Mae 12fed Mawrth yn Ddiwrnod Cenedlaethol Dim Ysmygu.
Mae ysmygu yn parhau i fod yn un o brif achosion marwolaethau ac afiechyd yng Nghymru. Dros y cyfnod 2020-22, amcangyfrifwyd bod 3,845 o farwolaethau y flwyddyn ymhlith y rhai 35 oed a throsodd yng Nghymru oherwydd ysmygu. Mae hyn yn golygu bod 10.7% ar gyfartaledd o’r holl farwolaethau yng Nghymru ymhlith y rhai 35 oed a hŷn yn y blynyddoedd hyn yn gysylltiedig ag ysmygu.
Mae Mark yn breswylydd CTM a dechreuodd ysmygu 50 mlynedd yn ôl. Trwy’r Gwasanaeth Helpa Fi i Stopio, yn ddiweddar llwyddodd i roi’r gorau i ysmygu am byth, mwynhau cerdded eto i’w siop leol, cario siopa adref, ac arbed tua £300 y mis.
Rhannodd Mark: “Mae’r gefnogaeth rydw i wedi’i chael gan Helpa Fi i Stopio wedi bod yn hollol wych. Mor fendigedig. Rydw i’n gwybod eich bod bob amser yno os ydw i'n cael trafferth.”
Gwrandewch ar ei stori lawn yn y fideo isod:
https://www.youtube.com/watch?v=s7JPSK1pcgw
Gweld rhagor o wybodaeth am gyrsiau Iechyd Meddwl Gorwelion Newydd, fel y cyfeiriwyd atyn nhw gan Mark.
Ymwelwch ag un o'n stondinau gwybodaeth
Mae ein timau Rhoi’r Gorau i Ysmygu wedi bod ar y safle yr wythnos hon yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, Ysbyty Tywysoges Cymru, ac Ysbyty’r Tywysog Siarl yn cynnal stondinau gwybodaeth i staff, cleifion ac aelodau’r cyhoedd. Os ydych chi'n ymweld ag un o'r ysbytai, galwch heibio i ddarganfod mwy am sut y gallwch chi helpu'ch hun neu'ch anwyliaid i roi'r gorau i ysmygu.
9yb–2yp yn y lleoliadau canlynol:
Yn ogystal, bydd ein tîm Rhoi’r Gorau i Ysmygu yn fyw ar radio GTFM fore Mercher (nodwedd cyswllt gymunedol) i godi ymwybyddiaeth am Ddiwrnod Dim Ysmygu, y gwasanaeth Helpa Fi i Stopio, a’r manteision o ddod yn ddi-fwg. Gwrandewch yn fyw neu edrychwch am y ddolen ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol.
Helpa Fi i Stopio
Helpa Fi i Stopio yw gwasanaeth rhoi’r gorau i ysmygu rhad ac am ddim y GIG yng Nghymru, sydd wedi’i gynllunio i roi’r cyfle gorau i ysmygwyr roi’r gorau iddi yn llwyddiannus. Mae astudiaethau'n dangos bod pobl sy'n defnyddio gwasanaethau proffesiynol rhoi'r gorau iddi deirgwaith yn fwy tebygol o lwyddo na'r rhai sy'n mynd ar eu liwt eu hunain.
Ewch i: https://www.helpafiistopio.cymru/
12/03/2025