Neidio i'r prif gynnwy

Diwrnod Sepsis y Byd 2023: Codi ymwybyddiaeth o Sepsis ar draws Cwm Taf Morgannwg

Yr wythnos hon, mae ein Tîm Allgymorth Gofal Critigol, Uwch Ymarferwyr Clinigol Gofalu am yr Henoed a'r timau Uwch-ymarferwyr Nyrsio Cymunedol yng Nghwm Taf Morgannwg wedi bod yn codi ymwybyddiaeth o risgiau Sepsis, a'r arwyddion a'r symptomau i gadw llygad amdanyn nhw.

Bob blwyddyn ar 13 Medi, rydym yn ymuno â sefydliadau ac unigolion ledled y byd i nodi Diwrnod Sepsis y Byd, er bod llawer o'n staff yn cymryd rhan mewn digwyddiadau elusennol ymwybyddiaeth Sepsis drwy gydol y flwyddyn. 

Beth sy'n achosi Sepsis? Mae sepsis yn cael ei achosi gan system imiwnedd eich corff yn ymateb yn annormal i haint yn y corff.

Mae'n gyflwr sy'n bygwth bywyd ac os na chaiff ei ddiagnosio'n gynnar, gall arwain at risg sylweddol i gleifion gan arwain at ôl-effeithiau parhaol neu newid bywyd, gan gynnwys organau’n methu a hyd yn oed marwolaeth mewn rhai achosion.

Mae stondinau gwybodaeth sepsis wedi'u sefydlu ar draws ein safleoedd i gefnogi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ar draws CTM i nodi unrhyw gleifion y maen nhw’n amau sydd mewn perygl o Sepsis, ac i addysgu staff ynghylch y camau uniongyrchol i'w cymryd gydag unrhyw un yr amheuir ei fod yn ymladd y cyflwr.

Rydyn ni hefyd wedi trafod arwyddion a symptomau Sepsis gyda chleifion sy'n ymweld â'n hysbytai heddiw. Meddai Vanessa Jones, Arweinydd Nyrsio ar gyfer Dirywiad Acíwt, CTM:

“Mae Ymddiriedolaeth Sepsis y DU yn amcangyfrif bod hyd at 48,000 o farwolaethau o sepsis yn y DU bob blwyddyn. I lawer o gleifion, os caiff sepsis ei ganfod yn gynnar, gall fod yn haws ei drin.

Fel Bwrdd Iechyd, rydym yn cefnogi ein staff i adnabod arwyddion cynnar Sepsis ac i'w helpu i deimlo'n fwy hyderus wrth wneud diagnosis a rheoli Sepsis yn brydlon, pan fyddan nhw’n ei amau gyntaf mewn claf.

Rydym hefyd am wneud ein cleifion a'n cymunedau yn fwy ymwybodol o arwyddion Sepsis; drwy wneud hyn gallwn weithio tuag at leihau niwed y gellir ei atal a marwolaeth o Sepsis yn y dyfodol.”

Mae gan Ymddiriedolaeth Sepsis y DU lawer o wybodaeth ac adnoddau i'ch helpu i adnabod arwyddion a symptomau Sepsis (mewn oedolion a phlant). Cymerwch bum munud ym mis Medi i ddarllen cyngor yr Ymddiriedolaeth o’u hymgyrch ‘Sepsis Savvy’.

Ffynhonnell: Ymddiriedolaeth Sepsis y DU
Os ydych chi'n meddwl y gallai fod yn Sepsis, ffoniwch 111 neu trefnwch apwyntiad â'ch meddyg teulu a gofynnwch 'Allai fod yn Sepsis'?

Cefnogaeth Sepsis
Os ydych wedi colli rhywun annwyl i sepsis, neu os ydych yn oroeswr sepsis sy'n chwilio am wybodaeth i'ch helpu i wella, mae Ymddiriedolaeth Sepsis y DU yn darparu cymorth am ddim dan arweiniad nyrsys. Cysylltwch â ni heddiw: https://sepsistrust.org/get-support

 

13/09/2023