Neidio i'r prif gynnwy

Diwrnod Sepsis y Byd 2024: Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn deall Sepsis

Bob blwyddyn ar 13eg Medi, rydym yn ymuno â sefydliadau ac unigolion ledled y byd i nodi Diwrnod Sepsis y Byd.

Yn CTM mae gennym draddodiad hir o nodi'r achlysur hwn ac yn 2024 rydym yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau dan arweiniad y Timau Allgymorth Gofal Critigol a Vanessa Jones, yr Uwch Nyrs ar gyfer Dirywiad Acíwt.

Beth sy'n achosi Sepsis?
Mae sepsis yn cael ei achosi gan system imiwnedd eich corff yn ymateb yn annormal i haint yn y corff.

Mae'n gyflwr sy'n bygwth bywyd ac os na chaiff ei ddiagnosio'n gynnar, gall arwain at risg sylweddol i gleifion gan arwain at ôl-effeithiau parhaol neu newid bywyd, gan gynnwys organau’n methu a hyd yn oed marwolaeth mewn rhai achosion.

Mae baich sepsis yn parhau i fod yn broblem enfawr ledled y DU a'r byd.  Yn y DU yn unig, mae Ymddiriedolaeth Sepsis y DU yn dweud wrthym fod 48,000 o farwolaethau o sepsis a dros 245,000 o ddioddefwyr, llawer ohonyn nhw’n mynd ymlaen i ddioddef effeithiau iechyd tymor hir.

Yn CTM rydym yn benderfynol o barhau i wella cydnabyddiaeth a thriniaeth gynnar sepsis.

Mae stondinau gwybodaeth sepsis wedi'u sefydlu ar draws ein safleoedd i gefnogi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ar draws CTM i nodi unrhyw gleifion y maen nhw’n amau sydd mewn perygl o Sepsis, ac i addysgu staff ynghylch y camau uniongyrchol i'w cymryd gydag unrhyw un yr amheuir ei fod yn ymladd y cyflwr.

Rydyn ni hefyd wedi trafod arwyddion a symptomau Sepsis gyda chleifion sy'n ymweld â'n hysbytai heddiw.

Dywedodd Vanessa Jones, Uwch Nyrs, Dirywiad Acíwt a Thimau Allgymorth Gofal Critigol: “Fel bwrdd iechyd, rydym am gefnogi Diwrnod Sepsis y Byd i dynnu sylw at yr angen parhaus am hyfforddiant ac addysg staff a'r cyhoedd wrth gydnabod a thrin sepsis.

“Drwy gefnogi ein staff i adnabod arwyddion cynnar Sepsis, rydym yn eu helpu i deimlo'n fwy hyderus wrth wneud diagnosis a rheoli Sepsis yn brydlon, pan fyddan nhw’n ei amau gyntaf mewn claf. Rydym hefyd am wneud ein cleifion a'n cymunedau yn fwy ymwybodol o arwyddion Sepsis. Drwy wneud hyn, gallwn weithio'n rhagweithiol tuag at leihau niwed y gellir eu hatal a marwolaeth o Sepsis yn y dyfodol. “

Os hoffech ragor o wybodaeth, cysylltwch â'ch Tîm Allgymorth Gofal Critigol lleol.

Mae gan Ymddiriedolaeth Sepsis y DU lawer o wybodaeth ac adnoddau i'ch helpu i adnabod arwyddion a symptomau Sepsis (mewn oedolion a phlant). Cymerwch bum munud ym mis Medi i ddarllen cyngor yr Ymddiriedolaeth o’u hymgyrch ’Sepsis Savvy’.

I lawrlwytho Llawlyfr Sepsis am ddim gan Ymddiriedolaeth Sepsis y DU, dilynwch y ddolen hon:

Mae rhagor o wybodaeth am sepsis ac adnoddau addysgol ar gael yma:

13/09/2024