Neidio i'r prif gynnwy

Diwrnod Mam Daear

Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Fam Ddaear (22 Ebrill), bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn annog pobl i ailgysylltu â byd natur i wella eu hiechyd ac iechyd ein planed.

Hwn yw Diwrnod y Fam Ddaear cyntaf yn Negawd Adfer Ecosystemau’r Cenhedloedd Unedig. Mae ecosystemau’n cynnal yr holl fywyd ar y Ddaear. Po iachach yw ein hecosystemau, yr iachach yw'r blaned a'i phobl.

Ardal ddaearyddol yw ecosystem lle mae planhigion, anifeiliaid, ac organebau eraill, yn ogystal â’r tywydd a’r thirwedd, yn cydweithio i ffurfio swigen fywyd.

Bydd adfer ein hecosystemau sydd wedi eu difrodi yn helpu i roi diwedd ar dlodi, yn mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd ac yn atal difodiannau torfol. Mae treulio amser ym myd natur a’i adfer hefyd yn gallu bod yn hynod o fanteisiol i’n hiechyd a’n lles.  Fodd bynnag, allwn ni ddim llwyddo oni bai bod pawb yn cyfrannu.

Eleni ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Fam Ddaear, ewch ati i ailgysylltu â'r mannau gwyrdd a glas prydferth o'n cwmpas. Yn ein rhanbarth, mae cyfoeth o fannau naturiol prydferth, o gopa mynyddoedd uchel a pharciau gwyrdd agored ac eang, i draethau hamddenol a llwybrau anturus drwy goedwigoedd. Manteisiwch ar yr adnoddau mae byd natur wedi eu darparu a defnyddiwch nhw i deimlo'n well, cadw’n heini a thirio ein hunain ym myd natur.

Mae byd natur ar gael hefyd yn ein hardd gefn ac allan yn ein cymunedau lleol.

Mae rhaglenni cymunedol ar draws CTM yn rhoi’r sgiliau a'r wybodaeth i bobl fynd allan ym myd natur, ac yn gwneud y gorau o erddi cymunedol a mannau lleol i roi'r sgiliau hyn ar waith.

Ers 2010, mae Coed Lleol wedi cynnal gweithgareddau iechyd a lles yn llwyddiannus trwy eu rhaglen Coed Actif Cymru. Mae'r rhaglen hon wedi mynd o nerth i nerth gyda grwpiau ledled Cymru.

Yn ddiweddar, ymunodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ag Elise Hughes, Swyddog Prosiect Coed Actif, yn rhan o fenter plannu coed Canopi’r Frenhines ym Mharc Iechyd Keir Hardie ym Merthyr Tudful.

Ymhlith y gweithgareddau eraill bydd Coed Actif yn eu cynnal yn fuan mae sesiwn flas ar chwilota (foraging). Mae rhagor o wybodaeth yma.

Cymerwch ran

Dewch o hyd i’ch llwybr lles agosaf gyda’r Cerddwyr

Dysgwch am blannu a gweithgareddau eraill sy’n ymwneud â natur yng Ngardd Gymunedol Stryd y Ddôl

Darganfyddwch fanteision treulio amser ym myd natur trwy Anturiaethau Organig Cwm Cynon

Ymunwch â Gwirfoddolwyr Cefn Gwlad Pen-y-bont ar Ogwr

Ymunwch â rhaglen neu ddigwyddiad Coed Actif sy’n agos atoch chi.

Yn eich ardal chi

Darllenwch fwy am y rhaglenni a’r mentrau sy’n benodol i’ch ardal chi:

CBS Pen-y-bont ar Ogwr

CBS RhCT

CBS Merthyr Tudful

Darganfyddwch sut mae ein hymdrechion i ailgylchu’n fwy a rheoli gwastraff yn well yn ein helpu i leihau ein hôl troed carbon ac i ddiogelu ein hecosystemau.