Neidio i'r prif gynnwy

Diwrnod Ailgylchu'r Byd – Peidiwch â'i wastraffu!

Eleni ar Ddiwrnod Ailgylchu’r Byd, rydyn ni am dynnu sylw at y ffyrdd y gallwn ni i gyd fod yn #ArwyrAilgylchu bob dydd.

Bob blwyddyn, mae Diwrnod Ailgylchu’r Byd (18 Mawrth) yn cydnabod, ac yn dathlu, pwysigrwydd ailgylchu er mwyn diogelu ein hadnoddau sylfaenol, gwerthfawr a sicrhau dyfodol ein planed.

Eleni, rydyn ni am anfon neges syml i'n holl staff ac ymwelwyr ar draws CTM, sef peidiwch â'i wastraffu!

Peidiwch â gwastraffu eich cyfle i wneud gwahaniaeth. Mae pob darn o wastraff rydyn ni’n ei ailgylchu’n gywir yn ein helpu i leihau ein hôl-troed carbon ac yn atal deunyddiau y gellir eu hailgylchu rhag mynd i safleoedd tirlenwi.

Er ei fod yn ymddangos yn ddi-nod, gall un peth bach bob dydd wneud gwahaniaeth ar y cyd, a dyna pam dydyn ni ddim am i chi golli eich cyfle i gyfrannu.

O heddiw ymlaen, bydd posteri i’w gweld ar draws ein holl wefannau i'ch helpu i ailgylchu. Mae’r canllawiau hyn yno i’ch helpu i roi eich gwastraff yn y bin cywir, ac i atgoffa pobl am bwysigrwydd golchi unrhyw gynwysyddion bwyd cyn eu rhoi nhw yn y bin ailgylchu.

Ar draws y Bwrdd Iechyd, rydyn ni eisoes wedi gweld manteision ailgylchu i’r blaned ac i’n gwasanaethau.

  • Ar hyn o bryd, rydyn ni’n ailgylchu rhyw 40% o'n gwastraff bob blwyddyn, sy'n cyfateb i tua 57,000 o dunnelli o garbon.
  • Mae hyn yn arbed tua £14miliwn y flwyddyn i ni.
  • Yn sgil gwaith prosiect gyda’r adrannau theatr ac anaestheteg, rydyn ni wedi gwahanu gwastraff ac ailgylchu’n well, ac wedi arbed rhwng £4,000 a £8,000 y flwyddyn fesul theatr dan sylw o ganlyniad.
  • Mae 100% o’r gwastraff bwyd o’n safleoedd yn mynd at driniaeth treulio anaerobig yn hytrach na safleoedd tirlenwi.
  • Yn 2020-21, llwyddom ni i ddargyfeirio tua 230 o dunnelli o wastraff bwyd o safleoedd tirlenwi. Mae hyn yn pwyso bron cymaint â 12 o goetsys llawn pobl neu 35 o eliffantod Affricanaidd.

Meddai Craig Edwards, Rheolwr yr Amgylchedd, Gwastraff a Fflyd:

“Mae’n braf iawn gweld cymaint o frwdfrydedd gan ein staff a’n hymwelwyr i helpu ein Bwrdd Iechyd i gyflawni ei dargedau lleihau carbon.

“Prif nodau Rheoliadau Gwastraff 2011, yn unol â nod y Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff, yw sicrhau’r canlyniadau amgylcheddol cyffredinol gorau a diogelu'r amgylchedd ac iechyd dynol. 

“Pan fydd yn bosib yn dechnegol ac yn amgylcheddol, un o nodau allweddol y rheoliadau yw blaenoriaethu gwastraff i’w ailgylchu sydd wedi ei olchi’n lân yn hytrach na’i waredu fel yr arfer. Mae hyn yn cyd-fynd yn dda â thargedau Llywodraeth Cymru i’w cyrraedd erbyn 2030. Bydd ymdrech heddiw i annog pobl i wahanu gwastraff cyffredinol a gwastraff i’w ailgylchu, a’i lanhau’n iawn, yn helpu i fynd â ni gam yn nes at y targed hwnnw.”

Ychwanegodd Linda Prosser, y Cyfarwyddwr Gweithredol Strategaeth a Thrawsnewid:

“Mae hwn yn gyfle gwych i ni gyd weithio gyda’n gilydd i wneud newidiadau bychain sy’n cael effaith enfawr ar ein hamgylchedd.

“Mae ailgylchu’n rhan bwysig o’n strategaeth datgarboneiddio, ac mae gwahanu gwastraff yn ddoethach yn cynnig arbedion aruthrol o ran ein cost i’r amgylchedd a’n harbedion ariannol drwy reoli gwastraff yn well.

“Mae hyn i gyd yn bwysig er mwyn diogelu ein dyfodol a sicrhau ein bod ni’n barod am yr heriau amgylcheddol sydd o’n blaenau, a’r heriau iechyd a ddaw yn eu sgil.

“Mae ein strategaeth ar gyfer Cyd-greu Cymunedau Iachach yn sicrhau y byddwn ni’n gweithio gyda chymunedau ar draws CTM i gyflawni hyn, ac rydyn ni am glywed eich barn a’ch syniadau chi ynglŷn â sut i gyrraedd ein cerrig milltir amgylcheddol nesaf. Gyda’n gilydd, gallwn ni i gyd wneud gwahaniaeth.”

 

Rhagor o adnoddau

Ewch i’n Hafan Ailgylchu newydd.

Ewch i wefan Diwrnod Ailgylchu’r Byd

Dysgwch fwy am ailgylchu ar wefan Cymru yn ailgylchu