliad, a’r dirwedd rydym yn darparu gofal a gwasanaethau ynddi i’n poblogaeth leol, wedi newid yn fawr.
Rydym ar hyn o bryd yn adolygu ein cynllun ac yn gwahodd ein cymunedau, rhanddeiliaid a phartneriaid, a’n staff, i gyd i ddweud eu dweud ar ein camau gweithredu cydraddoldeb diwygiedig ar gyfer 2023-27.
Hywel Daniel, Cyfarwyddwr Gweithredol Pobl
“Rydym yn hynod falch o’n gweithlu a’n cymunedau diwylliannol amrywiol. Drwy ein Cynllun diwygiedig rydym am hyrwyddo, dathlu a chroesawu’r holl wahaniaethau diwylliannol sy’n gwneud ein Bwrdd Iechyd yn unigryw.
“Mae ein cynllun diwygiedig yn canolbwyntio ar wella profiad gweithwyr a chryfhau diwylliant sefydliadol ar gyfer ein gweithlu yn CTM. Rydym yr un mor ymrwymedig i wella ein hymagwedd at roi dinasyddion, cleifion a defnyddwyr gwasanaeth wrth galon ein cynllunio a'n darpariaeth EDI a sicrhau bod ein poblogaeth EDI yn gallu cael mynediad at ein gwasanaethau a’n gofal mewn ffordd deg a chynhwysol, er mwyn effeithio ar eu canlyniadau iechyd a lles a phrofiad y claf. ”
Rydym wedi lansio arolwg cyhoeddus byr i wahodd adborth ar ein hamcanion EDI drafft ar gyfer y 5 mlynedd nesaf.
Mae ein cynllun yn cynnwys pedwar maes allweddol (gydag amcanion yn sail i bob un):
Gwella profiad a chanlyniadau iechyd ein cleifion, gan sicrhau bod gan bob un o’n cleifion fynediad cyfartal at y gwasanaethau sydd eu hangen arnyn
Gwella ymgysylltiad a phrofiad staff, denu a chadw talent amrywiol a chreu amgylchedd cynhwysol lle gall pob cydweithiwr ffynnu.
Sicrhau bod grwpiau a dangynrychiolir a lleisiau sydd ddim i’w clywed yn aml yn cael eu cynnwys ar ddechrau dylunio a chyflwyno gwasanaethau.
Sicrhau bod cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn hanfodol i'r ffordd rydym yn gweithredu.
Mae rhagor o fanylion ar gael yma.
Byddwch hefyd yn gweld hyrwyddo ein cynllun gweithredu cydraddoldeb diwygiedig ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol Cwm Taf Morgannwg. Helpwch ni i rannu hyn gyda'ch rhwydweithiau a'ch cysylltiadau er mwyn sicrhau'r adborth mwyaf posibl o bob rhan o'n cymunedau.
Gallwch lawrlwytho ein holl adnoddau cydraddoldeb trwy ein Padlet Cymunedol EDI.
Gydag unrhyw gwestiynau, neu os hoffech ragor o wybodaeth, cysylltwch â ni yn: ctm_equality@wales.nhs.uk
09/05/2023