Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariad i gleifion GIG o bractis deintyddol Broadlands (Pen-y-bont ar Ogwr)

Diweddariad i holl gleifion y GIG ym mhractis deintyddol Broadlands (Pen-y-bont ar Ogwr)

Rydym yn y broses o anfon llythyrau at bob claf GIG o bractis deintyddol Broadlands yn egluro sut y byddwch yn cael mynediad at driniaeth GIG o fis Awst ymlaen.

Fe wnaethom ddweud y byddwch yn derbyn y llythyrau hyn erbyn diwedd mis Gorffennaf. Ymddiheurwn, ond mae ychydig o oedi. Gobeithiwn eu cael gyda chi yn ystod mis Awst.

Fodd bynnag, byddwch yn sicr y byddwch yn dal i allu cael mynediad at wasanaethau deintyddol y GIG.

Bydd y llythyr yn manylu ar yr hyn a fydd yn digwydd, ond i grynhoi, bydd yn esbonio sut y byddwch yn gallu cael mynediad at ofal arferol o bractis deintyddol arall yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr.

Peidiwch â phoeni os oes angen triniaeth ddeintyddol frys arnoch yn ystod y cyfnod hwn. Os oes gennych unrhyw chwydd, gwaedu, trawma neu boen ac angen gweld deintydd ar frys, ffoniwch ein llinell gymorth ar 0300 123 50 60.

Mae'r rhif hwn ar gyfer gofal deintyddol brys yn unig, nid ar gyfer gofal arferol neu archwiliadau. Bydd ein tîm yn rhoi apwyntiad i chi os ydych yn bodloni'r meini prawf gofal deintyddol brys i gael eich gweld.

Rydym hefyd yn bwriadu sefydlu practis deintyddol newydd yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr a byddwn yn rhannu’r holl wybodaeth am hyn cyn gynted â phosibl.

Unwaith eto, diolch i chi am eich amynedd yn ystod y cyfnod hwn, a byddwch yn dawel eich meddwl os oes angen gofal deintyddol brys arnoch, bydd ein timau yma i chi.

Diolch.